Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Y Tŷ ar Lôn Glasgoed
I ddysgwyr yn bennaf
Adolygiad Lowri Rees o Y Tŷ ar Lôn Glasgoed gan Sonia Edwards. Cyfres y Golau Gwyrdd. Lolfa. £3.95.

Nofel wedi ei sgrifennu'n benodol ar gyfer dysgwyr Cymraeg yw un ddiweddaraf Sonia Edwards.

Clawr y llyfr Gyda mwy a mwy o alw am gyfleon i ddysgwyr ddarllen Cymraeg, mae'r Lolfa'n cyhoeddi cyfres newydd o nofelau yn arbennig ar gyfer dysgwyr.

Nod Cyfres y Golau Gwyrdd ydi annog dysgwyr i ddarllen ffuglen Gymraeg trwy ddarparu nofelau byrion, difyr, wedi eu sgrifennu gan awduron safonol.

Ar ymyl pob tudalen mae geirfa Saesneg-Cymraeg.

Y gyntaf
Nofel Sonia Edwards - prif lenor Eisteddfod Genedlaethol 1999 - Y Tŷ ar Lôn Glasgoed yw'r gyntaf yn y gyfres.

Nofel yw am ferch ifanc, Gwawr, sydd wedi ei thynnu a'r gyfeilion gan ei ffrind, Sam.

Darllen y nofel i bwrpas adolygu a wnes i - a chael fy hun yn ei mwynhau yn fawr gyda stori wych yn cadw fy niddordeb.

Go brin fod angen ychwanegu ei bod mewn Cymraeg graenus ond syml a fydd yn anogi dysgwyr i'w ddarllen.

Mae gwaith Sonia Edwards wedi fy nghyffroi i ers blynyddoedd a rwy'n hynod o falch bod yna gyfle yn awr i ddysgwyr Cymraeg gael rhannu'r pleser.

Yn nofel 70 dalen ni fydd yn ormod o dreth ar ddysgwyr ond yn sicrhau ar yr un pryd y byddant yn cael blas ar y Gymraeg ar ei gorau.

Mae'n ymwneud â phobl ifainc a chyffuriau.

Darganfod corff
Wedi i Gwawr a Sam ddarganfod corff merch sydd wedi ei llofruddio yn y tÅ· mae meddwl Gwawr yn cael ei feddiannu gan ysbryd y ferch.

Mae'n stori afaelgar iawn yn clymu cyfeillgarwch, cyffuriau a'r byd ysbrydol.

Nofel wych gwerth ei darllen - hyd yn oed os nad ydych yn ddysgwr!!

Adolygiad ar Gwales



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Â鶹Éç Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý