| |
|
|
|
|
|
|
|
Llyfrau Plant - Nadolig 2006 Pengwin, eira ac odl dodl
Adolygiad llyfrau plant gan Anna-Marie Robinson Carwyn - Fy Mhengwin I gan Sioned Lleiniau.
Yn yr Eira, gan Mererid Hopwood.
Odl-Dodl Dolig gan Myrddin ap Dafydd.
Carwyn - Fy Mhengwin I gan Elizabeth Cody Kimmel, (Addasiad Sioned Lleinau) Lluniau H B Lewis. Gomer. 拢5.99.
Wedi siomiant y blynyddoedd a fu - gofyn am gar rasio coch a derbyn un 10 sentimetr o hyd - mae Ifan wedi dysgu gwers; mae'n rhaid disgrifio'n fanwl, fanwl, yn union be mae'n ddymuno ei gael gan Si么n Corn.
Eleni, mae o am gael pengwin. Nid un tegan, ond un go iawn sy'n anadlu a'i enw yn Carwyn.
A dyna'n union mae Si么n Corn yn ei roi iddo.
Ond wedi ychydig o ddyddiau mae Carwyn yn profi'n fwy na llond llaw - yn hoffi bath oer dyddiol ac yn bwyta pysgod i frecwast.
Dim rhyfedd bod Ifan yn dechrau ail feddwl am ei anrheg Nadolig berffaith, gyntaf erioed.
Ond sut mae dweud hynny wrth S茂on Corn?
Mae hon yn wych o stori all wneud i blant feddwl yn ofalus am yr hyn maen nhw'n ei ddymuno!
Mi wnaethom fwynhau hon ar sawl lefel, ac mae'n addas i blant pedair oed a throsodd.
Yn yr Eira, gan Anna Milbourne ac Elena Temporin (Addasiad Mererid Hopwood). Gomer. 拢6.99.
Does na'm dwywaith fod stori sy'n cynnwys eira yn bodloni'r plant ieuengaf wrth i'r gaeaf agos谩u.
Yn t欧 ni, nid yw'n Nadolig perffaith oni bai fod eira yn rhan o'r dathliadau.
Os na fydd eira go iawn eleni bydd y llyfr yma yn gam tuag at wneud iawn am hynny.
Yn swmpus a lliwgar mae'r lluniau yn fendigedig a'r stori yn s么n am hwyl y plant wrth iddynt chwarae a phartio yn yr eira - ac yna'n gobeithio na fydd haul y prynhawn yn ei ddadmer cyn y bore.
Cyfle i'r plantos gael eu swyno gan fydr ac odl y Prifardd Mererid Hopwood.
Odl-Dodl Dolig gan Myrddin ap Dafydd, lluniau gan Jose Solis. Gwasg Carreg Gwalch. 拢4.95.
Llyfr syml a pherffaith ar gyfer yr wythnosau nesaf wrth i deuluoedd edrych ymlaen at y Nadolig.
Mae teulu Huw Ifan hefyd wrthi'n paratoi, yn gwneud y pwdin, addurno'r goeden a gyrru bocsys sgidiau i blant mewn angen.
Huw yw'r ieuengaf yn y teulu ac, wrth gwrs, mae'n awyddus i helpu gyda phopeth - ond yn aml mae pethau'n mynd o chwith!
Stori sy'n odli yw hon ac yn un o nifer gan Myrddin ap Dafydd eleni.
Yn addas ar gyfer plant o ddwy neu dair oed a h欧n.
Cysylltiadau Perthnasol
Llyfrau eraill i blant
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|