|
W J Gruffydd - yn 90 oed Cerddi a ddarllenwyd yn ei barti pen-blwydd
Mewn cyfarfod arbennig yng nghapel Noddfa, Llanbedr Pont Steffan darllenwyd nifer o gerddi yn deyrnged i'r prifardd a'r cyn archdderwydd, W J Gruffydd, ar achlysur ei ben-blwydd yn 90 oed.
Mae W J Gruffydd - neu Elerydd - yn aelod ac yn Weinidog Anrhydeddus yn Noddfa.
Yn y cyfarfod, ar Fedi 24, 2006, croesawyd WJ a Mrs Gruffydd, eu mab Wyn a'i briod Gwyneth, a Mair eu merch, gan y Parchedig Jill Tomos. Yr emyn cyntaf a ganwyd oedd Preseli o waith y bardd ei hun.
Cyfansoddwyd geiriau'r ail emyn yn arbennig ar gyfer yr achlysur gan Beryl Davies, Llanddewi Brefi.
Cyflwynwyd anrheg gan y Parch Jill Tomos i W.J.ar ran yr eglwys ac mewn parti wedyn yr oedd cacen gyda llun o W J Gruffydd ar ei hwyneb.
Fe'i cyfarchwyd gan Dafydd Lloyd Jones a Beryl Davies - gyda Janet yn darllen cyfraniad Beryl yn ei habsenoldeb.
Yr oedd cerdyn mawr a gyflwynwyd ar ran yr Y sgol Sui yn cynnwys lluniau o hoff hanesion y plant a'r bobl ifainc o'r Beibl.
Y Cerddi I "W. J." yn ddeg a phedwar ugain gan Dafydd Lloyd Jones, Llambed:
Ymlwybraist drwy galedi
A hirlwm bro dy eni
I lwyfan ll锚n a phulpud ffydd
A'th wreiddiau 'mhridd Cwm Cedni.
Yng ngweithdy'r crydd cest gyfle I'th drwytho yn y pethe
'Roedd 'sgidiau Tomos yn dal d诺r
Bedyddiwr ydoedd ynte.
Llawryfau ddaeth yn gyson
Dwy goron o'r copaon.
Yn Ffair G诺yl Grog a'i sbri a'i s诺n Ffortiwn oedd hanner coron.
Llafuriaist yn ddiarbed
O lan i lan yn Nyfed
Cest gwmni Tomos Nant-Gors-Ddu,
A the'n y t欧 da Marged.
Swynaist dorfeydd Prif Wyliau
A'r myrdd o'r gwych bulpudau
Ond yng Nghaersalem rhennaist fraint
Y saint ar eu penliniau.
O'r werin cefaist seiliau
Yng ngwaddol dy gyndeidiau
Yn wir foneddwr, sugnaist faeth Frawdoliaeth gwlad y bryniau.
Boed dy ben-blwydd yn ddedwydd
Un teilwng o Archdderwydd.
Nid mynd yn hen, ond mynd yn h欧n
Fel gwin yn ei aeddfedrwydd.
Bendithiwyd di a theulu
Sy'n nerth a chysur iti,
Fe geidw Wyn a Mair a Jen
Y w锚n yn dy ffenestri.
Emyn a gyfansoddwyd ar gyfer dathlu pen-blwydd y Parchedig Brifardd W J Gruffydd (Elerydd) yn 90 oed gan Beryl Davies, Llanddewi Brefi:
Diolch Arglwydd am dy weision
Fu'n traddodi drwy eu hoes,
Fel bod eraill yn cael clywed
Am bwysigrwydd gwaed y Groes. Ger dy fron, down yn llon
I gydnabod rhain o'r bron.
Diolch Arglwydd am wladgarwyr,
Am lenorion ac am feirdd;
Wnaeth amddiffyn drwy eu doniau
Draddodiadau pur a heirdd. Glendid fu ddaeth i ni,
Drwy ein hetifeddiaeth gu.
Diolch Arglwydd am ymroddiad
Gweinidogion cryf eu ffydd
Dreuliodd eu bywydau'n gyfan
I'th foliannu Di bob dydd,
'N ddiwah芒n seinient g芒n Dan ddylanwad 'r Ysbryd Gl芒n.
Dyro Arglwydd inni barchu
Eu cyfraniad gwerthfawr hwy,
Ac i fyw yn debyg iddynt
Drwy'n bywydau ninnau mwy, Ti gei glod, Ddwyfol Fod, Tra bo byd a nef yn bod.
Penillion a gyfansoddwyd gan Beryl Davies, ar gais aelodau Capel Noddfa, Llambed, ar gyfer yr achlysur. Cyfeirir ym mhennill naw at hanesyn a geir yn Meddylu, W. J. Gruffydd.
Degawd sy'n brin o ganrif
Ers geni W.J.
Y g诺r wahoddwyd yma
Am baned bach o de.
A Jane sydd wrth ei ochr
Fel bu am amser maith,
Brenhines aelwyd gynnes A chwmni ar y daith.
Fe dreuliodd ei blentyndod
Ym mhentref bach Ffair Rhos,
Lle cafodd ysbrydoliaeth
Fel bardd, mewn bro mor dlos.
Dyn addfwyn ac urddasol
W锚l bawb pan yn y dref,
A hawdd dynesu ato -
O gofio pwy yw ef!
Mae'n gyn Archdderwydd Cymru;
Anrhydedd fwya'n gwlad
I'r bachgen bach amddifad A gollodd fam a thad.
Ei daid a'i nain a'i magodd
A thlawd fu bore oes,
Ond etifeddodd gyfoeth -
Cael nabod G诺r y Groes.
Ni chofiodd am enwadaeth
Wrth droedio drwy ein tir,
Gan draethu yr efengyl
O leiaf drwy dair sir.
Dros hanner canrif dreuliodd
Mewn gyrfa werthfawr iawn -
Yr hon oedd alwedigaeth;
A'i fywyd oedd yn llawn.
Hen atgof 'nawr yw bore
'R arholiad yng Nghaerdydd
Cael te a rhai biscedi
Pan rois y Glas hwy'n rhydd!!
Petrusais pan ofynnwyd
Im sgwennu cerdd i chwi,
O gofio'ch dawn aruthrol-
Pwy druan oeddwn i?!
Weinidog Anrhydeddus,
Mae'n bleser dweud ar go'dd;
Cofion anwylaf atoch,
A diwrnod wrth eich bodd.
A heno cewch fyfyrio
Ar ddydd fu'n olrhain hynt
Sut daeth y bardd Elerydd
I Fro Dawel o Fwlch y Gwynt. Beryl Davies, Llanddewi Brefi.
Cysylltiadau Perthnasol
Hanes W J Gruffydd
O Ffair Rhos i'r Maen Llog - adolygiad
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|