Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Galwad y Blaidd
Hanes rhyfeddol o oes yr arth a'r blaidd . . .
  • Caron Wyn Edwards yn sôn am Galwad y Blaidd gan Cledwyn Fychan. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, £14.99.


  • Mae i'r blaidd le arbennig yn hanes Cymru - gyda'r gair yn elfen mewn dros 200 o enwau lleoedd yn ôl llyfr sy'n cael ei gyhoeddi Nadolig 2006.

    Yn wir, cyn bwysiced oedd yr anifail hwn y mae wedi sefyll ochr yn ochr â'r ddraig fel symbol o'n gwlad.

    O'r creadur rheibus a gafodd ei ladd gan Gelert ar aelwyd y Tywysog Llywelyn i'r Blaidd Drwg y bu'n rhaid i Dr Who ymladd ag ef yn ddiweddar, does dim gwadu grym y ddelwedd o flaidd - o hen chwedlau gwerin sy'n mynd yn ôl i niwloedd amser i ddiwylliant poblogaidd dechrau'r unfed ganrif ar bymtheg.

    Y mae'n ddelwedd sy'n pontio canrifoedd a diwylliannau.

    Clawr y llyfr Bellach, mae cyfrol newydd a gyhoeddir gan Gymdeithas Lyfrau Ceredigion yn mynd i'r afael â'r pwnc difyr hwn, o arferion byd natur i darddiad enwau lleoedd ac o hanes a daearyddiaeth i wyrthiau rhai o'r seintiau Celtaidd.

    Yn ffrwyth ymchwil trwyadl, Galwad y Blaidd gan Cledwyn Fychan (£14.99), yw'r llyfr cynhwysfawr cyntaf yn y Gymraeg i drafod ffenomenon y blaidd.

    Olrheinir ei hanes fel rhywogaeth ac edrychir yn fanwl ar ei ddylanwad ar lên gwerin a chwedloniaeth Cymru.

    Gyda'i doreth o luniau llawn lliw, bydd y gyfrol 320 o dudalennau hon yn drysorfa o'r annisgwyl, yr arswydus a'r rhyfeddol, lle y gall y sawl sydd â diddordeb ysol yn y pwnc a'r darllenydd mwy hamddenol fel ei gilydd ddarganfod:
    • O ble y daeth bleiddiaid
    • Sut y byddai bleiddiaid yn trefnu eu cnud
    • Pam ddiflannodd bleiddiaid o Gymru
    • Pam y cai bleiddiaid eu hela... a sut
    • O ble y tarddodd arswyd pobl tuag at fleiddiaid
    • Ymhle a phryd y cofnodwyd yr achosion olaf o ladd bleiddiaid yng Nghymru
    • Enwau pobl a llefydd sy'n tystio i'r blaidd
    • Yr achosion honedig o fleidd-ddynion yng Nghymru.

    Yr awdur
    Cafodd Cledwyn Fychan ei fagu ym mhentref Llanfair Talhaearn, yn un o froydd mwyaf diwylliedig Sir Ddinbych, cyn symud i ogledd Ceredigion yn Pumdegau.

    Er mai fel Gwarchodwr Cynorthwyol yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yr enillai ei fara beunyddiol am ran helaethaf ei yrfa, fel hanesydd lleol, arweinydd teithiau cerdded a darlithydd y gwnaeth enw iddo'i hun.

    O fewn meysydd eang ei arbenigedd ceir hel achau, hanes beirdd y canol oesoedd a hanes y ci defaid Cymreig.

    Ymddeolodd o'r Llyfrgell Genedlaethol bellach, ond erys cyn brysured ag erioed. Y mae'n cadw tyddyn a hon yw ei ail gyfrol.

    Cyhoeddwyd y gyntaf, Nabod Cymru yn 1969 ac mae'r oedi hir cyn i'r gyfrol hon weld golau dydd yn dyst i'w ddiwydrwydd a maint ei ymchwil ar ei chyfer.

  • Gweler Gwales



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Â鶹Éç Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý