麻豆社

Explore the 麻豆社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆社 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cyrn y Diafol
Beth yw'r utgorn glywai'n galw?
Adolygiad Ioan mai Evans o Cyrn y Diafol gan Geraint Jones. Gwasg Gwynedd. 拢7.95.

Llyfr swmpus, arloesol, gan awdur sydd a gafael sicr ar ei faes.

Cymharol brin yw'r defnyddiau ar hanes y bandiau o'i gymharu ag offerynnau cerdd eraill - felly dyma lenwi bwlch pur fawr am gyfraniad plant y diafol o bawb!

Oes o lafur
Cyflwynir y llyfr er cof am dri arweinydd ymroddedig, gw欧r a adnabu'r awdur fel rhai a roddodd oes o lafur gwirfoddol a theyrngar i fandiau eu bro.

Clawr y llyfrDaw y diafol i'r golwg yn hanes y bandiau cynnar cyn 1850 a hynny mewn cyngerdd gan Odyddion Nefyn.

Yna yr ail genhedlaeth, 1850-70, a bandiau'r drydedd genhedlaeth o 1870 ymlaen.

Tra chyffrous yw'r cyfeiriad at eisteddfod ym Mhwllheli lle'r oedd y Dr Joseph Parry ac Eos Morlais yn beirniadu.

Fel yr oedd cannoedd yn casglu ynghyd yn Awst - a band Llanrug yn gorymdeithio ar un o strydoedd y dref a rhai ugeiniau tu 么l iddo - ddigwyddodd trychineb.

Rhuthrodd buwch wyllt i ganol y rhialtwch gan ymosod ar y drwm i ddechrau ac yna ar y cyrn!

Gwasgarodd y fuwch gynddeiriog y band a'r bobl i bob cyfeiriad.

Dim s么n
Ychydig yn nes ymlaen cawn yr awdur yn rhyfeddu na chyfeiriodd T Rowland Hughes na'r Dr Kate Roberts at y bandiau pres yn eu gwaith er i fandiau fod yn rhan o fywyd diwylliannol ardaloedd Llanberis a Rhosgadfan yn ystod eu bywydau hwy.

Ond eto tynnodd Glan Rhyddallt o Lanrug sylw at gyfeiriadau yn y Beibl lle ceir hanes band nerthol yn dymchwel muriau Jericho ac at y llu a chwythai gyrn gyda Gideon.

Ond i ddod yn nes adref, yma eto cawn ddarllen am hen wreigen ger llyn Llanberis yn clywed seiniau band ac yn rhedeg at gymdoges gan gyhoeddi mewn llais uchel ei bod yn ddiwedd y byd gan adrodd, "Beth yw'r utgorn glywai'n seinio?"

Cythraul canu
A dyma ni ond yn prin gyffwrdd 芒'r hyn a geir ym mhennod gyntaf y llyfr.

Ac, yn dilyn, daw penodau ar fandiau'r ail a'r drydedd genhedlaeth; yna byddinoedd y diafol, cwrw'r cythraul, bwmba bwm, lecsiwn a ch'nebrwn - nes dod at ddrwm y diafol ei hunan a ddilyn gyda diwrnod i'r brenin.

Ond, yn olaf ond un, y Cythraul Canu bondigrybwyll cyn cloi gyda'r arweinyddion.

Hyn oll wedi ei drysori ar ymron ddeugain dalen a phob pennod gydag is-deitlau sy'n hwyluso'r dilyniant a'r darllen ac yn ychwanegiad at werth y gyfrol fel cyfeirlyfr.

Rhaid cyfeirio hefyd at y lluniau o ugain seindorf o wahanol ardaloedd gyda nodiadau pwrpasol wrth bob un.

Hyn oll yn cwblhau cyfrol werthfawr mewn Cymraeg graenus a gwaith ymchwil trylwyr.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 麻豆社 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy