|
Rhoces Fowr Dilyn camp gyda champ
Adolygiad Caron Wyn Edwards o Rhoces Fowr gan Marged Lloyd Jones. Gomer. 拢7.99
Mae'r disgwyliadau a ddaw yn sgil ail nofel yn ddigon dychrynllyd ar y gorau ac nid yw hynny fyth yn fwy gwir na phan fo'r nofel honno'n dilyn clamp o gyfrol gyntaf.
Wedi ei chyhoeddi yn 2002 cafodd Siabwcho, nofel gyntaf Marged Lloyd Jones, ei chymeradwyo ar hyd a lled Cymru oherwydd ei thriniaeth sensitif a deallus o bwnc cignoeth.
Ymhellach, roedd hi'n un o'r ychydig gyfrolau hynny yn yr iaith Gymraeg a addaswyd i'r Saesneg a chafodd yr addasiad hwnnw, Shame, ganmoliaeth yr un mor wresog.
Felly os dylai unrhyw gyfrol ddioddef o glwy'r 'ail nofeleitus' yna Rhoces Fowr gan Marged Lloyd Jones fyddai honno.
Y gwirionedd yw mai siomi ar yr ochr orau y mae hi.
Yn wir, os rhywbeth mae hi hyd yn oed yn fwy teimladwy ac yn fwy emosiynol na'r gyntaf.
Yn Siabwcho ceir ymdriniaeth sensitif o ferch ifanc yn cael ei chamdrin gan ei thad, ond yn Rhoces Fowr, mae Jini John, neu Jane Lloyd-Williams i roi iddi ei henw newydd, wedi dianc o Lety'r Wennol a'r tad creulon fu'n ei mocha pan ddylai fod yn gofalu amdani.
Bellach mae ganddi gartref anrhydeddus fel merch y plas - ond nid yw mor hawdd 芒 hynny i ddianc rhag hualau'r gorffennol.
Mwy beiddgar Yn hyn o beth mae Rhoces Fowr yn fwy beiddgar na'i holynydd ac yn hynny o beth mae'n bwnc y gall pob darllenydd i ryw raddau, uniaethu ag o.
Mae ei hamgylchiadau wedi gwella, mae ei haelwyd wedi gwella ond yr hiraeth yn parhau. Egyr y gyfrol gyda'r datganiad syml:
"Mae hiraeth arna i; 'hiraeth mawr a hiraeth creulon'. A fedra i ddim deall pam yn iawn. Hiraeth ar 么l Mamo? Wrth gwrs 'mod i'n hiraethu ar 么l Mamo, ond roeddwn i wedi dod i delerau 芒'i cholli, i raddau..."
Dechreua bendroni os mai hiraeth ar 么l Llety'r Wennol, cartref ei phlentyndod ydyw:
"Hofel o le oedd Llety'r Wennol, ond am y deuddeng mlynedd gyntaf o'm hoes, hwnnw oedd fy nghartref - yno roedd Mamo'n byw, a hwnnw oedd fy nghaer mewn llawenydd a chur.
"Roedd Dyta'n byw yno hefyd, ond gwnaf fy ngore i anghofio'r llabwst hwnnw...Y drwg yw na fedra i ddim. Ac efallai mai hynny yw'r prif reswm am fy nghyflwr hiraethus a'r iseldra."
Mae hiwmor . . . Serch hynny, mae hiwmor i'w ganfod yn y mynegiant, sydd drwyddi draw, yn llifo'n rhwydd ac yn huawdl.
Wrth ddisgrifio'r ymweliad gyda'r cyfreithwyr Jones, Thomas & Thomas, Cyfreithwyr, ceir s么n am gyfarfod y ddau Thomas, cyn ychwanegu:
"Ddaeth Jones ddim i'r golwg. Fe ddwedodd Dad-cu wrthyf ar y ffordd adre mai enw yn unig oedd 'Jones'; ei fod wedi marw ers blynyddoedd, ond eu bod yn cadw ei enw mlaen er parch iddo, ac er lles y busnes..."
Mae'r gosodiad yma mor fendigedig o sinigaidd ag i argyhoeddi'r darllenydd yn llwyr o'r math o gymdeithas sydd yma.
Geirfa odidog Mae gan yr awdur yn ei meddiant hefyd, eirfa gyfoethog, a thermau godidog megis: cysgu chwinciad cathchwys drab诺da'r disgrifiad o'r 'howsciper' newydd "yn eistedd yn gopa-dil ar ben y ford yn joio'i frecwast."
Wna i ddim difetha'r stori na'r diweddglo, ond fe wna i'ch annog i ddarllen hon.
Mae Rhoces Fowr yn berl o gyfrol, a does ond gobeithio bod llawer eto i ddod gan yr awdures. Gweler Gwales
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|