|
Twist ar 20 Plesio - er gwaethaf cymysgu enwau
Adolygiad Rhodri Llyr Evans o Twist ar 20 gan Daniel Davies. Lolfa. 拢6.95.
Ar un wedd, mae cyfrol newydd Daniel Davies yn chwa o awyr iach. Wrth ddarllen clawr cefn Twist ar 20, deallais yn syth nad yw'n gyfrol sy'n ceisio cyrraedd uchelfannau campwaith.
Yn hytrach, caiff y darllenydd wahoddiad diffuant iawn i eistedd, gorffwys, gwneud paned a dechrau darllen 10 stori fer - gan ofalu nad oes briwsion bisgedi'n disgyn rhwng y tudalennau.
Deg stori yn ymwneud 芒 phynciau eang - cariad, brad, gamblo, datganiadau piano, darts a physgota mecryll!
Felly, dyma dderbyn y gwahoddiad ac amgylchynu fy hun 芒 gwerth awr neu ddwy o fwyd a diod cyn dechrau arni.
Yn gyfrol berffaith ar gyfer pnawn Sul glawog, mae Twist ar 20 yn chwim, yn fachog a'r cyfan oll wedi ei sgrifennu mewn ffordd gyfarwydd a chynnes gyda thafodiaith gyfoethog Ceredigion yn wadin i'r naratif.
O gofio natur y stori fer, mae'n anodd ymgolli mewn unrhyw stori unigol - ac nid dyna yw y nod wrth gwrs, ond yn hytrach cynnig cip ar fywyd cymeriad - ffocysu ar fanylyn oddi mewn i'r llun mawr.
Dyna a gawn - a'r cyfan gyda dogn helaeth o hiwmor.
Mae natur bersonol, gyfrinachol, bron i'r straeon - fel petai prif gymeriad y stori honno yn datgelu ei stori a hynny'n slei bach.
Ond eto, mae modd ymgolli ynddi fel cyfrol. Hynny yw, gwneud sesiwn ohoni a'i darllen ar ei hyd, yn hytrach na drachtio cegeidiau bychain o straeon yn awr ac yn y man.
Er, digon hawdd fyddai gwneud hynny hefyd heb golli dim o natur gynnes yr adrodd, ond i'w gwerthfawrogi'n llawn, credaf mai ar ei thalcen y dylid ei drachtio.
Tro yn y gynffon Yn fuan iawn, daw arwyddoc芒d y teitl i'r amlwg wrth i'r awdur brofi ei fod wedi meistroli crefft 'y tro yn y gynffon' ond gan nad yw'n fwriad gennyf cael fy nghyhuddo o ddifetha'r llyfr, mi dawaf.
Er yn gyfrol 'gyfoes', mae'n canolbwyntio'n bennaf ar gymeriadau sy'n disgyn yn daclus dan faner 'canol oed' a chyda llawer o'r straeon, mae awyrgylch o argyfwng yn dilyn y cymeriadau fel rhyw gysgod hollbresennol sy'n gyfrifol am lywio'u hanes.
Priodas wedi colli'i fflach, swydd ddiflas neu hyd yn oed un o'r cysgodion mwyaf, unigedd - a'r cyfan yn gofyn i gymeriadau'r gyfrol weithredu.
Ac ni ellir ymbellhau oddi wrth yr holl gamblo sydd ynddi ychwaith gan gysylltu hynny ag argyfyngau'r cymeriadau. Herio trefn amser, gwrthod y llwydni a chwffio n么l.
Yn chwim Caiff natur chwim y gyfrol ei chyfleu yn y berthynas glos rhwng naratif a deialog. Ni cheir dyfynodau ynddi a chanlyniad hynny yw creu llif eithaf cyflym i rediad y naratif - y cyfan fel petai'n gwau yn un cipolwg brysiog ar fywydau'r bobl rhwng y cloriau gan adael y manylion diangen ar 么l.
Ni cheir ddisgrifiadau helaeth o f么r a mynydd a chlawdd a gorwel ond, yn hytrach, un frawddeg o ddisgrifio bachog sy'n llwyddo i ddweud y cyfan.
Gweler y disgrifiad o blant yn troelli o amgylch mam yn stori Egwyddor Eferest. Hyfryd o syml.
Cyfrol hwylus ac eithaf ffwrdd-芒-hi yw Twist ar 20 ac yn hynny o beth mae'n llwyddo.
Ond eto, mae gwendidau. Yn gyntaf, mae'r 10 stori, ar wah芒n i un neu ddwy, fel petaent yn dod o enau'r un cymeriad ac mae hynny, ar 么l pedair neu bum stori, yn gallu diflasu darllenydd. Hynny yw, mai eiddo'r un cymeriad oedd cyfran helaeth o'r straeon ac nid straeon cwbl annibynnol.
Ond nid yw'n wendid sy'n tarfu'n ormodol ond ar adegau yn peri i undonedd lechu ymhell ar y gorwel.
Cymysgu enwau Mae'r gwendid mwyaf o du'r golygu - neu'r diffyg golygu. Mewn dwy stori, o leiaf, mae enw cymeriad yn newid - Stephen yn troi'n Mark am frawddeg cyn dychwelyd yn 么l i Stephen am weddill un stori - heb unrhyw gyfeirio pellach at y 'Mark' dirgel.
Mewn stori arall, cawn ddisgrifiad o Simon yn cerdded at ddrws ffermwr a chyflwyno'i hun fel William Jones.
Mae'r fath wallau yn rhai y gellid fod wedi eu hosgoi gyda golygu sylfaenol.
Serch hynny, o anwybyddu camgymeriadau o'r fath, mae'r gyfrol yn llwyddo i wneud yr hyn 'a ddywedir ar y tun' sef diddanu.
Yr arf perffaith yn erbyn diflastod Sul glawog. Gweler Gwales
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|