麻豆社

Explore the 麻豆社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆社 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Enwau Adar
Cyfrol newydd gan Dewi E Lewis
  • Rhagor o Enwau Adar gan Dewi E Lewis. Llyfrau Llafar Gwlad. Gwasg Carreg Gwalch. 拢4.95.


  • Nico, Teiliwr Llundain, Peneuryn, Eurbinc, Gwas y Seiri, Gwas y Shiriff, Soldiwr Bach, Penwein . . .

    Anodd credu mai gwahanol enwau ar yr un aderyn yw y rhain.
    Aderyn y mae llawer ohonom - gan gynnwys y bardd, Cynan, yn ei adnabod fel Nico neu, yn y Saesneg, Goldfinch, a Carduelis carduelis mewn Lladin, os ydych am fod yn berffaith si诺r fod pawb yn s么n am yr un peth.

    Clawr y llyfr Aderyn gwyllt mor hynod o dlws yr oedd yn arferiad rai blynyddoedd yn 么l ei ddal yn y llwyni i'w gadw mewn cawell ac weithiau ei groesi 芒 chaneris.

    Ond aderyn, ta beth, y mae ei enwau cyn dlysed 芒'i blu fel y gwelir yng nghasgliad newydd Dewi E Lewis o enwau Cymraeg ar adar.

    Sawl enw
    Mae sawl aderyn sy'n cael ei adnabod wrth enwau gwahanol gan ddibynnu lle rydych chi'n byw ac un o fendithion y gyfrol hon yw ei bod yn nodi lleoliadau ffurfiau arbennig.

    Weithiau mae'r ffurfiau yn amrywiaethau amlwg ar ei gilydd - dro arall nid oes perthynas o gwbl rhwng dau enw.

    Hawdd deall sut y gall y Dunnock fod yn Llwyd Bach yn un lle (Sir F么n), yn Llwyd y Berth neu Lwyd y Clawdd rywle arall (Bangor).

    Mae modd amgyffred fod Siani Lwyd (Ll欧n) a Llwytyn y Berth (Sir Gaerfyrddin) yr un peth ond sut y daeth amrywiadau fel Gwas y Gog, Gwrachell y Cae, Gwigyn y Gog a Gwrach y Cae i fod yn enwau ar yr un aderyn?

    Does yna ddim ymgais i egluro fan hyn.
    Nid dyna amcan y gyfrol. Cofnodi'r enwau mae hi, ond y mae yna le i gyfrol eglurhaol debygwn i gyda chymaint cyfoeth o amrywiadau a'r rheini'n aml yn deyrnged i ddychymyg a dyfeisgarwch rhyw fathwyr anhysbys.

    Da darllen fod Dewi Lewis ei hun yn paratoi cyfrol o'r fath.
    Brysied!

    Disgrifio'r deryn
    Yn aml, golwg aderyn sy'n rhoi iddo ei enw - Gwylan Laswyrdd, Croesbig, Titw Barfog, Titw Tomos Las, Tylluan Wen, Robin Goch ac yn y blaen - cynefin dro arall - I芒r y Gors, I芒r dd诺r, Bras yr 欧d,

    Mae i arferion eu rhan yn yr enwi hefyd megis Cachwr Pen Rhaw yn Sir F么n am Sigil-i-gwt (Pied wagtail) a Jac Ffa am Jac-y-do a Llwyd y Baw (Dunnock).

    S诺n a sylwedd
    Adnabyddir adar eraill am eu s诺n - yr enghraifft amlwg yw'r Gwdihw ond fe gewch chi Clocder, Crecar a Clecar yr Eithin yn Sir y Fflint am Whinchat a chyfeiriad amlwg at s诺n yr aderyn sydd yn Bwm y Gors, Bwmp y Gors a Tabwr y Baw am Bittern neu Aderyn y Bwn yn 么l y g芒n werin.
    Yr un modd Sgrech y Coed.

    Diau mai cyfeiriad at glep yr hen fuddai glep ar waith barodd i rywun alw Aderyn y Bwn yn Buddai hefyd - ond mae'n beryg dyfalu fel hyn am ffynhonnell gair heb fod yn si诺r o'ch siwrnai.

    Cyfrol denau yw hon, dim ond 79 o ddalennau, ond y mae ynddi gyfoeth nad yw ei thrwch yn gymesur o gwbl ag ef.

    Mae wedi ei rhannu yn ddwy:
    Cymraeg - Lladin - Saesneg
    Saesneg - Lladin - Cymraeg
    Ac mae llyfryddiaeth fuddiol yn y cefn.

    Aderyn alltud
    Un o Borthmadog yw'r awdur ond yn "aderyn alltud" chwedl nodyn yn y llyfr; wedi mudo i Glydach, Cwm Tawe. Mae'n gyfarwydd ar y radio fel un o gyfranwyr y rhaglen fore sadwrn, Galwad Cynnar.

    Mae'r teitl Rhagor o Enwau Adar yn awgrymu mai cyfrol atodol yw hon a chyhoeddwyd y gyntaf yn 1994 ond meddai Dewi Lewis:

    "Ers 1994 newidiodd statws nifer o rywogaethau, ychwanegwyd nifer o enwau newydd i'r rhestr genedlaethol, enwyd ac ail-enwyd rhai rhywogaethau o fewn dosbarth gwyddonol. I ddweud y gwir bu cryn hollti plu ym myd adar.

    "Cynyddodd y nifer sydd yn gwylio adar ac o ganlyniad cynyddodd y cofnodi. Yng ngoleuni hyn i gyd meddyliais mai da o beth fyddai cyflwyno rhestr newydd o enwau adar," meddai.

    Diolch amdani; bydd yn cael ei chadw heb fod yn bell o gyfrol fach hwylus Iolo Williams, hefyd o Wasg Carreg Gwalch.
    Glyn Evans

  • Gweler Gwales

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Llyfr Adar Iolo Williams

  • Blodau Gwyllt

  • Galwad Cynnar


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆社 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy