|
John Roberts Williams Cyfarfod i dalu teyrnged i newyddiadurwr
Talwyd teyrnged i bob agwedd o waith y newyddiadurwr a'r darlledwr John Roberts Williams mewn cyfarfod yng nghanol ei hen gynefin yn Eifionydd ddydd Sadwrn, Mai 7, 2005.
Y tair agwedd o'i waith a gafodd y sylw pennaf oedd:
- Ei gyfraniad fel newyddiadurwr blaengar, yn bennaf fel golygydd Y Cymro yn ystod cyfnod hynod o lewyrchus yn hanes y papur hwnnw.
- Ei gyfraniad arloesol ym myd ffilm, yn arbennig gyda'i ffilm Gymraeg werthfawr Yr Etifeddiaeth
- Ei gyfraniad ym myd teledu a darlledu yn gyffredinol.
Y tri siaradwr oedd: Yr Athro Aled Gruffydd Jones o Adran Hanes Prifysgol Cymru Aberystwyth; y Dr Gwenno Ffrancon, darlithydd mewn ffilm ym Mhrifysgol Cymru Bangor a Geraint Stanley Jones, cyn bennaeth S4C a'r 麻豆社 yng Nghymru.
Trefnwyd a llywyddwyd y cyfarfod gan y Dr Meredydd Evans, un o gyfeillion mynwesol John Roberts Williams ac un a fu'n cydweithio ag ef ar Y Cymro.
Darllenwyd rhannau o'i waith gan John Ogwen a Maureen Rhys.
Pwysigrwydd bro Cyfeiriodd y Dr Evans at bwysigrwydd bro ei febyd a'i fagwraeth yn Eifionydd i John Roberts Williams.
"Aeth a'r lle yma efo fo i ble bynnag y bu o'n byw weddill ei oes - gwerthoedd yr ardal hon a'i cynhaliodd," meddai.
Y newyddiadurwr Disgrifwyd John Roberts Williams y newyddiadurwr fel "un o leisiau mwyaf treiddgar a chreadigol Cymru'r ugeinfed ganrif" gan yr Athro Aled Gruffudd Jones wrth dalu teyrnged hael i gyfraniad newyddiadurol John Roberts Williams.
Cyfeiriodd yn arbennig at ei flaengarwch a'i weledigaeth arbennig yn ystod ei gyfnod yn olygydd Y Cymro a'i reddf i fedru llunio papur oedd yn apelio at bobl.
"Yr oedd o hefyd yn un o'r golygyddion cyntaf i gymryd ffotograffiaeth o ddifrif," meddai.
Ac oherwydd eu parch personol tuag ato llwyddodd hefyd i ddenu newyddiadurwyr a sgrifenwyr blaenllaw i gyfrannu i'r papur.
Creodd, meddai, lwyfan newydd i'r iaith Gymraeg a hynny ar adeg dyngedfennol yn ein hanes.
Y dyn ffilm Wrth olrhain ei gyfraniad arloesol ym myd ffilm disgrifiodd y Dr Gwenno Ffrancon ffilm a wnaeth John Roberts Williams mewn partneriaeth 芒 ffotograffydd Y Cymro, Geoff Charles, fel cofnod gwerthfawr o ffordd o fyw oedd yn prysur ddiflannu ac o'r etifeddiaeth Gymraeg a oedd erbyn hynny "yn cael ei llesteirio gan ddylanwadau estron."
"Camp fawr John Roberts Williams oedd darlunio a chofnodi bywyd oedd yn cael ei sathru dan draed gan ruthr amser," meddai.
Teledu a radio Atgofion dwys a difrif am "uchelgais, obsesiwn a dawn" John Roberts Williams fel newyddiadurwr teledu oedd gan Geraint Stanley Jones.
Bu'n s么n am ei gysylltiad 芒'r fenter fyrhoedlog honno, Teledu Cymru, ac wedyn ei gyfraniad gyda Heddiw a rhaglenni teledu eraill y 麻豆社 gan orffen ei gyfnod gyda'r gorfforaeth yn dod a bywyd newydd i radio Cymraeg fel pennaeth y 麻豆社 ym Mangor lle y'i hanfonwyd, meddai, "i atgyfodi ysbryd Sam Jones" .
Ymhlith ei rinweddau, meddai, yr oedd "eangder meddwl rhyfeddol o soffistigedig" ac elfen o ddoniolwch.
"Yr oedd ganddo hefyd, y ddawn i ysbrydoli pobl ifanc," meddai.
"Y mae'r profiad o weithio efo fo wedi cyfoethogi eu bywydau a gadawodd ei 么l ar genhedlaeth ohonom ni," ychwanegodd.
Hyd yn oed wedi ei ymddeoliad arhosodd dylanwad y g诺r "mwyaf swil a phreifat" hwn gyda'i sgyrsiau Dros fy Sbectol.
"Daeth Dros fy Sbectol yn sefydliad radio oedd yn rhoi cyfle iddo aros yn y dirgel a bod yn gyhoeddus yr un pryd," meddai.
Brogarwr Cafodd y cyfarfod ei gloi gan Dyfed Evans, un o gyn gydweithwyr John Roberts Williams a benodwyd ganddo yn ohebydd ar Y Cymro.
Cyfeiriodd yntau hefyd at frogarwch hynod John Roberts Williams.
"Er iddo fyw mewn ardaloedd eraill yma yr oedd calon John gydol yr amser," meddai.
A chanddo ef y cafwyd, mae'n debyg, stori orau'r cyfarfod am gynrychiolydd yr hen Herald of Wales yn gwerthu cop茂au o'r Cymro ar faes Eisteddfod Caerffili 1950 trwy ddangos llun dalen lawn o Elfed, 90 oed, gan gweiddi: "Y Cymro, Y Cymro. Read all about it. He might be dead by next year."
"Ond fe fu Elfed fyw dair blynedd arall fel mae'n digwydd!," meddai Dyfed.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|