|
Cofio Grav Teyrngedau i arwr o Gymro
Adolygiad Wyn Gruffydd o Cofio Grav. Golygydd, Keith Davies. Lolfa. 拢5.
Cyfrol deyrnged i Ray Gravell yn cynnwys ysgrifau, teyrngedau ar y we a cherddi gan Tudur Dylan, Gwyn Thomas, Dylan Iorwerth, Bethan Gwanas ac eraill. Rhagair gan Hywel Teifi Edwards.
"Wyn bach, shwd wyt ti?"
Gyda'r pwyslais arferol ar yr "wyt", dyna gyfarchiad olaf Ray i fi y tro diwetha' i ni gwrdd rhyw bythefnos cyn ei farw.
A chyn imi gael cyfle i ddychwelyd y cyfarchiad, fe ddaeth yna reffyn o ymholiadau consyrnol ynghylch fy nheulu agosa' cyn i finne gael gair i mewn ac i ofyn - "Ond shwd wyt ti ?"
Un fel 'na oedd Ray. Rhywun oedd yn wirioneddol gonsyrnol am bawb, ond fe'i hunan.
Gwyddai pawb am galon "fawr" Ray o'r Mynydd - fe'i hagorodd hi i gynifer o bobl o bob haen o gymdeithas ac o bob cwr o'r byd yn ystod ei fywyd, ar ac oddi ar y cae chwarae, yn y byd darlledu ac yn ei fywyd cyhoeddus.
Do - "digwyddodd, darfu, megis seren wib" yng ngeiriau R.Williams Parry, neu "woosh" fel y bydde Ray ei hun yn ei ddweud.
Ond nid cyfrol i ruthro trwyddi yw Cofio Grav - wedi ei golygu yn synhwyrus iawn gan Keith Davies, cynhyrchydd ei raglen foreol ar Radio Cymru. 'Keith Bach' i'w gydnabod agosa' ond 'Keith bach, bach, bach' i Ray o barch i'r berthynas arbennig, arbennig, oedd rhyngddyn' nhw!
Yn y gyfrol, ac fel mae'r broliant ar glawr y gyfrol yn dweud - er bod hi'n anodd meddwl am "froliant" yng nghyd-destun Ray, am nad oedd nag ymffrost na malais yn agos at y dyn:
" ....fe gofnodir y golled a unodd y genedl, a'r atgofion cynnes a gofnodwyd am y cawr o Fynydd y Garreg. Yn brifeirdd a gwrandawyr ei raglen radio, yn wleidyddion a chwaraewyr rygbi, dyma deyrngedau ac atgofion i'w trysori."
Y galaru a unodd genedl roes fod i'r gyfrol gyda'r elw yn mynd i Gronfa Goffa Ray Gravell. Roedd yna swildod, a balchder oedd, a deigryn hefyd yn ei lygaid pan gefais i fy arwain m芒s i'r pasej ym Mrynhyfryd er mwyn i mi gael darllen y ddau englyn a luniwyd ac a gyflwynwyd gan y ddau brifardd Mererid Hopwood a Tudur Dylan i Ray pan oedd e yn Ysbyty Glangwili, ac y mae rheiny nawr ar gof a chadw o fewn cloriau'r gyfrol.
Tyrd a'th g芒n draw i'n canol ni eilwaith, Rho'r alaw i'th bobol. Ar un waith tyrd Ray yn 么l, Brysia wella yn hollol.
Tudur Dylan
Llenwaf fy mhedair llinell 芒 geiriau O gariad, i'th gymell. A mwy, Grav, rhof lond stafell I'th gael 'n么l yn hollol well.
Mererid Hopwood
Does na ddim yn newydd yn y syniad o ganu clodydd i un o'n glewia'. Mae hynny yn ein traddodiad marwnadu ni fel cenedl.
Lledwyd y newyddion am golli gwroniaid ac am orchestion ar faes y gad fel rhan o'r traddodiad llafar drwy'r Canol Oesoedd.
Mae'r syniad, fodd bynnag, yn newyddbeth mewn oes sy'n byw i'r funud ac yn taflu popeth o'r neilltu, ac nid pobl amlwg yn unig sy'n cael dweud eu dweud o fewn cloriau'r gyfrol.
Mae dweud Kev Bach, sy'n gefnogwr brwd i Glwb Rygbi Cwmllynfell yn crynhoi teimladau miloedd yn y diwrnodau wedi diwrnod ei farw:
"Graf nath i fi sylweddoli bod dim rhaid i'n Gymrag i fod yn Gymrag posh. Sdim dowt amdani - odd, odd e'n fachan sbeshal iawn. "
A cheir s么n gan Lyn Ebenezer am golofn Peter Jackson yn y Daily Mail lle mae'n dweud; "Roedd curo Lloeger i Graf fel mynd ati, mewn rhyw ffordd fach, i wneud iawn am ganrifoedd o anghyfiawnder."
Dylai ei golofn gael ei fframio a'i gosod ar wal pob cartref yng Nghymru medde Lyn.
Mewn hanner canrif a mwy pwy a 诺yr, falle y daw disgybl ysgol ar draws y gyfrol hon ar gwricwlwm addysg uwchradd a gorfod gofyn i'w hen dadcu, pwy oedd Ray Gravell.
A hwnnw'n egluro gyda balchder fel y byddai yn cofio i Grav forio canu caneuon gwladgarol cyn mynd m芒s i drechu'r Saeson bron ar ei ben ei hun ac fel y gallai gario Cleddyf Mawr y Steddfod ag un llaw, ac....
"... but gramps, who was Daffyd Iwan?"
Prynwch y gyfrol felly!
Mae Wyn Gruffydd yn sylwebydd rygbi ar S4C ac yn sgrifennu am rygbi yn Y Cymro.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|