|
Tarandon Plant yn holi'r awdur
Cafwyd cyfle arbennig i gwrdd ag un o awduron amlycaf llyfrau plant ledled y byd ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Rhuthun wrth i Anthony Horowitz ymweld 芒'r 诺yl am y tro cyntaf erioed.
Roedd yr awdur yno ar gyfer cyhoeddi addasiad Cymraeg gan Grey Evans o'i gyfrol Stormbreaker - y gyfrol gyntaf yn ei gyfres Alex Rider.
Mewn digwyddiad ym mhabell S4C Mai 31, 2006, bu sesiwn cwestiwn ac ateb a lywyddwyd gan y cyflwynydd, Alun Williams.
Cyflwynodd Iddon Alaw Jones, sy'n actio Osian Powell yn Rownd a Rownd, ddarn o'r addasiad Cymraeg.
Dyma rai o'r cwestiynau - ac atebion - a gafwyd: Pam wnaethoch chi ddechrau sgwennu'n lle cyntaf?
Achos mod i'n dda i ddim mewn dim byd arall! Fi oedd y disgybl mwyaf dwl yn yr ysgol, wastad ar waelod y dosbarth.
Dwi'n cofio unwaith imi ddod yn wythfed ar hugain mewn dosbarth o 27!
Dwi'n cofio un athro gwaith coed yn sgwennu ar f'adroddiad ysgol i: "Woodwork? I wish he would work!"
Ond Geometreg oedd fy mhwnc gwaethaf i o dipyn. Roeddwn i mor wael; pan fyddai'r athro'n dweud wrtha i am fynd i sefyll i'r gornel am gambyhafio, o'n i'n methu'i ffeindio hi!
Pa lyfrau oeddech chi'n eu darllen pan oeddech chi'n ifanc?
Un o'r llyfrau cyntaf i mi ei ddarllen oedd Anturiaethau Tintin - ydach chi wedi clywed am Tintin? - ac un o'r prif resymau am hynny oedd bod 'na lot o luniau ynddyn nhw.
Dyna pryd ges i flas ar ddarllen am y tro cyntaf, ac wedyn es i ddarllen llyfrau gan awdur o'r enw Willard Price oedd yn sgwennu stor茂au efo 'Adventures' yn y teitl - Lion Adventure, Crocodile Adventure, Hamster Adventure - nid un o'r goreuon mae'n rhaid cyfaddef!
Yn fuan iawn wedyn mi ddois i ar draws gwaith Ian Flemming a hanesion James Bond, a darllen bob un o'r rheiny.
Pa lyfr wnaethoch chi fwynhau fwyaf?
Mae'n anodd deud pa lyfr dwi wedi ei fwynhau fwyaf o'r holl lyfrau dwi wedi eu sgwennu, ond yn sicr fy hoff lyfr Alecs Rider i ydy Stormbreaker, am mai hwnnw oedd y cyntaf.
Be da chi'n feddwl o'r ffaith bod Stormbreaker yn y Gymraeg r诺an?
Cymraeg yw'r bumed iaith ar hugain i Stormbreaker gael ei addasu iddi ac mae'n goblyn o fraint i mi. Dwi wrth fy modd hefo'r teitl Tarandon - mae o'n swnio fel cymeriad o un o'm llyfrau!
Pam wnaethoch chi alw'r prif gymeriad yn Alecs?
Cwestiwn gwych! Mae enwau cymeriadau'n bwysig iawn mewn unrhyw nofel a phan oeddwn i'n sgwennu Stormbreaker roeddwn i isio i'r enw gyfleu rhywbeth ac apelio at blant o'ch oed chi.
Felly dyma benderfynu mynd i ofyn i blant pa enw fyddai orau ar gyfer ysb茂wr 14 oed.
Ymwelais 芒 thros 100 o ysgolion ar hyd y wlad a rhoi rhestr o ddeg neu ugain o enwau iddyn nhw, gan ofyn i'r plant ddewis pa un oedd orau ganddynt ac Alecs oedd ar dop y rhestr honno o dipyn.
Er gwybodaeth, rhag ofn bod gennych chi ddiddordeb, Maurice oedd yr enw lleiaf poblogaidd a dyna pam nad ydw i wedi ei alw yn Maurice Rider!
Beth oedd y clawr gorau?
Dwi'n meddwl mai'r clawr gwyrdd yw fy ffefryn gan mai hwnnw oedd y cyntaf - ond hwn ydy fy ail ffefryn i.
Oes yna lyfr Alecs arall i fod?
Oes. Snakehead fydd enw'r nesaf ac er y bydda i wedi gorffen ei sgwennu'n fuan mae'n debyg na fydd yn ymddangos am sbel.
Mae 'na lyfrau eraill ar fin dod allan hefyd.
Dwi'n sgwennu bob dydd. Mae fy swyddfa mewn sied yng ngwaelod yr ardd, a does 'na neb arall ond fi'n cael mynd yno - neb ond y ci.
Dim ond y fi, y ci, y cyfrifiadur a photel o wisgi. Mae'r wisgi i'r ci!
Ydach chi'n edrych ymlaen at y ffilm?
Mi welais i o am y tro cyntaf yr wythnos ddiwethaf, yn ei gyfanrwydd ac mae'n rhaid imi ddeud imi ei fwynhau o'n arw.
Ond wedi dweud hynny os nad ydach chi'n mynd i'w fwynhau, a dwi'n golygu pob un wan jac ohonoch chi, yna fydda i mewn trwbwl!
Wedi'r sgwrs, treuliodd Anthony Horowitz dros awr brysur yn arwyddo llyfrau ar stondin Siop Lyfrau Elfair oedd yn rhan o stondin Cyngor Llyfrau Cymru.
Tarandon gan Anthony Horowitz. Addasiad gan Grey Evans. Gwasg y Dref Wen, 拢5.99
ISBN: 1855967340
Gweler Gwales
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|