|
Ll锚n yr Uchelwyr Llenyddiaeth Gymraeg 1300 - 1525
Adolygiad Rhodri Ll. Evans o o Ll锚n yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300 - 1525 gan Dafydd Johnston. Gwasg Prifysgol Cymru, 拢45.
Y gyfrol hon gan Dafydd Johnston yw'r gyntaf yng nghyfres newydd Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg ac mae'n canolbwyntio ar y cyfnod o 1300 hyd at 1525.
Ynddi cawn astudiaeth hynod fanwl a threiddgar sy'n rhychwantu un o gyfnodau mwyaf llewyrchus ein traddodiad barddol.
Mae'r 么l ymchwil yn amlwg. Hynny gan un sydd eisoes wedi ymsefydlu fel awdurdod ar y maes ac sydd wedi cyfrannu'n helaeth ato, yn bennaf oll gyda'i olygiadau o waith rhai o feirdd mwyaf arwyddocaol y cyfnod ac, yn wir, yn hanes ein ll锚n - Iolo Goch, Lewys Glyn Cothi a Llywelyn Goch ap Meurig Hen.
Fel y disgwylir, ceir penodau wedi eu neilltuo'n arbennig i feirdd - Si么n Cent, Lewys Glyn Cothi, Tudur Aled a Dafydd Nanmor i enwi pedwar yn unig - ond yn ogystal ceir penodau sy'n ymdrin 芒'r gyfundrefn farddol, y them芒u yn eu gwaith a'r cyd-destunau hanesyddol.
Mae'r bennod gyntaf - rhyw fath o gefndir hanesyddol - yn bennod agoriadol wych gan ei bod yn llwybr croesawgar i unrhyw un sy'n dewis troedio'r gyfrol gyfan.
Ffrwyth yr ymchwil yma yw i rai cerddi weld golau dydd am y tro cyntaf yn y gyfrol hon - hynny bron i hanner mileniwm wedi eu canu'n wreiddiol!
Mae'r cyfraniad hwn yn llwyddo, efallai, i wneud iawn am rai o'r camau a geir ynddi.
Soniaf am y rheini yn nes ymlaen.
Gwerth arhosol Ceir penodau ar rai o ffigurau a ffactorau mwyaf adnabyddus y blynyddoedd rhwng 1300 a 1525 - y bobl a'r pethau yr ydym yn eu cysylltu 芒'r cyfnod.
Neilltuir pennod gyfan i Dafydd ap Gwilym, pennod arall i'r cywydd a cheir penodau trylwyr iawn ar genres arbennig fel y canu mawl a'r canu crefyddol.
Mae'r ffaith i'r gwaith gael ei rannu i benodau taclus yn ychwanegu at werth arhosol y gyfrol, yn fy marn i ac rwy'n rhagweld y bydd disgyblion a myfyrwyr y Gymraeg yn cael budd mawr o'r hyn sydd rhwng ei chloriau.
I'r Saesneg Rwy'n mawr obeithio y bydd y gyfres Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg yn llwyddo i gynhyrchu cyfrolau eraill o ymchwil treiddgar oherwydd ar hyn o bryd, mae'n rhaid troi i'r Saesneg ac at gyfrolau fel A Guide to Welsh Literature am ymdriniaethau o safon gyffelyb.
Gwir, ceir ymdriniaethau tebyg yng nghyfrolau Syr Thomas Parry a'r Athro Gwyn Thomas, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg Hyd 1900 ac Y Traddodiad Barddol, ond penodau ar gyfnodau arbennig, megis cyfnod yr Uchelwyr, a geir ynddynt ac ni cheir yr un manylder a'r hyn sydd yn y gyfrol hon.
Dewis doeth Un o'i llwyddiannau amlycaf - namyn yr ymchwil arbennig - yw'r ffaith i'r awdur lwyddo i ysgrifennu'r cyfan mewn dull cyfarwydd a chymharol syml.
Er mai cyfrol ysgolheigaidd yw hi yn y b么n, dylid clodfori Dafydd Johnston am ei ddewis doeth i groesawu'r darllenydd cyffredin i'r maes difyr hwn yn hytrach na'i ynysu'n anfwriadol ag ysgolheictod cymhleth.
Teg yw dweud felly, fel cyfanwaith, fod y gyfrol yn llwyddiant. Serch hynny, mae gwendidau.
Yn gyntaf, ni chefais lawer o 'feirniadaeth lenyddol' ynddi ac mae fel pe byddai'n ei chael yn anodd canfod ei lliwiau ar brydiau - beirniadaeth lenyddol ynteu hanes ll锚n y cyfnod?
Mewn unrhyw gyfrol, ni fyddai hyn yn fater teilwng i'w drafod ond mewn cyfrol sy'n cynnwys is-deitl mor uniongyrchol a Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg, disgwyliais fwy o ymdriniaethau syniadol na'r hyn a geir.
Rhyddiaith Gwendid amlwg arall yw'r ffaith na dderbyn rhyddiaith y cyfnod ond pennod - pennod yn unig (y bennod olaf) - o sylw.
Mae'r ymdriniaeth ar y farddoniaeth yn wych - ydi - ond nid felly'r ymdriniaeth o ryddiaith y cyfnod.
Mae'n amhosibl cynnal astudiaeth fanwl, treiddgar a theilwng o faes mor eang 芒 'rhyddiaith' mewn pennod o gwta 34 tudalen.
Ceir esboniad (neu ymddiheuriad, efallai?) o ryw fath gan yr awdur yn ei ragymadrodd i'r perwyl yma, ond ni chredaf i hyn fod yn rheswm digonol - yn enwedig mewn cyfrol sy'n ymdrin 芒 Llenyddiaeth ac nid barddoniaeth yn unig.
Serch hyn, nid yw hyn yn ddigon i wadu'r ffaith fod y gyfrol hon yn ganlyniad gwaith ymchwil anhygoel ac y bydd lle parhaol iddi ar silff pob athro, myfyriwr neu unrhyw un sy'n ymddiddori yn y cyfnod arbennig hwn yn ein traddodiad barddol.
Adolygiad ar Gwales
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|