| |
|
|
|
|
|
|
|
Penbleth Dynol Ryw Bydded beiddgarwch
Adolygiad Glyn Evans o gyfieithiad Alun Ceri Jones o Penbleth Dynol Ryw gan Ralf Konig. Dalen. 拢7.99.
Disgrifiwyd y llyfr hwn fel un "mwya beiddgar y flwyddyn" pan gafodd ei gyhoeddi ychydig cyn y Nadolig, 2005.
Yn amlwg yr ydym i feddwl fod beiddgarwch, yn rhinwedd - ond dydi hynny ddim o anghenraid yn wir.
A beth mae rhywun i'w wneud o'r ffaith fod llyfr a gyhoeddwyd ym 1987 yn yr Almaen yn cael ei ystyried yn feiddgar gan rai yng Nghymru 2005?
Stori ar ffurf stribed lluniau ydi Penbleth Dynol Ryw gyda'r lluniau mor amrwd ag yw'r iaith o fras wrth ddilyn hynt a helynt bywyd ymhlith criw o hoywon.
Dyn 'str锚t' yng nghanol yr hoywon hynny ydi'r 'arwr' ac yntau newydd golli ei gariad.
Iaith goch Wrth gyflwyno'r gyfrol dywedodd Dalen:
"Mae'r lluniau'n gignoeth, mae'r iaith yn goch, ac mae'r acenion yn dew!"
Fe'i disgrifir hefyd fel "un o glasuron straeon stribed Ewrop sy'n sicr o gynhyrfu'r dyfroedd yng Nghymru."
Ym myd y beiddgar mae cynhyrfu dyfroedd hefyd yn cael ei ystyried yn rhinwedd ynddo'i hun wrth gwrs.
Erbyn dechrau Chwefror yr oedd y llyfr wedi cyrraedd rhaglen deledu'r Sioe Gelf a chael s锚l bendith hefyd, er ei bod yn anodd dweud pam yn union - ar wah芒n i'r "beiddgarwch" bondigrybwyll.
O un iaith i'r llall Nid bob amser y mae hiwmor yn cyfieithu'n dda o un iaith i'r llall. Enghraifft o drawsblannu llwyddiannus oedd y gyfres Asterix gydag ymdrech arbennig gan y cyfieithydd i ddod ag elfennau Cymraeg i'r gwaith.
Yr oedd yn addawol, felly, mai yr un yw'r cyfieithydd y tro hwn a go brin y bydd neb yn gweld beiau ar ei waith a'i ddyfeisgarwch ef.
"Mae Penbleth Dynol Ryw yn hollol wahanol i Asterix. Mae Asterix yn gart诺n stribed sy'n apelio at bobol o bob oedran ar wahanol lefelau ond mae Penbleth Dynol Ryw yn sicr yn stori stribed i oedolion 芒 meddwl agored ac sy'n hoffi hiwmor," meddai.
Gwnaeth waith arbennig iawn gyda'i ymadroddion meistraidd o ddi-chwaeth o iaith hoywon.
Anodd, fodd bynnag, cynnig enghraifft - heb s么n am enghreifftiau - i brofi'r pwynt hwnnw ar wefan 'deuluol' - ond tybed beth fydd gan drigolion y pentref yn Arfon i'w ddweud am yr ymadrodd, "Cymryd tro i gyfeiriad Penisarwaun" i olygu dyn sy'n gwyro i gyfeiriad hoyw ond sydd heb adael ei arferion hetrorywiol yn llwyr?
Yr enw ganddo am ddyn sy'n gwisgo dillad merched ydi "dynesydd".
Yr honiad yw fod yr iaith hon yn un sy'n cael ei harddel a'i defnyddio gan bobl ifanc go iawn.
Colli'i gariad Ta waeth am hynny mae'r stori'n troi o gwmpas Morgan 'Moc' Gruffydd sy'n dod i gysylltiad a Cris/Cristin a Hywi o Gylch Hoywon Caerdydd wedi i'w berthynas 芒'i gariad Rhian fynd yn ffradach.
Byrdwn hynny o stori sydd yna yw canfyddiad pobl hetrorywiol a phobl hoyw o'i gilydd a'r hyn a ddarlunir yw dylanwad ei gydnabod hoyw newydd ar Moc a sut y mae hynny yn peri iddo newid yn ei agwedd at rywioldeb wrth i'w ragfarnau simsanu.
Mae hyn oll yn cael ei wneud gyda dogn o'r hyn sy'n cael ei alw yn hiwmor beiddgar. Mae'r gair aeddfed hefyd yn un sy'n cael ei bedlera.
Siwr o fod y bydd i'r llyfr ei ap锚l yn rhai cylchoedd ond rwy'n amheus ai ymhlith yr aeddfed y bydd hynny ac ar wah芒n i'r hwyl 'termau rhywiol cyfyng yw ap锚l yr hiwmor hynny er efallai y bydd rhai ofn cyfaddef hynny rhag cael eu cyhuddo o fod hoywffobig.
Llafurus, trofaus ac heb fod yn slic o gwbl yw'r stori gan beri i rywun holi a fu hi werth yr holl drafferth o gyfieithu o'r Almaeneg.
Yn y pen draw, glastwraidd, yng Nghymru 2006, yw'r hyn a oedd yn feiddgar yn yr Almaen yn yr wythdegau.
Gweler Gwales
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|