麻豆社

Explore the 麻豆社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆社 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Geiriau a Gerais
Her i ddarllenwyr ddod o hyd i gerdd
  • Geiriau a Gerais - casgliad o hoff gerddi wedi eu dewis gan T Llew Jones. Gwasg Gomer. 拢7.99.


  • Ar ddiwedd yr erthygl hon gellir clicio i glywed sgwrs rhwng T Llew Jones a Dei Tomos.

    Mae her i ddarllenwyr yng nghyfrol ddiweddaraf T Llew Jones - yr her o ddod o hyd i awdur cerdd nad yw ef yn cofio ond un pennill ohoni.

    Yn y rhagair i'r casgliad o'i hoff gerddi a gyhoeddwyd ar gyfer Nadolig 2006 dywed;
    "Ni lwyddodd y cof i gadw'r cyfan . . . Fe erys rhyw un pennill o ambell gerdd ar gof ar 么l i'r gweddill fynd yn angof. Dyna'r pennill rhyfedd hwn," meddai:

    A phedwar cychwr ieuanc
    A'm dwg dros erwau'r lli
    I erw las yn Ynys M么n
    I gadw'r oed 芒 hi.

    Mae'n holi:
    "Pwy biau'r geiriau? Pwy oedd 'hi'?"
    "Holais y diweddar Bedwyr Lewis Jones ond ni wyddai ddim am y g芒n," meddai.

    Tybed all darllenwyr 麻豆社 Cymru'r Byd ddatrys y dirgelwch. Cliciwch i anfon ebost.

    Telyneg Eidalaidd
    Mae'n holi hefyd am eiriau llawn telyneg 芒 wobrwywyd yn eisteddfod Rhydlewis "amser maith yn 么l".

    Mae'n gwybod enw'r awdur y tro hwn - y diweddar Gwilym Ceri Jones - ond meddai:
    "Dychwelyd oedd y testun [ond] dim ond un pennill a erys yn y cof . . .

    "Roedd y bardd wedi canu i'r carcharor rhyfel Eidalaidd yn dychwelyd i'r Eidal o Gymru wedi'r rhyfel.
    Yn 么l dros gulfor perl Mesina,
    Hyfryd dychwelyd wedi'r drin;
    Rhydd Mair Fendigaid ei thiriondeb eto
    I lasu'r winllan grin.

    Bu chwilio mawr meddai am y g芒n gyfan "ond dim ond yr un pennill sy'n dal yn y cof."

    Mynnu aros yn y cof
    Mae T Llew Jones wedi cynnwys cant namyn tri o hoff gerddi yn y llyfr cymen hwn - cerddi y mae'n eu disgrifio fel rhai sy'n mynnu aros yn ei gof oherwydd rhyw arbenigrwydd sy'n perthyn iddynt;

    Clawr y llyfr "Rhyw bertrwydd ymadrodd neu ryw fiwsig geiriol," meddai.

    Yn delynegol ac ar fydr ac odl gan fwyaf maen nhw'n cynnwys cerddi tra chyfarwydd fel, Clychau'r Gog, Tylluanod ac Mae Hiraeth yn y M么r, R Williams Parry; Caethglud yr Ebol, Crwys; Y Llwynog, I D Hooson; Cwm Pennant, Eifion Wyn; Clychau Cantre'r Gwaelod, JJ Williams; Llan-y-d诺r, T Rowland Hughes; Y Tangnefeddwyr, Waldo Williams; Y Llanc Ifanc o L欧n, William Jones; Melin Tre-fin, Crwys; Englyn Llys Ifor Hael, Ieuan Brydydd Hir; Aberdaron, Cynan a cherddi traddodiadol fel Hiraeth ac Mae'r Esgid Fach yn Gwasgu.

    Ac wrth gwrs y mae o ddiddordeb mawr i'w edmygwyr beth sy'n mynd 芒 bryd saer geiriau a chynganeddwr mor fedrus 芒 T Llew Jones y mae ei eiriau ei hun wedi swyno blant ac oedolion.

    Ni fydd yn synnu neb fod cnwd da o gerddi gan feirdd y Cilie gyda deg o gerddi gan Alun Cilie.

    Mae dwsin o gerddi T Llew ei hun hefyd - ond dim ond un ferch sydd yma, Mererid Hopwood gydag un gerdd.

    Llai o ddiddordeb
    Fel bardd arall - sy'n cyhoeddi ei hunangofiant y Nadolig hwn, Gwyn Thomas - mae T Llew Jones yntau yn mynegi ei bryder am gyflwr yr iaith ac, yn ei achos ef, y trai yn y diddordeb mewn barddoniaeth.

    "Erbyn hyn mae diddordeb Cymry cyffredin mewn barddoniaeth wedi pylu'n arw," meddai.

    "Ymddengys nad oes cymaint o ddysgu rhigymau a phenillion ar y cof yn digwydd yn ein hysgolion . . . Colled y plant yw hyn wrth gwrs. Nid yw'r Ysgol Feithrin yn rhy gynnar i'r disgyblion ymglywed 芒'r miwsig sydd mewn geiriau - yn enwedig geiriau Cymraeg," meddai.

    Gormod o gerddi ysgolheigaidd
    Mae'n cwyno hefyd fod gormod o'r hyn a eilw yn "gerddi ysgolheigaidd" yn cael eu cyhoeddi gan anelu bys yn arbennig at gerddi'r Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

    Ond nid yw'n crybwyll cerddi'r Gadair.

    "Ond y prif reswm am y lleihad yn y diddordeb mewn barddoniaeth efallai yw bod y llif Saesneg cynyddol wedi gwanhau gwreiddiau'r Gymraeg.

    "Er bod y beirdd wedi cadw a gloywi eu geirfa er lles eu crefft mae erydu cyson yn digwydd yng ngeirfa'r Cymry 'cyffredin', a'r duedd felly yw i'r gagendor rhyngddynt fynd mo fawr nes iddynt fethu deall ei gilydd.

    "Cais i osgoi neu o leiaf ohirio hyn yw'r casgliad hwn," meddai.

  • Gweler Gwales

  • Bu Dei Tomos yn holi T Llew Jones am y gyfrol ar Raglen Dei Tomos ar 麻豆社 Radio Cymru, hanner awr wedi wyth, nos Sul, Tachwedd 19, 2006

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Pen-blwydd T Llew

  • Cyfarfod arwr

  • Trysorfa T Llew Jones


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆社 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy