|
Y Trwbad诺r Dennis O'Neill Hanes cerddor gan gyfaill
Gwybodaeth am Y Trwbad诺r Dennis O'Neill gan Frank Lincoln. Gomer. 拢8.99.
Heb fod nepell o faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni mae pentref Pontarddulais sy'n enwog am ei ddoniau cerddorol.
Yn gartref i gorau meibion a merched, c么r cymysg a seindorf mae'r Bont hefyd yn gartref i'r tenor Dennis O'Neill, sy'n cael ei bortreadu mewn cyfrol newydd gan gyfaill da iddo, y darlledwr a'r actor Frank Lincoln.
Yn Y Trwbad诺r Dennis O'Neill, a gyhoeddir gan Wasg Gomer cyflwynir portread personol o ffrind sydd hefyd yn un o gantorion gorau'r byd.
Bydd y llyfr yn cael ei lansio ym mhabell Cyngor Llyfrau Cymru ar faes yr Eisteddfod ddydd Mercher, Awst 9 am 2.30.
meddyg o Iwerddon Mae'r gyfrol yn frith o straeon difyr a ffraeth am Dennis a'i deulu fel y stori ryfeddol sut y bu i deulu'r O'Neills ymsefydlu ym Mhontarddulais o gwb - stori sy'n pwysleisio, yn 么l Frank, pa mor bwysig fu Ffawd yn hanes Dennis.
O Iwerddon yr hanai William - neu 'Doc' - O'Neill, tad Dennis, ond roedd brawd iddo wedi dod yn athro yn ardal Llanelli ac wedi darbwyllo'i frawd bod honno'n ardal ddelfrydol i fyw ynddi - cymaint felly nes i'r meddyg o Corc benderfynu dod ar hap i chwilio am ei frawd.
Ond yn wir pan gyrhaeddodd Doc yr ysgol lle gweithiai ei frawd, doedd dim croeso iddo, a'i frawd wedi ymadael am Lundain heb adael cyfeiriad.
Ffawd a'i harweiniodd i Bontarddulais a chafodd groeso yno yng Nghlwb y Gweithwyr a darganfod, yn ffodus, bod angen meddyg ar y pentre!
O fewn dim roedd wedi cael gwraig o blith merched y Bont, ac fe aeth Eva ac yntau i gael llond t欧 o blant, a cherddoriaeth yn amlwg yn eu gwaed.
Tynnwr coes Erbyn hyn, wrth gwrs, mae llais tenor Dennis O'Neill yn adnabyddus ledled y byd ac wedi perfformio mewn oper芒u ar lwyfannau enwog fel La Scala a'r Met yn Efrog Newydd.
Ond yn 么l y cyhoeddwyr, yr hyn sy'n pefrio drwy'r gyfrol hon yw cymeriad penderfynol, hynod o alluog sydd hefyd yn dynnwr coes heb ei ail.
"Un sy'n meddu ar synnwyr digrifwch penigamp ond un sy'n hollol broffesiynol yn ei ddewis faes," meddir.
"Er cyrraedd yr uchelfannau mae'r bachgen o Bontarddulais yn dal yn driw i'w wreiddiau ac er ei fod yn gyfaill i s锚r canu'r byd - fel y tystia rhai o luniau'r gyfrol - y mae'n dal wrth ei fodd yng nghwmni ei Fodryb Marion annwyl, sy'n dal i fyw ar y Fforest, ger Pontarddulais," ychwanegir.
Academi llais Bellach mae pennod newydd yn agor ym mywyd Dennis O'Neill, wrth iddo ddechrau ar waith newydd yn gyfarwyddwr Academi Ryngwladol y Llais yng Nghaerdydd - cynllun ar y cyd 芒 Phrifysgol Caerdydd gyda'r nod o roi hyfforddiant dwys i gantorion o bob rhan o'r byd sydd eisoes wedi dangos addewid mawr.
Bu Dennis O'Neill yn ymddiddori yng ngyrfaoedd cantorion ifanc o Gymru ers tro, a dyma oedd gan un o'r s锚r sy'n codi, Leah-Marian Jones, i ddweud amdano:
"Mae'n beth mawr i mi gael canu gyda Dennis O'Neill, achos mae e'n enwog dros y byd i gyd, a dwi ddim yn meddwl ein bod ni fel cenedl yn deall pa mor enwog yw e mewn gwirionedd."
A chan mai Il Travatore (Y Trwbad诺r) gan Verdi yw un o hoff oper芒u Dennis fu hi ddim yn anodd meddwl am deitl i'r gyfrol hon amdano ac yntau ei hun yn 'drwbad诺r' cyfoes yn canu a difyrru cynulleidfaoedd ledled y byd!
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|