|
Omlet Digon o h-Wy-l
- Adolygiad Caron Wyn Edwards o Omlet gan Nia Medi. Gwasg Gwynedd. 拢6.95
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r nifer o awduron benywaidd sy'n sgwennu nofelau Cymraeg wedi cynyddu'n aruthrol.
Does ond raid edrych ar restr fer Llyfr y Flwyddyn eleni: Bethan Gwanas, Elin Llwyd Morgan a'r enillydd, Caryl Lewis - merched i gyd.
Enwau eraill sydd wedi dod i sylw yw Annes Glyn, Meleri Wyn Jones, Iola Jones, Mari Emlyn a Mared Lewis - yn ogystal ag awduron mwy adnabyddus fel Angharad Tomos ac Eigra Lewis Roberts.
Bellach mae enw arall i'w ychwanegu i'r rhestr.
Omlet yw nofel gyntaf Nia Medi, ac fel awdures arall o Ddolgellau, mae'r gyfrol - fel gwaith Bethan Gwanas - yn llawn hiwmor ffraeth.
Hanes Angharad Awstin sydd yma, athrawes 33 oed sydd wedi bod yn dra anlwcus gyda dynion a d锚tio'n gyffredinol.
Felly pan fo'r berthynas ddiweddaraf yn chwalu (gyda Drong sy'n dweud y cyfan!) mae hi'n penderfynu treulio wythnos o'i gwyliau haf yng Ngwlad Groeg.
Heb gymar i fynd gyda hi, mae hi'n cael cwmni Dodo Megan Pot Jam - un o enwau gorau ar gymeriad erioed yn fy marn i! - ei hen fodryb 79 oed.
Rhywbeth ychwanegol Y genre mae hon yn disgyn iddo yw Chick Lit chwedl y Sais gan ddilyn traddodiad Amdani, Dal Hi ac ati, a buaswn yn dueddol o ddweud ei bod wedi ei hanelu at ferched yn eu hugeiniau a'u tridegau gan fwyaf.
Serch hynny, mae cymeriad Dodo Megan Pot Jam yn dod 芒 rhywbeth ychwanegol i'r gymysgedd, ac yn ehangu'r gynulleidfa bosib.
Ceir cychwyn cryf i'r hanes, wrth i'r awdur grisialu'r back story fel tae, mewn ychydig frawddegau syml: "Baw gwartheg. Plops mw-mw. Cachu buwch. Tail. Galwch o'n be liciwch chi ond, yn y b么n, rhywbeth felly ydi cariad."
Cychwyn gafaelgar Mae'n gychwyn gafaelgar, sy'n cydio yn sylw'r darllenydd yn syth a'u hysgogi i ddarllen ymlaen wrth i'r gyffelybiaeth gael ei hymestyn.
Mae hefyd yn ddull effeithiol o gyflwyno llais i'w phrif gymeriad, llais sy'n parhau'n gyson hyd y dudalen olaf.
O ran cymeriad, mae hi'n un y gall sawl un uniaethu 芒 hi mewn sawl ffordd.
Gall fod yn anodd iawn cydymdeimlo 芒 hi ar brydiau, ond drwyddi draw mae hi'n gymeriad crwn sydd 芒 digon i'w ddweud.
Mae rhywbeth, naill ai ym mywyd Angharad, neu'n rhai ei ffrindiau, a fydd yn taro deuddeg gyda phob merch fydd yn mynd ar gyfyl y gyfrol hon yn fy marn i, boed hynny'n brofiad fel rhiant, cymar neu ffrind.
Nid yw'r awdur yn cilio rhag cyffwrdd 芒 rhai agweddau mwy negyddol bywyd chwaith, gan ymdrin 芒 them芒u o ddiffyg hyder, hunan amheuaeth ac iselder.
Ymhellach, mae hi'n llwyddo i ddelio 芒 phynciau o'r fath yn gynnil, heb wneud i'r cymeriadau swnio'n hunandosturiol nac yn gwynfanllyd.
Yr hiwmor Serch hynny, yr hiwmor yw prif gryfder y nofel hon. Mae'n amlwg fod yma awdur sy'n meddu ar ddawn dweud eithriadol, sy'n llwyddo i gynnig darluniau digri o ddigwyddiadau bob dydd - er bod y rhain hwyrach yn cael eu chwyddo rhyw fymryn.
Daw un o'r enghreifftiau cyntaf o hyn yn gynnar iawn yn y nofel, pan fo Angharad yn darllen pennill 'cariadus' a ysgrifennodd ei chyn gariad ati, I Anji... You're the lie down in my 'lycra'; You are the jock in my strap; You put the 'phoar' in my four pack, You're the bacon that fills up my bap. Oddi wrth David xxx"
Enghraifft arall yw'r disgrifiad ohoni ei hun yn cael colonic irrigation - a berodd i mi chwerthin yn uchel a gwingo ar yr un pryd, Gweddi Golonic Arglwydd, dal fi ar y pan, Arglwydd, dal fi lle dwi'n wan; Gwarchod fi rhag therapydd amgen 'Nenwedig therapydd efo peipen.
Nid yn un i'w darllen os ydych yn berson sy'n meddu ar stumog wan!
Noson feddw Felly hefyd ddisgrifiad o noson feddw Dodo Megan. Eto roedd rhywun yn ei ganfod yn hynod ddoniol ac eto'n teimlo drosti hefyd, ac mae'r tudalennau'n frith o enghreifftiau tebyg.
Yn eilbeth, daw'n amlwg wrth ddarllen fod yma awdur sydd yn ddychanwraig heb ei hail, ac mae'n hwyl darllen teitlau'r gwahanol rannau, a'u hadnabod fel ffurf ddychanol o weithiau llenyddol enwog.
Teitlau fel 'O! Tyn y Beipen!' ac 'Ymadawiad ar Ruthr'.
Perl o nofel sy'n bendant werth ei darllen.
Adolygiad ar Gwales
Cysylltiadau Perthnasol
Holi Nia Medi
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|