|
Y Proffwyd a'i Ddwy Jesebel 'Tynnu coes - gyda blas drwg'. Y Proffwyd a'i Ddwy Jesebel gan W T Davies a Gareth Miles. Gwasg Carreg Gwalch 2007. 拢7.50, tt. 211.
Enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2008
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Adolygiad Elfed ap Nefydd Roberts:
Mae darllen y gyfrol hon yn dangos yn eglur mai tynnwr coes heb ei ail yw Gareth Miles.
Mae'n gwneud ei orau glas i'n perswadio nad efo ei hun yw awdur y gyfrol ond ei fod yn 'golygu' atgofion newyddiadurwr o'r enw William Taliesin Davies.
Y cefndir
Mewn rhagymadrodd gan y gohebydd dychmygol cawn wybod ei gefndir, ei fagwraeth fel mab i ficer yn Sir F么n, ei addysg yn Llanymddyfri a Rhydychen, a'i benodi yn 1902 yn ohebydd ar y South Wales Daily News, swydd a ddaliodd hyd y flwyddyn 1922.
Honnai iddo groniclo hynt a hanes Diwygiad 1904-05, er nad yw'r un o haneswyr y Diwygiad yn gwybod dim oll amdano, yn wahanol i nifer o newyddiadurwyr eraill y cyfnod.
Y j么c fwyaf am y W T Davies hwn yw ei fod yn honni iddo gasglu tomen o wybodaeth am brif gymeriadau'r Diwygiad, yn enwedig am eu campau rhywiol, ac yn hytrach na chyhoeddi'r deunydd ar y pryd - fyddai wedi bod yn sg诺p o'r radd flaenaf - fe gadwodd y cyfan mewn hen gist de yn ei gartref nes i'r casgliad ddod i'r golwg yn Nawdegau y ganrif ddiwethaf a disgyn yn gyfleus i g么l Gareth Miles.
"Am gyfnod byr," meddai WTD, 'roedd bucheddau'r diwygwyr a'u gorchestion yn destun clecs ymhlith gwreng a bonedd."
Mae meddwl y byddai hack newyddiadurol yn ymatal rhag cyhoeddi deunydd mor ffrwydrol yn gwbl anghredadwy, yn enwedig pan oedd newyddiaduron a gelynion eraill y Diwygiad yn crafu ymhob twll a chornel am fawiach rhywiol i bardduo arweinwyr y mudiad ond yn methu dod o hyd i ddim.
Enwau ffug Daw hyn 芒 ni at elfen arall yn y tynnu coes, sef yr enwau ffug a roddir i brif gymeriadau'r Diwygiad - y pwysicaf ohonynt 'John Ivor Rees.'
Evan Roberts yw hwn, a hanes Evan Roberts yw hanes John Ivor - ei eni a'i fagu yng Nghaslwchwr, ei addysg yng Nghastell Newydd Emlyn, ei brofiadau ysbrydol mawr yng Ngheredigion a'i gyfarfodydd diwygiadol ar hyd a lled y wlad.
Ond yn gymysg 芒'r hanes ffeithiol ceir deunydd sy'n ffantasi llwyr, yn enwedig pan ddaw hi'n fater o ddisgrifio misdimanars rhywiol gwahanol rai yn y stori.
Un o'r ddwy 'Jesebel' yw Mrs Pennington-Rees, sy'n barodi o Mrs Penn Lewis - ac ni ellir meddwl am neb llai tebyg i Jesebel na'r wraig dduwiol-ecsentrig hon!
Yn y nofel gosodir hi mewn t欧 crand yng Nghaslwchwr a'i g诺r, David Pennington-Rees, yn berchennog un o lofeydd yr ardal.
Y gwir yw mai yn Brighton, Llundain a Chaerl欧r y bu hi a'i g诺r, William Penn Lewis, yn byw, nid yng Nghaslwchwr.
Cwbl ffans茂ol Un olygfa gwbl ffans茂ol a ffanastig (mewn mwy nag un ystyr) yw o gampau rhywiol David Pennington-Rees a'r forwyn, Fanny, ar y soffa yn Pennington House tra oedd ei wraig mewn cyfarfod diwygiadol yng Nghapel Moreia.
Mae'n rhaid fod W T Davies yn ohebydd o ddoniau cwbl anghyffredin ei fod yn medru disgrifio'n fanwl y cyfarfod yn y capel a'r giamocs yn lolfa Pennington House, a'r ddau yn digwydd yr un pryd!
Cymeriad allweddol arall yw 'Stanley Evans' - Sidney Evans, go iawn. Mae hwn yn cael ei bortreadu'n llawer mwy caredig ond unwaith eto mae'r ffeithiau hanesyddol yn gymysg 芒 ffantasi llwyr.
Ef sy'n priodi Magdalen Morgan, y 'Jesebel' arall yn y stori, a gafodd blentyn siawns oddi wrth Ivor Rees.
Mae Stanley yn cael ei ddadrithio gan ymddygiad Ivor Rees, yn cael ei glwyfo yn y Rhyfel Mawr ac yn troi at y ddiod ond doedd dim ymhellach o'r gwir.
Yn hytrach na chael ei ddadrithio fe aeth Sidney Evans yn genhadwr i'r India wedi iddo briodi Mary, chwaer Evan Roberts, a chwblhau cwrs academaidd o radd uchel yng Nghaerdydd - mewn Groeg, Hebraeg, Athroniaeth ac Arabeg!
Bu am flynyddoedd yn brifathro Ysgol Uwchradd yn Shillong ac wedyn yn Brifathro Coleg Diwinyddol Cherrapunji yn yr India, lle mae parch mawr i'w goffadwriaeth hyd heddiw. Bu farw yn 1960.
Putain yn Llundain Nid yw mor hawdd cysylltu Magdalen Morgan ag unrhyw un o'r merched fu'n perthyn i fintai Evan Roberts ond disgrifir hi fel un a fu, cyn ei thr枚edigaeth, yn butain yn Llundain: "yn hel tafarnau ac yn hel dynion," chwedl W T Davies.
Ond doedd neb o'r fath yn perthyn i d卯m Evan Roberts.
Yn ystod taith enwog Evan Roberts (Ivor Rees) i Lerpwl datblygodd y berthynas rhwng y Diwygiwr a Magdalen Morgan yn garwriaeth boeth a nwydwyllt gyda'r canlyniad i Magdalen ganfod ei hun yn feichiog.
Stori hollol anhygoel yw hon nad oes iddi ronyn o sail hanesyddol.
Yn ystod y rhan fwyaf o'i amser yn Lerpwl roedd Evan Roberts dan ofal John Williams, Brynsiencyn ac mae'n anodd dychmygu Evan (Ivor) a Magdalen yn gallu 'cario ymlaen'gyda'r fath angerdd o dan drwyn gweinidog pwerus Princes Road!
Blas drwg A dyma'n union lle mae'r tynnu coes yn dechrau gadael blas drwg ar ei 么l. Ydi, mae hon yn nofel ddarllenadwy, hwyliog, fel y gellid disgwyl o law llenor dawnus fel Gareth Miles.
Yr hyn sy'n fy mlino i yw'r modd y plethir deunydd di-sail i mewn i hanes ffeithiol mewn ymgais i bardduo neu i wneud sbort am ben cymeriadau a wnaeth gyfraniad aruthrol i fywyd crefyddol Cymru yn nechrau'r ganrif ddiwethaf.
Na, doedd Evan Roberts ddim yn berffaith, ac yr oedd rhai elfennau digon amheus yn Niwygiad 1904-05, y math o bethau a feirniadwyd ar y pryd gan bobl fel Peter Price, Dowlais.
Dim tystiolaeth Ond er yr holl ensyniadau a'r clecs a wasgarwyd ar y pryd, nid oedd rhithyn o dystiolaeth i ddangos fod perthynas anfoesol rhwng Evan Roberts ag unrhyw un o'r merched fu'n cydweithio ag ef.
Os am nofel am efengylwyr llac eu moesau a merched o'r un anian - a gwyddom am hanes rhai tebyg yn America: y tele-efengylwyr bondigrybwyll - iawn.
Ond mae camddehongli a gwyrdroi hanes Diwygiad 1904-05 i'r pwrpas yn annheilwng o un o allu a chyraeddiadau Gareth Miles.
Gwefan Llyfr y Flwyddyn 2008
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|