麻豆社

Explore the 麻豆社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆社 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Moddion o Fag y Meddyg
Moddion sy'n fodd i fyw
  • Adolygiad o Moddion o Fag y Meddyg - Agweddau ar Hanes Meddygaeth gan Edward Davies. Bwthyn. 拢10.


  • Rywle yn y t欧 acw mae llyfr o'r enw Mygyn Gyda'r Meddyg - cyfres o ysgrifau a gyhoeddwyd n么l yn y Pedwardegau.

    Yr unig reswm rwy'n s么n amdano o gwbl yw i ddangos sut y mae y mae agweddau pobl wedi newid dros y blynyddoedd.

    Yr adeg honno, doedd dim o'i le 芒'r syniad o glosio at y t芒n gyda'r nos a'ch cetyn yn eich ceg a thynnu arno i fwrw sgwrs ddifyr yn ei blaen drwy'r cymylau o fwg.

    Clawr y llyfr Heddiw, byddai'n deitl mor wleidyddol annerbyniol na fyddai unrhyw wasg yn mentro gydag ef.

    Ac, yn wir, teitl cyfres o ysgrifau meddygol hynod o ddifyr gan Edward Davies ydi: Moddion o Fag y Meddyg.

    Ond awyrgylch y gwmn茂aeth glos y slipars a'r cetyn, sydd i'r 15 o gyfraniadau Dr Davies hefyd am "agweddau ar hanes meddygaeth".

    Difyr a gwybodus
    Mae'n draethydd difyr a chanddo ddyfnder o wybodaeth nid yn unig am arferion a choelion meddygol ar hyd a lled y byd ond yng Nghymru hefyd.

    Mae'n rhannwr gwybodaeth brwd a difyr sy'n gwneud hwn yn llyfr hawdd i unrhyw leygwr ymgolli ynddo.
    Llyfr, hefyd, y bydd sawl un am droi yn 么l ato ac ailddarllen.

    Gellir ei ddarllen o'i gwr - fel y gwnes i - neu gellir pori ynddo yn gwbl fympwyol gan grwydro o un blewyn glas i'r llall - fel y byddwn i wedi gwneud pe na byddwn yn adolygu.
    O wneud hynny, byddwn wedi cael mwy fyth o fwynhad.

    Y meddyg
    Gair yn gyntaf am y meddyg. Mae'n un o linach o feddygon llengar y gall y Gymraeg ymfalch茂o ynddynt.

    Wedi ei fagu ym Mlaenau Ffestiniog, graddiodd mewn meddygaeth yn Lerpwl gan wasanaethu am 37 o flynyddoedd yn feddyg teulu yng nghefn gwlad Uwchaled.

    Mae'n aelod o Goleg Brenhinol y Meddygon Teulu, yn weithiwr diwyd gydag Ambiwlans Sant Ioan - cyhoeddodd werslyfr cymorth cyntaf y mudiad yn y Gymraeg.

    Bu'n llywydd Cymdeithas Hanes Meddygaeth Cymru . . .

    Dyna'r cymwysterau proffesiynol. Mae hefyd yn eisteddfodwr pybyr ac yn aelod o'r Orsedd. Mae'n dipyn o fardd hefyd ac yn mwynhau tynnu coes.

    Mae arwyddion o hyn oll yn Moddion o Fag Meddyg

    Nid ei botel na'i eli - a wn芒i'r wyrth
    Er mor wych oedd rheini:
    Ond ei w锚n, a daioni
    Y dyn hwn a'n mendia ni.
    meddai englyn amdano ym mhennod olaf y gyfrol hon.

    Pennod i'w darllen gyntaf - gyda'i phenillion tynnu coes am ganlyniadau trwstan gast yn cwna!

    Ffordd o ddeall
    Wrth gyflwyno'i lyfr dywed:
    "Rwyf yn llwyr gredu bod ymwybyddiaeth o'r gorffennol yn ychwanegu at ddealltwriaeth a gwerthfawrogiad o'r presennol, a dyna'r prif reswm am gyflwyno'r gyfrol hon."

    Mae yma bedair ysgrif ar ddeg eang eu hap锚l; yn eu plith:
    Hen feddyginiaethau
    Ysbytai
    Y Pla Du yng Nghymru
    Llysiau meddygol
    Afiechyd a meddygaeth trwy lygaid beirdd a llenorion
    Ysbytai MarchogionSant Ioan yng ngogledd Cymru
    John Wesley a'i Brif Phisygwriaeth
    Caledi yn Uwchaled yn y 19 ganrif
    .

    Ffynonellau Cymraeg
    Byddai angen adolygiad cyn hired 芒'r llyfr ei hun i wneud chwarae teg 芒'r holl amrywiaeth o bynciau hyn ond yr hyn sy'n gwneud y gyfrol hon yn arbennig o ddifyr i ddarllenwr Cymraeg yw y cyfeiriadau mynych at Gymru ynddi a hynny'n aml mewn cyd-destun eangach.

    Yn y bennod am afiechyd a meddygaeth trwy lygaid y beirdd dyfynnir o weithiau Shakespeare a beirdd Cymraeg.

    "Dioddefodd Dewi Wyn o Eifion, a gyfansoddodd englynion Pont Menai, gan iselder pan oedd yn ugain oed ac yna'n barhaus o ddeugain oed hyd ddiwedd ei oes er iddo fynd i Lundain ac i Ddulyn at brif ffisigwyr yr oes," meddai gan ddyfynnu dau englyn gan y bardd am ei gyflwr:
    Ymhob achos am bechu, - rhyfygawl
    Rwyf agos 芒 threngu,
    Bydolrwydd, cnawdolrwydd du
    Daeth 芒 melltith i'm halltu.
    meddai yn y cyntaf.

    Nid canu clodydd meddygon fyddai'r llenorion bob amser ac mae Edward Davies yn ein hatgoffa mai yn uffern gyda'r llofruddion y rhoddodd y Bardd Cwsg hwy.

    "Ganrif yn gynharach, roedd Morgan Llwyd yn eu cyhuddo o 'ladd llawer corff dyn trwy eu hanwybodaeth, neu eu chwant arian'," meddai.

    Mae'n dyfynnu Si么n Tudur yn canu tua 1600:
    Dyma flwyddyn y ffisigwr
    Ysbeilio pob gwanwr
    Ac i addo'n iach ei wneuthyd
    O'r saith anaele glefyd.
    A chael dwybunt i ddechre
    Am werth gr么t o gyffurie,
    A rhoi iddo arian lawer
    A'r claf yn waeth o'r hanner!

    Haeddu clod
    Mae'n s么n hefyd am feddygon sy'n gwir haeddu parch a chlod. Mae erthygl ragorol am gyfraniad Cymro, Dr John Roberts, i welliannau iechyd cyhoeddus yn ninas Caer.

    Lai na blwyddyn ar 么l symud i'r ddinas daeth yn aelod o gyngor y ddinas "wedi'i danio gan amodau byw dybryd y tlodion yn ei bractis."

    Yn ystod ei yrfa "gwnaeth lawer o welliannau iechydol a gostyngodd nifer yr achosion teiffoid, a oedd yn rhemp yn y ddinas, gymaint a 50% mewn blwyddyn," meddai.

    Yn ddiddorol iawn, ef fu'n gweini ar Daniel Owen "pan dorrodd gwaed yn ei frest dair gwaith mewn pythefnos, gan beri iddo fynd i gyflwr iechyd difrifol".

    Dywed Edward Davies: nad gormod yw dweud na fyddai na Gwen Tomos na Rhys Lewis yn cyfoethogi llenyddiaeth Cymru oni bai am y gofal medrus hwn!

    Llysiau llesol
    Mae sawl cyfeiriad at feddyginiaethau yn y llyfr gyda phennod gyfan ar y defnydd o lysiau i wella anhwylderau dros y canrifoedd.

    Yn aml iawn gall awgrymu inni resymau gwyddonol y tu 么l i rai o'r coelion hyn.

    Mae'r diddordeb hwn yn un sy'n ymestyn yn 么l ganrifoedd wrth gwrs:
    "Tua chanol yr unfed ganrif ar bymtheg ymddangosodd nifer o lyfrau llysieuol, ac erbyn diwedd y ganrif roedd tair llawysgrif Gymraeg mewn bod sef LlysieulyfrWilliam Salesbury, Y Llyfr Llygion Cymreig a Llysieulyfr Tomos Wiliems o Drefriw," meddai gan ychwanegu bod nifer fawr o lyfrau tebyg ar gael erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Y mwyaf poblogaidd ohonyn nhw oedd, Y Llysieulyfr Teuluaidd gan Dr David Thomas, Llanllyfni.

    Canfod rhinwedd
    Mae Edward Davies yn ymdrin yn ddifyr a sut y daethpwyd o hyd i rinweddau rhai planhigion.

    Un dull oedd "cyplysu si芒p neu liw llysieuyn ag organ arbennig yn y corff," meddai.

    "Felly, pan welid bod deilen balm ar ffurf calon, fe'i defnyddid i drin afiechydon y galon er mai ei gwir effaith yw gweithredu fel tawelydd.

    "Mae dail llysiau ysgyfaint, oherwydd bod brychau tywyll anwastad ar eu hwyneb yn debyg i'r marciau sydd ar wyneb yr ysgyfaint, wedi'u defnyddio i drin cryd, broncitis ac afiechydon eraill yr ysgyfaint.

    "Mae lliw melyn blodau dant y llew wedi sicrhau defnydd iddynt i drin cryd melyn yn codi o glefyd yr iau neu goden y bustl."

    Greddf anifail
    Awgrym arall, meddai, yw fod greddf anifail yn ei anfon at blanhigion sy'n debyg o wella rhyw gyflwr drwg y mae'n dioddef ohono - ewigod yn chwlio am ddail fflamgoed (spurge) yn dilyn brathiad neidr er enghraifft.

    "Mae rhai anthropolegwyr yn credu bod y reddf o ddarganfod rhinwedd llysiau i'w gweld ymysg rhai o'r llwythau cyntefig."

    Ond y mae ganddo nodyn o rybudd hefyd i'r rhai sydd am ymddiried mewn dail;

    "Gwaetha'r modd aeth y syniad ar led nad yw llysiau yn gallu achosi niwed, ond rhaid pwysleisio bod angen bod yn ofalus, ac efallai mai doeth fyddai i unrhyw un sydd am eu cymryd ymgynghori 芒 llysieuwr cydnabyddedig," meddai.

    Myglys
    Wrth gwrs gall profiad blynyddoedd olygu bod meddygon eu hunain yn gorfod newid eu meddwl yngl欧n 芒 rhai pethau ymddangosai'n rhinweddol ar un adeg.

    Rwy'n cofio gweld hen bapur Cymraeg o'r tridegau yn annog darllenwyr yn dioddef o annwyd, peswch a chaethdra yn y frest i ddefnyddio baco i agor y pen ac esmwyth谩u'r cyflwr.

    Yn y llyfr hwn dyfynnir o gywydd gan Edmwnd Prys:
    Pan fych lac cais dybaco,
    Rhag haint y mae mewn braint a bro.
    Rhag peswch yn ddidrwch ddadl,
    A g诺yn o ddiffyg anadl;

    Am y myglys, dywed Edward Davies:
    "Alcaloid yw nicotin, a dyna'r rheswm fod ysmygu baco'n ymlacio'r nerfau.

    "Er i Tomos Prys, Plasllwynowen, ymffrostio mai ef a Gwilym Canoldref oedd y cyntaf i ysmygu ar strydoedd Llundain, tybed beth fyddai eu hadwaith i'r llanastr y mae'n ei achosi?" meddai.

    Na, nid meddyg i awgrymu mygyn mo Edward Davies - ond y mae'r moddion o'i fag yn fodd i fyw.
    Glyn Evans
  • Adolygiad ar Gwales



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆社 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy