麻豆社

Explore the 麻豆社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆社 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
M么n yr Ynys Hardd
Dal ysbryd yr ynys
  • Adolygiad Glyn Evans o M么n yr Ynys Hardd - Beautiful Island. Lluniau gan J C Davies a geiriau gan Margaret Hughes. Gwasg Carreg Gwalch. Maint A4 ar ei ochr. 拢14.50.


  • Dywed ei deitl y cyfan sydd angen ei ddweud am y llyfr hwn - casgliad o luniau trawiadol wedi eu tynnu ar Ynys M么n yn amlwg gan un sydd yn caru'r ynys a'i hynodion naturiol.

    Fel y dywedir mewn cyflwyniad nid oes anhawster dod o hyd i olygfeydd hardd i dynnu eu lluniau ar yr ynys hon.

    "Maent i'w cael yn frith ar gardiau post ac ar y llyfrynnau lliwgar sy'n adlewyrchu prif atyniadau'r ynys," meddir.

    Ond prysurir i ddweud mai dangos M么n fel y mae'r diwydiant ymwelwyr am inni ei gweld y mae'r rheini.

    Mynd ar 么l "gwir ysbryd" yr ynys y mae J C Davies sydd wedi byw ar yr ynys ers dros ddeugain mlynedd a hynny'n ddigon o gyfle iddo ddod i adnabod cilfachau cudd yr ynys hynod hon.

    Dal ysbryd M么n
    "Mae'i gamera wedi dal ysbryd M么n ym mhob tymer ac ym mhob tymor. Nid y canolfannau gwyliau sy'n dal ei lygaid, na'r traeth dan haul poeth canol haf. Y m么r, a'r broydd distaw wedi'u trwytho mewn chwedl a hanes - dyna ei F么n ef," meddir.

    A buan iawn y sylweddolwn mai mewn traethau unig, dan gymylau ac yn nannedd gwyntoedd y mae ei ddiddordeb ef - wedi i'r ymwelwyr gefnu.

    Mae ganddo ddawn i ddal pererin unig ar draethell neu aderyn bregus yn hwylio hyd llafn o olau'n hollti cymylau.

    Gan fod yna fwy nag un 'ysbryd' i le gallai dyn a chamera fod wedi dilyn sawl trywydd arall wrth gwrs gyda lluniau o bobl M么n er enghraifft a chredwch chi fi fe ellid llenwi llyfr a hagrwch 芒 stomp hefyd gan gyfleu ynys wahanol iawn.

    Nid dyna'r dewis yma ac y mae yma gyfansoddiadau penigamp sy'n cyfleu'r hyn yw'r ynys i J C Davies; yn drawiadol ac wedi'u goleuo'n ddiddorol. Yn wir, mae'r goleuo yn rhywbeth i sylwi'n hir arno yn llawer o'r lluniau hyn.

    Cychwyn ar Landdwyn
    Ar Ynys Llanddwyn y cychwyn ei daith gyda lluniau trawiadol o adfeilion ac o ewyn ar greigiau a chymylau bygythiol yn cau amdanom.

    Gyda phob llun mae ychydig linellau o wybodaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg. Weithiau mae rhywun yn teimlo yr hoffai fwy o ffeithiau difyr. Dro gellid hepgor geiriau pan nad ydynt ond yn disgrifio yr hyn a welir yn y llun beth bynnag.
    Ond, gan amlaf, mae llu o gregyn anghyffredin i'w pigo a'u pocedu:

    "Moroedd garw yn taro Ynys y Cranc ac Ynys y Mochyn. Aeth y stori y tu 么l i Ynys y Cranc yn angof - ond tybed ai ei si芒p sy'n gyfrifol amdano. Yn ystod cyfnod y llongau hwylio, gadawodd y Monk Borth Dinllaen am Lerpwl gyda llwyth o foch. Fe'i drylliwyd mewn tywydd garw. Suddodd y llong a boddodd y moch i gyd yn ymyl yr ynys fechan hon . . ."

    Bywyd gwyllt
    Nid golygfeydd yn unig sy'n dal llygaid y tynnwr lluniau ond bywyd gwyllt yn anifeiliaid ac yn blanhigion. Weithiau gellid fod wedi manteisio ar argraffu rhai o'r lluniau hyn yn fwy gan greu'r un argraff a'r llun trawiadol o wenynen wrth ei gwaith yn cynaeafu neithdar oddi ar rosyn Burnet neu'r llun o forwennol bigddu yn hedfan tua'i nyth gyda bwyd yn ei phig.

    Llwyfan
    Byddai cyfaill yn tynnu arnaf trwy ddweud mai unig bwrpas Ynys M么n yw bod yn llwyfan i edmygu Arfon oddi arno a chefais fy atgoffa o'r cellwair hwnnw gan lun trawiadol iawn a dynnwyd o gopa Mynydd Bodafon yn edrych tuag at ysblander Eryri.

    Ond y mae digonedd yn y gyfrol sy'n profi hefyd fod gan F么n ei thrysorau a'i hysblander ei hun - heb fod angen edrych tros y Fenai o gwbl.

    Cyfrol heb ei hail i'r sawl sy'n mwynhau lluniau ac yn enwedig y rhai sy'n mwynhau craffu i'r cysgodion a rhwng y gwahanol haenau o oleuni.

  • Gweler Gwales

  • Cysylltiadau Perthnasol


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆社 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy