|
Dai Smith - pwysigrwydd hen nofelau Traddodi darlith Diwrnod y Llyfr
Mae adfywio diwylliant Cymru trwy adfer nofelau a oedd bron wedi'u hanghofio yn ffordd allweddol o wneud synnwyr o'n gorffennol.
Dyna neges yr Athro Dai Smith yn narlith Diwrnod y Llyfr Cymru 2006.
Yr Athro Smith, Athro Ymchwil Hanes Diwylliannol Cymru ym Mhrifysgol Abertawe, yw golygydd y gyfres Saesneg newydd, Library of Wales.
Mae'r gyfres hon yn sicrhau ailgyhoeddi clasuron Cymreig yn y Saesneg gyda chymorth Llywodraeth y Cynulliad.
Traddododd ei ddarlith yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd, ddydd Mawrth, Chwefror 28.
Arf grymusYnddi dadleuai'r Athro Smith fod gan y cynllun hwn i sefydlu ac ariannu'r Library of Wales botensial enfawr o ran creu gwell dealltwriaeth o'r diwylliant Cymreig.
"Mae llenyddiaeth yn arf grymus i gyfleu profiadau personol dyfnion cymdeithas. Gwneir hyn yn effeithiol iawn mewn gwaith dychmygol ond mae cyfryngau eraill yn llwyddo yn y maes hefyd," meddai.
"Ers canrif, yn Saesneg, i raddau helaeth, y bu ein profiad o fywyd a'r llenyddiaeth gyfoethog sy'n cyfleu'r profiad hwnnw.
"Ond nid yw'r llenyddiaeth hon, sy'n perthyn i ni, wedi'i chydnabod yn elfen hanfodol o'n gorffennol na'n dyfodol tan yn gymharol ddiweddar," ychwanegodd.
Gofidiodd na fu'r canfyddiad hwn o wir fywyd Cymru ar gael yn eang fel y gall y byd ddysgu am y Cymry er ymdrechion gan gyhoeddwyr, beirniaid, newyddiadurwyr ac hyd yn oed fiwrocratiaid.
'Banc atgofion' "Dim ond trwy ddarllen y llenyddiaeth hon y gallwn ni adfer y cydbwysedd yn ein dealltwriaeth ohonom ni ein hunain," meddai.
"Trwy ailgyhoeddi'r llyfrau gwerthfawr hyn yn y gyfres Library of Wales, gan sicrhau eu bod ar gael i'n hysgolion a'n colegau a'u hyrwyddo yng Nghymru a gweddill y byd, byddwn yn creu 'Banc Atgofion' a fydd ar gael i bobl Cymru am ddegawdau i ddod.
"Wedi'r cyfan, pobl Cymru sydd wedi creu'r cyfoeth cyffredin hwn ar gyfer y diwylliant cyffredin sy'n disgwyl cael ei greu," meddai.
Rai wythnosau cyn Diwrnod y Llyfr 2006 y cyhoeddwyd y pum llyfr cyntaf yng nghyfres yr Athro Smith: Country Dance gan Margiad Evans; Cwmardy a We Live gan Lewis Jones; Dark Philosophers gan Gwyn Thomas; Border Country gan Raymond Williams; a So long, Hector Bebb gan Ron Berry - pob un yn rhoi cipolwg o fywyd yng Nghymru yn y ganrif ddiwethaf.
Cyfle i ddathlu Wrth groesawu'r gyfres dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Alun Pugh: "Mae gan Gymru draddodiad llenyddol hynod gyfoethog ond, hyd yn awr, mae nifer o'r clasuron wedi bod allan o brint neu ddim ar gael i'r cyhoedd.
"Mae Diwrnod y Llyfr yn gyfle gwych i ddathlu ein treftadaeth ac i gyflwyno llenyddiaeth Saesneg o Gymru i gynulleidfa newydd."
Cysylltiadau Perthnasol
Digwyddiadau Diwrnod y Llyfr
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|