麻豆社

Explore the 麻豆社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆社 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Aberfan - Y Dyddiau Du
Cerddi mewn lluniau
  • Adolygiad o Aberfan - The Days After, a journey in pictures - Y Dyddiau Du, taith trwy luniau, gan I C Rapoport. Parthian mewn cydweithrediad 芒 Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 拢24.99. Clawr meddal - 拢14.99.


  • Pan ddigwyddodd trychineb Aberfan un o anawsterau'r papurau newydd oedd darlunio beth yn union oedd wedi digwydd gan na allai llun na geiriau roi darlun cyfansawdd o raib y mynydd du a laddodd y 116 o blant a 28 o oedolion.

    Bu'n rhaid troi at graffeg ar gyfer hynny ac i'r diben hwnnw yr anfonodd y Sunday Times arlunydd o'r enw Peter Sullivan yno o Lundain.

    Creodd ef nifer o ddiagramau a gyhoeddwyd yn y papur dradwy'r trychineb - fel ag yr oedd i wneud pan chwydodd Llosgfynydd Etna ei lafa bum mlynedd yn ddiweddarach.

    Roedd ei ddiagramau dadansoddol o lwybr y tip yn garreg filltir, yn fan cychwyn yn wir, yn hanes y defnydd o graffeg eglurhaol ym mhapurau newydd y cyfnod modern.

    Ond er i ddiagramau ragori o safbwynt eglurhaol ni allent gystadlu 芒 lluniau a dynnwyd 芒 chamer芒u i gyfleu y gwewyr a'r galar. Ynddynt hwy y rhewyd yr wynebau trist, y budreddi, yr ing. A'r d眉wch.

    Y d眉wch.
    Achos y diwrnodau hynny nid gwastraff glo yn unig oedd yn ddu yn Aberfan - ond yr awyr a'r amgylchedd ei hun.

    Mae gan luniau rym arbennig i gyfleu y pethau hyn.

    Diau mai'r enwocaf o'r lluniau a gysylltir a'r diwrnod yw'r un ysgytwol o'r heddwas Victor Jones yn cario yn ei freichiau o'r llanast, Susan Marybanks fechan. Fe'i tynnwyd gan Melville Parry o'r Merthyr Express ac mae'n si诺r o fod y llun enwocaf erioed i fynd allan o Gymru i'r byd.

    Yn Efrog Newydd
    Ochr arall y byd, un o'r rhai a oedd yn dilyn yr adroddiadau am drychineb Aberfan oedd tynnwr lluniau arall o'r enw I C Rapoport a hynny yng nghlydwch ei gartref yn Efrog Newydd gyda'i unig fab pedwar mis oed yn ei g么l.

    I C Rapoport Yr oedd 'Chuck' Rapoport yn dynnwr lluniau o hil gerdd. Wedi ei eni yn y Bronx bu'n astudio ffotograffiaeth o dan Clarence White ym Mhrifysgol Ohio, Athens, Ohio, a'i swydd gyntaf oedd yn swyddfa Efrog Newydd Paris-Match.

    Dros y blynyddoedd tynnodd luniau John Kennedy, Marilyn Monroe, Elizabeth Taylor, Fidel Castro a Samuel Beckett a defnyddiwyd ei luniau gan Time, The Saturday Evening Post a'r National Geographic.

    Dau fis
    Y diwrnod hwnnw yn Hydref 1966 cafodd gymaint o hergwd emosiynol fe berswadiodd y cylchgrawn Life i'w anfon i Aberfan i wylio ac i dynnu lluniau'r gymuned wedi i'r newyddiadurwyr a'r ffotograffwyr arferol adael.

    Treuliodd ddau fis yno yn cofnodi ymdrechion y trigolion i ddygymod 芒 chwalfa na allwn ni hyd yn oed heddiw ond dychmygu'n niwlog ei briwiau emosiynol.

    Clawr y llyfr Yn 2005 cyhoeddodd Rapoport ddetholiad o luniau'r deufis hynny mewn llyfr dwyieithog, Aberfan - The Days After, a journey in pictures - Y Dyddiau Du, taith trwy luniau, a gyhoeddwyd gan Parthian Books a Llyfrgell Genedlaethol Cymru - lle'r arddangoswyd y lluniau.

    Bydd arddangosfa arall yng Nghastell Cyfarthfa, Merthyr Tudful, rhwng Hydref 29 a Rhagfyr 23, 2006, i nodi deugain mlynedd y trychineb ac mae'r llyfr newydd gael ei ailargraffu hefyd.

    Cyfnod galar ac ailafael
    Mae llyfr Rapoport yn arbennig am ei fod yn canolbwyntio ar y cyfnod dreng hwnnw i alarwyr pan ydynt yn ceisio dygymod 芒'r hyn sydd wedi digwydd iddynt a cheisio ffordd ymlaen.
    Y cyfnod anodd o geisio gweld rheswm mewn afreswm. O wrthsefyll ysictod.

    Byddai'n gyfnod anodd i unigolyn a gellid dychmygu ei fod yn waeth i gymdeithas gyfan wedi ei hysbeilio o genhedlaeth o'i phlant.

    Mewn du a gwyn
    Offer ac arfer sydd i'w gyfrif mai du a gwyn yw'r lluniau ond y mae hwnnw hefyd, trwy gyd-ddigwyddiad, y cyfrwng gweledol sy'n gweddu i'r pwnc. Byddai defnydd o liw wedi llareiddio'n ormodol y testun a'r awyrgylch.

    Cerddi i'r llygaid
    Nid oes geiriau wrth y lluniau - er bod rhestr gyflawn o benawdau i bob llun yng nghefn y gyfrol. Gellid cwyno fod hyn yn anhwylus. Ar y llaw arall gellir ystyried nifer o'r lluniau yn gerddi i'r llygaid.

    Nid cerddi o wneuthuriad dyn ond cerddi a gr毛wyd gan amgylchiadau a'u cofnodi gan ddyn gyda'r grefft, wedyn, yn y goleuo a'r fframio. Cerddi sefyllfa.

    Mae yn wir, mai gwyrth unrhyw lun yw na ellir ei dynnu byth eto. Rhewir yr eiliad i'w thrysori am byth. Ni ellir byth ddychwelyd i'w cofnodi eto.
    Hon ydyw'r afon ond nid hwn yw'r d诺r chwedl Williams Parry.

    Daliodd IC Rapoport sawl eiliad deimladwy.

    Y llun - neu'r 'gerdd' - a ddewiswyd ganddo ar gyfer y clawr yw un o fachgen penfelyn yn syllu'n syth i'ch llygaid o'r tu 么l i ddau sachaid hyll o lo a wal ddu tu cefn iddo.

    Mewn crys gwyn a'r wyneb a'r llaw eiddil wedi'u goleuo'n gryf mae'r cyferbyniad o harddwch eiddil a chaledi'r glo yn amlwg.

    Ond er grym y cnapiau yr wyneb sy'n tynnu'n llygaid.

    Fflachiadau o obaith
    Wrth gwrs bod yna ymgnawdoli tristwch llethol yn y gyfrol - "Gl枚wr wedi ymddeol yn syllu trwy ffenestr y dafarn ar safle drylliedig yr ysgol" tudalen 77 er enghraifft - ond y mae arwyddion o obaith hefyd:
    Mam gyda'r baban cyntaf i'w eni yn Aberfan ers y trychineb, tudalen 106 - ond amlinell lom tipiau glo i'w gweld drwy'r ffenestr yn atgof bygythiol.

    Yn ogystal 芒'r geni cyntaf mae lluniau hefyd o'r briodas gyntaf (97-99).
    Un yn llun telynegaidd o'r briodferch yn nhywyllwch ei hystafell a'i meddyliau'n unig yn gwmni iddi cyn cychwyn am y gwasanaeth.
    Ei gwisg yn wen mewn tywyllwch sy'n cuddio bron yn llwyr goeden Nadolig fechan ar ben cwpwrdd.
    Mae hon yn 'gerdd' huawdl i oedi'n hir 芒 hir.

     Mae yma luniau o blant yn chwarae. Ac o ferched yn ymweld 芒'r fynwent. O ddynion yn chwarae dartiau. Ac o blant yn chwarae o fewn golwg i'r fynwent ac o gyplau yn cofleidio mewn tafarn.

    Dair wythnos wedi Hydref 21 tynnwyd llun plant a ddihangodd; ar ddiwrnod cyntaf dosbarthiadau newydd dros dro (108). Ychydig dros 30 o wynebau i syllu'n hir arnynt . . .

    Gwylio heb rythu
    Un o ragoriaethau y casgliad yw na roddir yr argraff i Rapoport gamu dros y ffin denau honno rhwng gwylio a rhythu - rhwng cofnodi a defnyddio er mwyn creu str么c artistig.

    Yr un broblem yw honno, mewn gwirionedd, a'r un a wynebai'r rhai hynny a fu'n llunio erthyglau a chreu rhaglenni i gofio'r digwyddiad yr wythnos hon.

    Cyffyrddir 芒'r un peth mewn dadansoddiad ar ddiwedd y gyfrol gan Jeni Williams o Goleg y Drindod, Caerfyrddin, pan ddywed;
    "Ni ddylid anghofio Aberfan . . . Ond mae'r ffordd rydym yn ei gofio yn bwysig. Mae'n bwysig nad yw lluniau sensitif IC Rapoport yn coffau Aberfan fel safle dioddefwyr diymadferth.

    "Nid ydynt mewn unrhyw ffordd yn voyeuraidd. Ni sbardunant ymdeimlad o anallu ofnadwy i'r rheini sy'n edrych arnynt.

    "Maent yn drawiadol nid yn unig am eu bod yn cyfleu poen y gymuned ond hefyd am eu bod yn dogfennu ei hurddas a'i goroesiad," meddai.

    Hynny yw, llwydda Rapoport i gyflawni yr hyn y gall bardd da ei gyflawni gyda geiriau - ond mai ei 'eiriau' o ydi goleuni a chysgodion a gwahanol raddau o ddu a gwyn.

    Deufis fu o yno; wrth gwrs mae effeithiau'r hyn a ddigwyddodd yn Aberfan yn ymestyn hyd heddiw ac am sawl yfory i ddod mwya'r trueni. Cafodd o ddod, gweld a mynd - nid felly'r rhai yn y lluniau a byddai o ddiddordeb i ninnau wybod eu hynt heddiw y bachgen tu ol i'r sachau glo, y baban cyntaf, y ferch fach sy'n oedi rhwng y beddau . . .

    Ond y mae'r casgliad yn gyfrwng ac yn sbardun i ni fyfyrio am drychineb ddynol o gymaint maintioli - a chyd ymdeimlo.

  • O ystyried natur y gyfrol mae rhywun yn oedi, rhag ymddangos yn gysetlyd, cyn tynnu sylw at frychau - ond rhaid mynegi siom gyda safon ac anystwythder y Gymraeg.

    Tynnwyd sylw at hyn gan adolygydd arall pan gyhoeddwyd y llyfr gyntaf a byddai rhywun wedi gobeithio gweld rhywfaint o gymhennu ar gyfer ymddangosiad argraffiad newydd ond ni ddigwyddodd hynny ac y mae yr enw Llyfrgell Genedlaethol Cumru i'w weld o hyd ar yr wyneb ddalen.
    Glyn Evans
  • Gweler Gwales - adolygiad Marian Delyth

  • Cysylltiadau Perthnasol


  • Gwefan Aberfan


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆社 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy