|
Cymru Ddu Croeso Cymreig? Go brin
Adolygiad Gwyn Griffiths o Cymru Ddu - Hanes Pobl Dduon Cymru gan Alan Llwyd. Hughes a'i Fab mewn cyweithrediad 芒 Butetown History and Arts Centre. 拢14.95.
Cyfrol yn deillio o'r ymchwil ar gyfer y gyfres deledu a ddarlledwyd yn ddiweddar ar S4C yw'r gyfrol ddwyieithog Cymru Ddu - Hanes Pobl Dduon Cymru gan Alan Llwyd.
Fel arfer mae diwydrwydd a thrylwyredd ymchwil Aan Llwyd yn syfrdanol ac y mae'r gyfrol hon yn gyfraniad gwiw i ddarn o hanes Cymru na chafodd y sylw dyladwy.
I lawer o Gymry Cymraeg pobl ddieithr, hyd yn oed heddiw, yw pobl dduon, neu bobl o dras gymysg.
Hyd yn oed i drigolion di-Gymraeg Caerdydd pobl o du hwnt i bont y rheilffordd, pobl y bae a'r dociau yw'r gymdeithas ddu ac ethnig.
Twyllo'n hunain Yr ydym wedi twyllo'n hunain nad yw hiliaeth yn broblem yng Nghymru.
Honwyd bod porthladd Caerdydd, lle ceir un o gymdeithasau du ac ethnig hynaf Prydain, yn batrwm o fan lle yr oedd y gwahanol gymdeithasau ethnig yn cydfyw'n gyt没n.
Ceir darlun cynhwysfawr o d诺f cymuned ddu ag ethnig Caerdydd er na sonnir am bwysigrwydd gorsafoedd glo Aden a ddenodd gynifer o ddynion Yemen i Gaerdydd.
Fel y dengys Alan Llwyd, 'doedd pethau ddim yn f锚l yn yr ardal honno ac fe ddioddefodd y trigolion sen a hiliaeth difrifol, yn arbennig o law'r heddlu ac o du awdurdodau'r ddinas.
Mae terfysgoedd hiliol 1919 a hanes Mahmood Hussein Mattan y Somaliad a grogwyd ar gam ym 1952 yn enghreifftiau gwarthus o hiliaeth y sefydliad.
Brwydrodd gweddw Mattan am yn agos i hanner canrif cyn cael pardwn swyddogol iddo ym 1998.
Blynyddoedd o ymgyrchu Gwellodd pethau - ond eto ym 1990 carcharwyd Steven Miller, Yusef Abdullahi a Tony Parris am lofruddio Lynette White, er bod y dystiolaeth yn anhygoel o annigonol.
Wedi blynyddoedd o ymgyrchu ail agorwyd yr achos a chafwyd y tri yn ddieuog.
Ond yr oeddynt wedi treulio deuddeng mlynedd yng ngharchar erbyn hynny.
Ym 1929 yr oedd prif gwnstabl Caerdydd, James Wilson, yn llunio adroddiad oedd yn argymell deddfu i wneud priodasau cymysg yn anghyfreithlon.
Buasai De Affrica Apartaidd yn falch ohono
Chwaraewyr gadd eu gwrthod Ganol yr ugeinfed ganrif codi pac wnaeth rhai o'r chwaraewyr disgleiriaf a fagwyd yng Nghymru erioed am y gwyddent na chaent eu dewis i chwarae rygbi'r undeb i'w gwlad oherwydd lliw eu croen.
Cafodd Billy Boston, Johnny Freeman a Colin Dixon - y ddau olaf wedi chwarae gyda'i gilydd i Halifax - groeso a pharch yn y g锚m dri-ar-ddeg yng ngogledd Lloegr.
Yn fwy diweddar cefnodd Nigel Walker, yr athletwr sydd bellach yn Bennaeth Chwaraeon 麻豆社 Cymru, ar rygbi wedi methu 芒 chael ei ddewis i d卯m ysgolion Cymru.
Os ydych chi'n rhedeg yn gyflymach na phob un arall ar y trac, fedran nhw dim eich anwybyddu chi.
Yn ddiweddarach dychwelodd Walker i'r maes rygbi a chwaraeodd nifer o weithiau i Gymru.
Bellach cafodd t卯m rygbi Cymru gapten du yn Colin Charvis ac o ran hynny bu un arall o blant porthladd Caerdydd, y disglair Ryan Giggs, yn gapten ein t卯m p锚l-droed cenedlaethol.
Gwrthod Bassey Nid gwaith hawdd oedd hi i gantorion gael eu derbyn, ychwaith.
Nodir i Shirley Bassey gael ei gwrthod gan y 麻豆社 yng Nghymru - Mai Jones a'i gwrthododd yn 么l chwedloniaeth fewnol y Gorfforaeth.
Ond teg nodi hefyd i un o gynhyrchwyr y 麻豆社 wrthod Tom Jones,. Gall fod yn beryglus neidio i'r casgliad mai hiliaeth sy'n gyfrifol am bopeth!
Caethwasiaeth a Chymru Ond nid dyma, er mor ddifyr ydyw, gyfraniad gwerthfawrogaf y gyfrol.
Mae'r gyfrol yn rhoi hanes caethwasiaeth gan gynnwys darlun cignoeth o greulondeb melltigedig y fasnach, llawer o'r wybodaeth wedi dod o ddogfennau Cymraeg a Chymreig anghyfarwydd.
Y mae hanes y cysylltiadau Cymreig a chaethwasiaeth yn dda a chynhwysfawr. Cysylltiadau Castell Penrhyn ger Bangor yn un.
Yr oedd Bryste yn agos iawn a buddsoddwyd llawer o elw caethwasiaeth yng ngweithfeydd haearn y de; pwnc y mae David Brown - a oedd yn 么l a ddeallaf yn un o ymchwilwyr y gyfres deledu - wedi ei archwilio.
Gyda llaw, buaswn wedi dymuno clywed beth yw damcaniaeth Alan Llwyd dros amlder enwau Cymreig ymysg pobl dduon America - pobl fel Condoleezza Rice a Colin Powell. Anodd credu bod nifer mor enfawr a'r awgrym, wrth gwrs, yw nifer o Gymry yn berchenogion caethweision.
Unigolion hynod Y mae yn y gyfrol nifer o straeon am unigolion hynod. Y mwyaf diddorol oedd Nathaniel Wells a anwyd ar ynys St Kitts yn fab anghyfreithlon William Wells, yn wreiddiol o Gaerdydd a chaethferch a elwid yn Juggy.
Yn ddiddorol iawn ef a etifeddiaeth yr ystad.
Prynodd Blasty Piercefield, Gas-gwent, a daeth yn Siryf Sir Fynwy ym 1818, y dyn du cyntaf i ddal swydd o'r fath ym Mhrydain.
Plentyn caethferch oedd ei hun yn berchen caethweision.
Anodd dweud a yw pob un o gasgliadau Alan Llwyd amdano yn deg, ond mae'n stori ddiddorol.
G诺r hynod arall oedd Jac Ystumllyn, bachgen du - o bosib o India'r Gorllewin - a ddaeth yn was ym Mhlas Ystumllyn yn Eifionydd tua 1745 ac y cofnodwyd ei hanes gan Alltud Eifion.
Da gweld Morgan John Rhys yn cael sylw, er hwyrach yr haeddai fwy. Mae John Rowlands o Ddinbych yma - Henry Morton Stanley i ni - a mae stori'r cenhadwr William Hughes yn un drist ryfeddol.
Dadansoddi hiliaeth Ceir dadansoddiad gwerthfawr o hiliaeth a chaethwasiaeth.
Ni thyfodd caethwasiaeth o hiliaeth ond canlyniad caethwasiaeth yw hiliaeth.
Mewn gwirionedd, rhyfel yw'r arf gwaethaf o safbwynt creu hiliaeth. Fe'i hybir gan lywodraethau yn fwriadol i ysgogi casineb tuag at elyn.
Mae hwn yn llyfr gwerthfawr a phwysig y t芒l inni i gyd ei ddarllen.
Ar y maes chwarae ac yn y sgw芒r paffio ac ar lwyfan y g芒n y gwelwn ein cyd-Gymry duon ac ethnig yn amlygu eu hunain ran fynychaf.
Tro ar fyd Ond fe ddaw tro ar fyd. O dipyn i beth, fe'u gwelsom yn dysgu Cymraeg.
Mewn cynhadledd ar hiliaeth yn ddiweddar honnwyd bod canran uwch o blant du ac ethnig mewn ysgolion Cymraeg eu hiaith yng Nghaerdydd nag yn yr ysgolion cyfrwng Saesneg.
Holais y siaradwr yngl欧n 芒 hyn ac fe'm sicrhawyd fod hyn yn gywir.
Rheswm arall dros sicrhau fod hon yn gyfrol y dylid ei gweld mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.
Cysylltiadau Perthnasol
Holi Alan Llwyd
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|