|
Eigra Lewis Roberts Ei nofel Saesneg gyntaf
Mae Eigra Lewis Roberts newydd gyhoeddi ei nofel gyntaf erioed yn y Saesneg. Caron Wyn Edwards fu'n holi'r llenor am y fenter newydd hon.
Mae hi'n un o'n hawduron mwyaf toreithiog a phoblogaidd, mae hi wedi bod yn ysgrifennu ers ei hugeiniau cynnar ac wedi meistroli sawl cyfrwng yn y cyfnod hwnnw - o nofelau fel Rhannu'r T欧 i addasiadau fel C锚s Hana a gyhoeddwyd yn Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau y llynedd.
O ddram芒u teledu a Minafon, un o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C erioed, i straeon byrion a'r gyfrol Oni Bai sydd ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2006.
Meistr corn Ydi, mae Eigra Lewis Roberts yn feistr corn ar y grefft o ysgrifennu mewn sawl cyfrwng, ac yn awr gall ychwanegu un arall at y rhestr faith.
Return Ticket yw cyfrol gyntaf yr awdur o Ddolwyddelan yn y Saesneg, er bod ffraethineb y dweud ac esmwythder yr eirfa fel tae wedi bod yn sgrifennu yn yr iaith fain erioed.
Does ryfedd felly o'i chlywed yn dweud i'r broses o fynd ati i lunio Return Ticket ddod yn eitha' rhwydd iddi hi.
"Ches i ddim trafferth i'w sgwennu," cyfaddefa Eigra. "Mi ddechreuais i'r frawddeg gyntaf yn Saesneg, ac yn Saesneg y daeth hi. Dwi di trio pob math o gyfryngau dros y blynyddoedd ac i mi, dim ond un cyfrwng arall oedd hyn, dim ond mai'r iaith oedd y cyfrwng y tro hwn," ychwanega.
Dechrau gyda gweddi O'i holi os oedd y broses yn wahanol o'i sgwennu'n Saesneg, ateba,
"Nag oedd, ddim yn wahanol a dweud y gwir. Roedd y stori a'r hanes yn rhywbeth yr oeddwn i wedi bod eisiau ei sgwennu ers sbel," meddai.
"Y paragraff agoriadol hwnnw am y weddi,
'Remember me and my wife, Our John and his wife; Us four, no more, Amen.'
oedd y sbardun. Dwi'n cofio dad yn deud honno wrtha i'n blentyn, ac mi dyfodd y nofel o hynny.
"A thra bo rhai o'r pethau dwi'n sgwennu'n benthyg eu hunain i stori fer, neu ddrama neu beth bynnag, yn Saesneg y daeth hon i mi. Mae hi mor syml 芒 hynny," meddai.
"Wedi cyfan, y geiriau di'r pethau pwysig yn y dechrau - a'r diwedd sa' hi'n dod i hynny. Ffurfiau allanol ydy'r cyfryngau, geiriau ydy'r deunydd crai" atega drachefn.
Y Blaenau A beth bynnag fo iaith y gyfrol, mae hi'n parhau - fel sy'n wir am holl weithiau Eigra - yn gynhenid Gymreig, ac mae ardal chwarelyddol Blaenau'n elfen barhaus yn y cefndir. Mae hyn yn rhywbeth mae'r awdures yn ei gydnabod a'i gyfaddef yn gyfan gwbl.
"Yn tyfu i fyny'n y Blaenau, er nad oedd gen i ddim cysylltiad personol 芒'r chwarel fel y cyfryw, roedd hi wastad yno yn y cefndir.
"Ac mae Blaenau'n rhyw le fel 'na, fatha sa fo di cael ei gau i mewn, ynghanol y mynyddoedd. Ac yn wir, chydig iawn oedd pobl yn mynd o 'cw'r adeg honno, felly fanno'r oedd rhywun o ddechrau blwyddyn i'w diwedd."
Ac yn wir, gellir dweud fod sawl agwedd o Return Ticket yn ymdebygu i agweddau o fro ei mebyd.
Fel 芒 chymaint o'i gwaith, mae cynildeb y dweud yn golygu fod sawl haen i'r geiriau. Yn wir, mae ambell i egin stori fer o fewn y nofel, ac o grafu'r wyneb a chloddio'n ddyfnach mae cyfoeth o emosiynau a theimladau a them芒u.
Awgrymu pethau "Dyna dwi wrth fy modd yn ei wneud, awgrymu pethau wrth ysgrifennu, a chael sawl peth yn ffrwtian dan yr wyneb. Os ydy rhywun yn ei mwynhau hi fel mae hi, ar yr wyneb, yna gr锚t - dwi'n meddwl bod hynny'n andros o bwysig. "Ond mae modd darllen yn ddyfnach hefyd a gweld sawl peth amgenach ynddi gobeithio."
"Dyna i chi'r hanes na efo Llinos Wyn yn byta'r jeli b锚bis er enghraifft. Er bod hi'n bwyta eu pennau nhw gyntaf, tra bod Helen yn meddwl ei fod o'n dipyn ffeindiach byta'u traed nhw gyntaf, Llinos Wyn sy'n cael ei dewis i fod yn angal yn nrama'r Nadolig. Rhyw betha' bach fel yna fydda i'n licio eu sgwennu, rhyw betha bach sy'n awgrymu'n gynnil."
Tynnu ar atgofion Mae'r gyfrol yn tynnu ar atgofion hunangofiannol i'r awdures, yn enwedig yng nghyswllt perthnasau'r ferch fach, Helen, y prif gymeriad.
"Doedd f'ewythr i, fel Uncle Jack y stori, ddim yn dod o'r Blaenau'n wreiddiol a doedd o ddim isio bod yno.
"Un o Sir Drefaldwyn oedd o, ac yn fanno'r oedd o'n dal isio bod.
"Dwi'n ei gofio fo cyn ei farwolaeth yn syllu ar lun o'i gartref ar y wal, hen fwthyn bach yn Nhrefaldwyn. Ac roedd gen i fodryb fel Aunt Kate hefyd, dim ond fod darlun llawer mwy eithafol ohoni yn y llyfr."
Ond er bod elfennau hunangofiannol yn Return Ticket mae ymhell o fod yn hunangofiant.
"Waeth i bobl Blaenau heb na chwilio amdanyn nhw'u hunain ynddi," meddai Eigra.
"Dim ond rhyw gnewyllyn, rhyw wreiddyn bach o wirionedd sydd yn y nofel ac er i brofiadau wnaeth ddigwydd go iawn fod yn sbardun i lawer o'r hyn sy'n digwydd ynddi, proses greadigol oedd hi wedyn."
Return Ticket
gan Eigra Lewis Roberts.
Gomer. 拢7.99.
Cysylltiadau Perthnasol
Holi Eigra Lewis Roberts
Adolygiad o Oni Bai
Gwybodaeth am C锚s Hana
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|