|
Capeli Cymru Blychau a themlau
Sylwadau ar Capeli Cymru gan D Huw Owen. Lluniau gan Marian Delyth ac eraill. Lolfa. 拢14.95.
Mae'n ffaith drist ond arwyddocaol mai mewn amgueddfa y mae'r capel sy'n denu'r mwyaf o bobl yng Nghymru heddiw.
"Saif capel Pen-rhiw bellach yn Amgueddfa Werin Cymru," meddai D Huw Owen yn ei lyfr difyr sy'n olrhain hanes dros gant o gapeli'n gwlad.
Er mwyn cyfleu nerth a grym y twf crefyddol yng Nghymru ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif daeth yn beth poblogaidd i ddweud bod o leiaf un capel newydd yn cael ei agor bob wythnos.
Yn awir, yr adeg honno - ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif yr oedd 75 y cant o bobl Cymru yn 'mynd i'r capel'!
Erbyn heddiw, daeth yr un mor ffasiynol i ddweud fod capel yn cau yn rhywle bob wythnos yng Nghymru a'r adeilad weithiau'n cael ei ddefnyddio i rhyw bwrpas arall.
Erbyn hyn mae yna amryw o hen gapeli sydd bellach yn dai, yn ffatr茂oedd, yn siopau, yn garej ac yn bethau eraill sy'n arwyddion o'r trai crefyddol a fu y pum mlynedd ar hugain ddiwethaf.
Mae digonedd o gapeli yn mynd a'u pen iddynt hefyd.
Ychwaneger at hynny y ffaith mai ond megis dyrnaid o bobl sy'n mynychu llawer o'r capeli sydd ar 么l.
Newid yn aruthrol "Ers yr Ail Ryfel Byd, mae sefyllfa capeli anghydffurfiol yng Nghymru wedi newid yn aruthrol. Mae gostyngiad parhaus yn y nifer sy'n mynychu, a lleihad ym maint y cynulleidfaoedd yn sgil hynny," meddai CADW ar ei gwefan.
"Gwerthir capeli ychwanegol i'r rheiny sy'n gallu ac sy'n barod i'w prynu, neu cefnir arnynt a ch芒nt eu gadael i bydru a graddol chwalu nes eu bod yn troi'n adfeilion peryglus a diflas yr olwg," ychwanegir.
Adlewyrchir llawer o hyn yng nghyfrol gampus a difyr D Huw Owen sy'n cyflwyno lluniau a hanes dros gant o gapeli diddorol Cymru - a rhyw ddyrnaid bach y tu allan i Gymru hefyd.
Dan ugain Mae nifer aelodaeth ambell un dan ugain - dydw i ddim yn meddwl fod yna'r un dros 500.
Yn wir, 458 o aelodau sydd gan eglwys Berea Newydd y Presbyteriad ym Mangor er ei bod yn gyfuniad o'r hyn a fu yn bum eglwys yn yr ardal.
Dyma un o'r adeiladau mwyaf newydd yn y gyfrol a'r eglwys wedi'i ffurfio fis Ionawr 2003.
"Penderfynwyd uno'n bennaf oherwydd sylweddoli manteision mwynhau cyfleusterau modern ac osgoi gwariant sylweddol ar adeiladau'r pum capel . . . Roedd hefyd ymwybyddiaeth o'r gostyngiad yn aelodaeth yr amrywiol eglwysi . . .," meddai D Huw Owen.
Adeilad newydd arall sy'n cael sylw yn y gyfrol ydi Capel y Porth, Porthmadog, a godwyd yn 2001.
"Ffurfiwyd Capel y Porth pan unwyd y Tabernacl a'r Garth," meddai.
Mae yno 303 o aelodau sy'n nifer teilwng o gymharu ag aelodaeth rhai o gapeli eraill y gyfrol.
Ond yr ydym, yn amlwg, yn byw mewn cyfnod gwahanol iawn i hwnnw a ddisgrifiwyd gan y diweddar Dr R Tudur Jones gydag adeilad yn tywyllu wrth i'r gynulleidfa godi ar ei thraed mewn oedfa y pregethai ynddi ym Mhen Ll欧n!
Dydi hi ddim yn gymylau ym mhobman fodd bynnag. Wrth s么n am gapel Salem yn Nhreganna, Caerdydd, dywed D Huw Owen:
"Dyma un o'r ychydig eglwysi yng Nghymru heddiw y mae ei haelodaeth yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn," meddai.
Ond wedi dweud hynny 174 o aelodau sydd yno.
Lle anghysbell Ond does yr un o'r capeli hyn yn tynnu mwy o bobl na'r capel a gludwyd garreg wrth garreg i'r hyn arferid ei galw yn amgueddfa werin yn Sain Ffagan gan awgrymu fod gan bobl fwy o ddiddordeb yn hynodrwydd adeilad nag mewn addoliad.
Yr un gynneddf, o bosib, sy'n tynnu pobl i gapel anghysbell Soar y Mynydd ac meddai D Huw Owen:
"Un o agweddau rhyfeddaf y sefyllfa grefyddol yng Nghymru heddiw yw'r modd y denir niferoedd helaeth i'r capel hwn a saif tua deng milltir o Dregaron, yn un o ardaloedd mwyaf anghysbell Cymru, ac ardal sydd wedi dioddef yn enbyd o effeithiau diboblogi."
Ychwanega: ". . . llwyddir i ddenu cynulleidfaoedd niferus, a sawl taith fws wedi'i threfnu gan eglwysi. Yn aml mae'r capel sy'n eistedd 120 yn orlawn a defnyddir uchelseinydd ar gyfer y rhai na fydd yn llwyddo i sicrhau mynediad."
Hynny yng nghyswllt capel nad oes iddo ond 18 o aelodau a hynny'n arwydd o'r diboblogi yn yr ardal gan mai ond 48 aelod oedd yna yn nyddiau gwell 1944.
Cynulleidfa o bum cant Tanlinellir troad y rhod yn hanes capel Bethania, Llwynypia, yn Y Rhondda. Pan agorwyd hwnnw ym 1876 yr oedd lle ynddo i gynulleidfa o 500. Heddiw, 14 yw'r aelodaeth a'r capel yn dibynnu ar ddefnydd cyrff fel y Mudiad Ysgolion Meithrin i'w gadw i fynd.
Pensaerniaeth Wrth gwrs nid yr agweddau hyn yn unig yw maes llafur y gyfrol hon. Cynnwys sylwadau difyr am bensaern茂aeth yr adeiladau hyn a'u cynllunwaith yn allanol ac yn fewnol ac y mae adeiladau yn cael eu darlunio sy'n amrywio'n fawr o ran pensaern茂aeth o flychau gwylaidd a diaddurn T Rowland Hughes i demlau rhodresgar gyda thyrau a cholofnau mawrion.
O ystyried y rhychwant amser nid yw hynny'n syndod: "O ran dyddiad, mae'r detholiad yn amrywio o'r capel cynharaf y parheir i'w ddefnyddio gan addolwyr, sef Maesyronnen a adeiladwyd tua 1696, hyd at Berea Newydd, Bangor, un o gapeli newydd Cymru agorwyd yn 2003," meddau D Huw Owen.
Gwaith trylwyr Un peth sy'n amlwg yw nad gwaith i'r gwangalon fu cywain cyfrol fel hon.
Bu cryn waith casglu gwybodaeth - anfon holiadur at swyddog ym mhob un o'r eglwysi - a bu'n rhaid trefnu i dynnu lluniau ar hyd a lled Cymru a da o beth i hynny ddigwydd gyda'r adeiladau - heb s么n am yr achosion - dan gymaint o warchae. Un peth a fyddai wedi bod yn ychwanegiad gwerthfawr i'r gyfrol fyddai map yn dangos lleoliadau - er mae yna gyfeiriad ordnans i bob un a chyda phob capel mae gwybodaeth am yr aelodaeth, pwy yw'r gweinidog a threfn y moddion. Glyn Evans.
Gwybodaeth ar Gwales
Capeli'r gyfrol
Capeli sydd wedi eu cynnwys yn y gyfrol:
1. ABER-CARN, Eglwys Gymraeg (P) 2. ABERD脗R, Siloa (A) 3. ABERGELE, Mynydd Seion (P) 4. ABERGWAUN, Hermon (B) 5. ABERHONDDU, Plough (A/R) 6. ABERTEIFI, Bethania (B) 7. ABERYSTWYTH, Capel y Morfa 8. ABERYSTWYTH, Seion (A) 9. ABERYSTWYTH, Sant Paul (M) 10. ABERYSTWYTH, Y Tabernacl (P) 11. BAE COLWYN, Y Tabernacl (B) 12. Y BALA, Capel Tegid (P) 13. BANGOR (Gwynedd), Berea Newydd (P) 14. BANGOR (Gwynedd), Pendref (A) 15. BETHESDA, Jerusalem, Eglwys Unedig (U) 16. BLAENAU FFESTINIOG, Jerusalem (A) 17. BLAENANNERCH (P) 18. BLAEN-Y-COED (A) 19. BOW STREET, Y Garn (P) 20. CAERDYDD, Eglwys y Crwys (P) 21. CAERDYDD, Salem Treganna/Canton (P) 22. CAERDYDD, Y Tabernacl (B) 23. CAERFYRDDIN, Heol Awst (A) 24. CAERFYRDDIN, Heol Dwr (P) 25. CAERFYRDDIN, Y Tabernacl (B) 26. CAERNARFON, Ebenezer (W) 27. CAERNARFON, Seilo (P) 28. CAPEL HENDRE (P) 29. CASLLWCHWR, Moreia (P) 30. CILFOWYR (B) 31. CEFNCYMERAU, Salem (B) 32. CLYDACH, Calfaria (B) 33. CRICIETH, Berea (B) 34. DINBYCH, Capel Mawr (P) 35. DINBYCH, L么n Swan (A) 36. DINBYCH, Pendref (W) 37. DOLANOG, Capel Coffa Ann Griffiths (P) 38. EFAILISAF, Tabernacl (A) 39. EIFIONYDD, Capel y Beirdd (B) 40. FFYNNONHENRI (B) 41. Y GROES-WEN, Eglwysilan 42. GWAELOD-Y-GARTH, Bethlehem (A) 43. HENLLAN AMGOED (A) 44. HWLFFORDD, Y Tabernacl (CO) 45. LLANARMON-YN-I脗L, Bethel, Rhiw I芒l (P) 46. LLANBERIS, Capel Coch (P) 47. LLANBRYN-MAIR, Hen Gapel (A) 48. LLANDEGLE, Y Pale (The Pales) (C) 49. LLANDUDNO, Seilo (P) 50. LLANDUDNO, Tabernacl (B) 51. LLANELLI, Capel Als (A) 52. LLANELLI, Seion (B) 53. LLANFACHES (R) 54. LLANFYLLIN, Pendref (A) 55. LLANGEFNI, Capel Cildwrn (E) 56. LLANGEFNI, Moreia (P) 57. LLANGEITHO, Capel Gwynfil (P) 58. LLANGENNECH, Salem (B) 59. LLANRWST, Seion (A) 60. LLANRHAEADR-YM-MOCHNANT (W) 61. LLANSANNAN (P) 62. LLANUWCHLLYN, Yr Hen Gapel (A) 63. LLANWENARTH (B) 64. LLANYMDDYFRI, Capel Coffa William Williams (P) 65. LLANYSTUMDWY, Moriah (P) 66. LLWYNHENDY, Soar (B) 67. LLWYNRHYDOWEN (U) 68. LLWYNYPIA, Bethania (P) 69. MACHYNLLETH, Y Tabernacl 70. MAESTEG, Bethania (B) 71. MAESYRONNEN (R) 72. MARGAM, Beulah (P) 73. MARTLETWY, Burnett's Hill 74. NANHORON, Capel Newydd (A) 75. NEUADD-LWYD (A) 76. PENRHYN-COCH, Horeb (B) 77. PEN-Y-GROES (Sir Gaerfyrddin), Y Deml (AP) 78. PONTARDDULAIS, Y Gopa (P) 79. PONTROBERT, Hen Gapel John Hughes 80. PORTHAETHWY, Eglwys Bresbyteraidd Saesneg (P) 81. PORTHMADOG, Capel y Porth (P) 82. RHOSLLANNERCHRUGOG, Bethlehem (A) 83. RHOSLLANNERCHRUGOG, Jerusalem, (P) 84. RHOS-MEIRCH, Ebenezer (A) 85. RHUTHUN, Capel Coffa Edward Jones, Bathafarn (W) 86. RHUTHUN, Y Tabernacl (P) 87. RHYDAMAN, Bethany, (P) 88. RHYDAMAN, Gellimanwydd, (A) 89. RHYDLEWIS, Hawen (A) 90. RHYDWILYM (A) 91. Y RHYL, Clwyd Street (P) 92. SAIN FFAGAN, Pen-rhiw 93. SAIN TATHAN, Bethesda'r Fro (R) 94. SOAR Y MYNYDD (P) 95. TAL-Y-BONT, Bethel (A) 96. TAN-Y-FRON (P) 97. TRECYNON, Hen Dy Cwrdd (U) 98. TREFORYS, Y Tabernacl (A) 99. TREFRIW, Peniel (P) 100 TRE-GARTH, Shiloh (W) 101 TRELAWNYD (A) 102 TRE-LECH, Capel-y-Graig (A) 103 TREMADOG, Peniel (P) 104 Y TYMBL, Bethania (A) 105 YR WYDDDGRUG, Bethesda (P) 106 WYSTOG [WOODSTOCK] (P)
ATODIAD
107 LERPWL, Bethel, (P) 108 LLUNDAIN, Jewin (P) 109 MELBOURNE, Eglwys Gymraeg (P) 110 PHILADELPHIA, (York County), Rehoboth (Un) 111 Y WLADFA, Bethel (Un)
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|