|
Nerth B么n Braich Casgliad o straeon yn hytrach na nofel
Adolygiad Eiry Miles o Nerth B么n Braich gan Janice Jones ac eraill. Gwasg y Bwthyn. 拢7.95.
Bydd awduron yn s么n yn aml am yr unigrwydd sy'n eu llethu weithiau, wrth ymlafnio am oriau ar eu pennau eu hunain, heb neb yn gwmni ond cymeriadau dychmygol eu stor茂au.
Dyna a ysgogodd Janice Jones, ar 么l mwynhau nofelau cywaith o Iwerddon, i geisio ysgrifennu ar y cyd ag awduron eraill.
Gwahoddodd Si芒n Eirian Rees Davies, Rhiannon Thomas, Caron Edwards, Gwen Lasarus, Annes Glynn ac Eurgain Haf i gydweithio 芒 hi ac aeth y saith ati i lunio nofel yngl欧n 芒 chystadleuaeth - ddychmygol - Merch Gryfaf Cymru.
Testun difyr Yn sicr, dewiswyd testun difyr a llawn posibiliadau ar gyfer y cywaith. Wedi'r cyfan, beth fyddai'n ysgogi rhywun i ymgymryd 芒'r fath gamp eithafol?
Pa fath o berson a fyddai'n dewis troi teiars a thynnu tryc yn ei amser hamdden?
A beth fyddai effaith y gamp ar fywyd menyw, o ystyried y rhagfarn sy'n dal i fodoli tuag at fenywod sy'n gwneud pethau 'anfenywaidd' ac yn 'esgeuluso' dyletswyddau teuluol?
Fel y gellid disgwyl, felly, mae Nerth B么n Braich yn llawn brwydrau corfforol ac emosiynol, wrth i ni ddilyn ymgais saith menyw i baratoi at ornest fawr Merch Gryfaf Cymru ym Mhortmeirion.
Wedi segura Fel un a oedd yn cas谩u chwaraeon yn yr ysgol ond sydd bellach wedi dod i fwynhau ymarfer corff, gallwn uniaethu 芒 stori Bethan yn arbennig, 芒'i hymdrech i ddod yn ffit ar 么l blynyddoedd o segura.
Daeth llu o atgofion i'r meddwl wrth ddarllen amdani'n ffugio anhwylderau er mwyn osgoi gwersi chwaraeon. Roedd y stori hefyd yn ymdrin yn gelfydd 芒 chyfeillgarwch, a'r modd y gall ffrindiau ymbellhau oddi wrth ei gilydd wrth dyfu'n h欧n.
Stori arall a greodd argraff arbennig oedd un Tania, oherwydd ei bod hi'n gwbl wahanol i'r cymeriadau eraill. Mae'r lleill yn Gymry Cymraeg o ogledd Cymru tra bod Tania'n ferch hil-gymysg, o gefndir di-Gymraeg yn y de.
Er nad oedd y dafodiaith ddeheuol yn argyhoeddi bob amser, a geiriau fel 'bl锚r' a 'twt' yn gymysg 芒 'wherthin' a 'ffaelu', mae Tania'n gymeriad o gig a gwaed.
Mae hi'n ferch galed, benderfynol, a dyhead cryf i lwyddo. Ond try'r dyhead hwnnw'n obsesiwn, nes ei bod yn barod i dwyllo er mwyn cyrraedd ei nod.
Trwyddi hi, gwelwn ochr dywyll cystadlaethau fel hyn ac effaith ddychrynllyd steroidau ar y corff.
Mae stori Meinir hefyd yn arbennig o ddirdynnol. Ar y dechrau, teimla euogrwydd dwys oherwydd ei bod yn treulio oriau'n hyfforddi yn y gampfa tra bo'i g诺r yn gofalu am y plant. Ond yna, caiff ei bwrw oddi ar ei hechel gan drychineb personol mawr, sy'n ei gorfodi i newid ei bywyd a gwthio'r gystadleuaeth o'i meddwl.
Cyngor Geoff Capes Cafodd yr awduresau gyngor gan Geoff Capes, pencampwr cystadleuaeth Dyn Cryfa'r Byd, ar faterion yn ymwneud 芒 diet a ffitrwydd.
Ar brydiau, gall y manylion hyn swnio'n chwithig ac yn annaturiol, megis pan ddywed Meinir wrth ei g诺r;
"... dydi o ddim yn gynllun ymarfer strwythuredig, nac ydi?"
Ac mae ambell ddarn arall yn swnio fel rhan o lyfr self-help yn hytrach na ffuglen. Serch hynny, mae'r wybodaeth yn gwneud y nofel yn realistig, ac yn gymorth i ddeall mor galed y mae'n rhaid gweithio i gymryd rhan mewn camp fel hon.
Llwyddiant? A lwyddodd y 'cywaith' hwn felly?
Nid wyf yn si诺r faint o gydweithio a fu rhwng yr awduresau mewn gwirionedd ac ni fyddwn yn defnyddio'r gair 'nofel' i ddisgrifio'r gwaith.
Yn hytrach, casgliad o straeon byrion ydyw. Gellir mwynhau pob pennod ar ei phen ei hun ac er bod gorgyffwrdd rhwng stor茂au rhai cymeriadau, ni cheir dilyniant a datblygiad fel y byddem yn ei ddisgwyl mewn nofel.
Teimlaf y byddai Nerth B么n Braich ar ei hennill petai'n canolbwyntio ar stor茂au pedair neu bum merch yn hytrach na saith ohonynt gan fod rhai o'r cymeriadau'n debyg i'w gilydd a disgrifiadau o'r cystadlu yn gallu bod braidd yn ailadroddus ar adegau.
Byddai hefyd wedi bod yn braf cael rhagor o amrywiaeth yn lleoliadau'r stor茂au, oherwydd bod y rhan fwyaf ohonynt yn digwydd mewn ardaloedd gwledig yng ngogledd Cymru. Oni fyddai cystadleuwyr o bob cwr o'r wlad yn cymryd rhan yn 'Merch Gryfaf Cymru'?
Prinder hiwmor Roeddwn hefyd wedi disgwyl rhagor o hiwmor yn y nofel - efallai oherwydd y clawr pinc llachar, sgleiniog a'r broliant gogleisiol.
Mwynheais y disgrifiadau dychanol o'r 'cyfryngi' Mabon Blythe ond roedd rhai digwyddiadau, megis y diweddglo dros-ben-llestri a Buddug yn meddwi, yn llawer rhy amlwg ac anghynnil i fod yn wirioneddol ddoniol.
Oherwydd bod stor茂au rhai o'r merched mor ddwys, da o beth fyddai mymryn mwy o ddoniolwch ac ysgafnder.
Serch hynny, mae ambell stori wirioneddol dda yn Nerth B么n Braich ac mae'n gyfrol ddarllenadwy drwyddi draw.
A hyd yn oed os na fydd yn codi awydd arnoch i dynnu tryciau a throi teiars, bydd darllen am ymdrechion arwrol y merched yn si诺r o ysgogi ambell un i symud oddi ar y soffa!
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|