| |
|
|
|
|
|
|
|
Geiriau Gwynfor Casgliad o eiriau gwleidydd
Yr oedd y saith o blant y diweddar Gwynfor Evans yn bresennol mewn noson i gyhoeddi cyfrol newydd, Geiriau Gwynfor wedi ei olygu gan Peter Hughes Griffiths.
Ac yn y cyfarfod hwnnw Chwefror 24, 2005, yng nghynhadledd Plaid Cymru dywedodd Mr Griffiths na fyddai Cynulliad yng Nghaerdydd heddiw oni bai am gyfraniad gwleidyddol "enfawr" Gwynfor Evans.
Meddai: "Ni fyddai adeilad newydd llywodraeth Cymru fyth wedi dod i Gaerdydd, nag unrhyw fath o gynulliad chwaith, oni bai am lafur oes diflino a di-ildio Gwynfor Evans."
Mae Geiriau Gwynfor yn cynnwys detholiad o anerchiadau a phethau a ysgrifennodd y gwleidydd yn ystod ei oes.
Mae o hefyd yn mynd i'r afael 芒'r gair 'Senedd' y mae cymaint o ymrafael yngl欧n ag ef y dyddiau hyn.
Meddai: "Slogan ymgyrchu oedd 'Senedd' yng Nghymru pan ddefnyddiwyd y gair yn wreiddiol. Bellach mae hi yn adeilad cynaliadwy arobryn... Mae hi'n adeilad cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol gwahanol iawn i'r hyn y dyh毛wyd amdani - mewn rhai agweddau yn llai nag a fwriadwyd, ond mewn ffurf a phensaern茂aeth a phosibiliadau yn sicr yn fwy nag a ddychmygwyd."
Ymhlith y siaradwyr yn y noson i gyhoeddi'r llyfr yr oedd Cyril Jones, Dafydd Williams, Dafydd Wigley a Guto Prys ap Gwynfor gyda Peter Hughes Griffiths yn cadeirio.
Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys portread o Gwynfor Evans gan ei ferch, Meinir, sy'n s么n am ei thad fel person llawn hiwmor a hwyl.
Yng ngweddill y gyfrol detholwyd geiriau Gwyfnor ei hun o areithiau, pamffledi, erthyglau a llyfrau gan Peter Hughes Griffiths.
Geiriau Gwynfor - Golygydd, Peter Hughes Griffiths. Lolfa. 拢9.95.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|