| |
|
|
|
|
|
|
|
Cynog Dafis - Mab y Pregethwr Gwleidyddol yn hytrach na phersonol'
Adolygiad Aled Elwyn Jones o Cynog Dafis: Mab y Pregethwr. Y Lolfa. 拢12.95.
Byth ers iddo yn annisgwyl gipio etholaeth Seneddol Ceredigion o ddwylo tybiedig boblogaidd Geraint Howells ym 1992, mae Cynog Dafis wedi bod yn un o ffigyrau mwyaf blaenllaw gwleidyddiaeth Cymru.
Ond, wrth gwrs, bu'n weithgar yn y mudiad cenedlaethol; yn rhengoedd y Blaid a Chymdeithas yr Iaith am ddegawdau cyn hynny.
Mae ei hunangofiant felly yn adrodd hanes y cyfnod mwyaf cyffrous a fu o bosib yng ngwleidyddiaeth Cymru, ac yn sicr yng nghenedlaetholdeb Cymreig - sef y cyfnod o ddechrau'r 1960au hyd heddiw.
Ymysg y digwyddiadau y bu Cynog yn llygad-dyst neu yn amlach fyth yn gyfrannydd uniongyrchol tuag atynt mae lansio Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ym 1962, mudiad yr oedd Cynog Dafis ymysg ei gadeiryddion cyntaf ac yn awdur i'r Maniffesto a fu'n hanfodol i roi cyfeiriad iddi wedi i'r bwriwn cynnar gilio.
Clywn hefyd am y rhwygiadau yn y Blaid yng nghyfnod boddi Cwm Tryweryn - rhwng y carfannau oedd am ganolbwyntio ar ymladd etholiadau a'r rhai, gan gynnwys yr awdur, oedd am droedio llwybr amgen tuag at ryddid cenedlaethol.
Yn ddiweddarach, ac yntau yn athro yn ymddiddori mewn cymdeithaseg iaith, bu'n ganolog i sawl ymgyrch dros addysg Gymraeg yn Nyfed a wedyn o'i ethol i'r Senedd y person cyntaf i gynrychioli'r Blaid Werdd yn San Steffan - diolch i'r cytundeb arloesol rhwng y blaid honno a Phlaid Cymru yng Ngheredigion.
Ac yn ddiwedarach wrth gwrs daeth ymgyrch Refferendwm 1997, sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol ac ymgais aflwyddiannus ar Lywyddiaeth y Blaid yn 2003.
Goleuni newydd Mae'r hunangofiant hwn yn taflu goleuni newydd ar hyn oll a llawer mwy.
Bydd o ddiddordeb mawr i haneswyr, sylwebyddion gwleidyddol ac unrhyw un sydd 芒'r diddordeb lleiaf yn hanes gwleidyddol Cymru dros yr hanner canrif ddiwethaf.
'Jiws go iawn' Un siom gyda'r hunangofiant yma fodd bynnag yw fod rhywun yn teimlo ei hun yn aml yn meddwl 'ac...' pan fo ryw hanes am ryw ddigwyddiad neu'i gilydd neu am wrthdaro o fewn y Blaid neu'r Gymdeithas yn dod i ben heb i ni gael y 'jiws' go iawn.
Prin yr ynganir gair gwael neu farn ddiflewyn ar dafod o feirniadol am neb gydol y llyfr.
Debyg mai teyrngarwch a'r ffaith fod Cynog Dafis yn dal i weithio yn ddyddiol gyda'r bobl sy'n ganolog i ddigwyddiadau mwyaf diweddar y llyfr sy'n gyfrifol am hyn ond rwy'n amau'n gryf fod yr hyn y byddai llawer ohonom yn ei ganfod yn fwyaf diddorol wedi ei adael allan tra i'r cyfeiriad arall fod y darnau sy'n delio a pholis茂au neu ymgyrchoedd arbennig yn gallu bod yn ddiflas o orfanwl.
Y dyn ei hun Ond efallai mai'r hyn sydd fwyaf gwerthfawr am y llyfr yw'r hyn mae'n ei ddysgu i ni am y dyn ei hun drwy'r darlun a gawn o'i fagwraeth ym mans Aberaeron i dad o Lafurwr a mam ddi-Gymraeg o deulu amaethyddol traddodiadol Geidwadol eu cefnogaeth.
Yng ngwerthoedd nodweddiadol o anghydffurfwyr y cyfnod: Cristnogaeth, cyfiawnder cymdeithasol, heddychiaeth a chenedlaetholdeb gwelwn yr hyn a fu'n sail i'r hyn y gweithiodd Cynog Dafis drostynt ar hyd ei fywyd.
Mae'r darlun o fab swil ac eiddil y mans yn ceisio, yn aml yn aflwyddiannus, i ffitio mewn i fyd y stryd hefyd yn gallu bod yn ddirdynnol ar adegau.
Bywyd teuluol Ond yn rhyfedd ddigon, ychydig iawn a ddysgwn am fywyd teuluol a chymdeithasol Cynog wedi iddo adael y coleg a phriodi - prin yw'r s么n am ei dri o blant a'i wyrion a'i wyresau er enghraifft: cofiant gwleidyddol yn hytrach na phersonol a gawn yma felly.
"Rwy'n hyderu y bydd rhywbeth at ddant y rhan fwyaf ohonoch yn y llyfr yma. Go brin, serch hynny, y bydd pob rhan ohono'n siwtio pawb," meddai'r awdur ar ddechrau'r llyfr. A dyna daro'r hoelen ar ei phen!
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad Gwilym Owen o'r gyfrol
Gwenallt yn siom
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|