|
Mewnwr a Maswr Rhys, Geraint, Peter, Llyr a Rhodri o Ysgol Gwynllyw, Gwent, yn taclo nofel am rygbi . . .
Brwydr y Brodyr. Cyfres Mewnwr a Maswr. Awdur-Myrddin ap Dafydd.Gwasg Carreg Gwalch. Pris 拢4.50.
Brwydr y Brodyr yw'r nofel gyntaf yn y gyfres Mewnwr a Maswr. Erbyn hyn, cyhoeddwyd ail nofel, Dau Ddewis, gan Gareth William Jones.
Rhai o ddisgyblion Blwyddyn 9 Ysgol Gwynllyw , Casnewydd, dan arweiniad eu hathro, Ion Thomas, fu'n dweud eu barn am y nofel gyntaf wrth Llais Ll锚n.
Y llyfr Gyda rygbi mor boblogaidd yng Nghymru, dyma nofel a chyfres o'r diwedd yn mynd i'r afael a'r g锚m.
Efeilliaid yw'r prif gymeriadau, Llion a Llyr, ac mae eu tad yn dipyn o gymeriad hefyd.
Egyr y nofel gydag Ifor Madog yn dychwelyd i'r t欧 a'i drwyn wedi torri. Penderfyna ei fod wedi cyrraedd oed ymddeol o'r g锚m . Rhaid i glwb Nant Cadno wneud hebddo.
Ymddengys bod hyn yn ddiwedd y daith. Ond nid yw'n hawdd troi cefn ar y g锚m. Cyn pen dim y mae'n hyfforddi t卯m ieuenctid y Cenawon.
Mae Myrddin ap Dafydd yn amlwg yn hen gyfarwydd a'r ysbryd sy'n perthyn i'r maes rygbi. Mae'r llyfr yn dal y tynnu coes a geir yn yr ystafell newid, teimladau'r cefnogwyr a'r cecru a'r herio a ddigwydd rhwng rhieni a chlybiau.
Twrnament, neu gystadleuaeth diwrnod yw plot y nofel fer hon ac mae un t卯m yn ystyried ei hun ychydig yn well na neb arall sef Morloi Abermoresg.
Arddull Symuda'r nofel ar garlam. Gwneir hynny'n bennaf drwy ddeialog gyda digon o siarad. (Nofel dda i'w darllen yn y dosbarth)
Prin yw'r disgrifio. Hyfryd yw clywed tafodiaith a doethinebu tad-cu a mam-gu sydd ar ymweliad o'r de.
"Fe all wharaewr byr dynnu wharaewr tal i lawr, dim ond ei daclo fe'n gywir. Mae pawb 'run seis ar y llawr." (tud 18)
Ond gogleddwyr yw Llion a Llyr. Difyr yw ffugenwau y chwaraewyr a down i led adnabod Tractor, Combein, Peth Dannedda Mor-Mor yn eitha da.
Bydd pawb wnaiff ddarllen y stori hon yn awyddus i ddod i adnabod y t卯m yn well yn y gyfrol nesaf, Dau ddewis.
Tybed ai hon yw'r nofel gyntaf o gyfres faith o straeon cyffrous o fyd ieuenctid rygbi?Barn oedolyn. Bechod ei bod hi mor fyr. Ydy, mae hynny'n feirniadaeth - ond mae hefyd yn ganmoliaeth.
Rhys Berrow Ei darllen ar un eisteddiad Stori yw hon am yr efeilliaid Llyr a Llion a'u tad. Rygbi sy'n llenwi eu bywydau.
Stori fer yw hi, y gellir ei darllen ar un eisteddiad. Mwynheais y stori yn fawr oherwydd fy mod yn chwarae rygbi. Roeddwn yn cyd deimlo 芒'r cymeriadau.
Yn fy marn i, stori yw hon sydd wedi cael ei hanelu at fechgyn yn eu harddegau cynnar. Mae'r teitl yn addas iawn, gan fod y brodyr yn brwydro i gael safle yn y t卯m rygbi.
Fel awgryma'r clawr, rhagwelwn y bydd gemau rygbi yn cael eu chwarae ac mae yna lawer. Maen nhw'n cael eu disgrifio'n fanwl gan yr awdur.
Gallaf awgrymu a chymell y llyfr yma i unrhyw un yn ei arddegau sy'n hoff o rygbi.
Geraint Thomas Angen mwy yn digwydd Nofel fer ddarllenadwy am frodyr sy'n chwaraewyr rygbi.
O ganlyniad i hyn, mae llawer o dermau rygbi yn y llyfr fel mewnwr, cais a sgrym.
Llyfr anodd i'w ddeall os nad ydych yn gwybod y termau rygbi. Ond mae asgwrn cefn y stori yn ddigon hawdd i'w deall.
Gemau, tactegau a thwrnamaint rygbi a geir yn y llyfr yma. Mae'r efeilliaid yn chwaraewyr da, ac yn ceisio ennill eu lle yn nhim eu blwyddyn. Pan ddaw'r cyfle i wisgo crys Cenawon Nant Cadno mae'r bechgyn yn llawn brwdfrydedd.
Dydyn ni ddim yn dod i adnabod y ddau brif gymeriad yn dda iawn, ond rydyn ni'n gwybod eu bod yn fechgyn Blwyddyn 9, ac yn hoff iawn o'r g锚m.
Yn fy marn i dylai'r stori yma gael mwy o ddigwyddiadau nag un twrnamaint. Ond nofel fer yw hi wedi'r cyfan. 7/10.
Peter Harris Ennill ddim yn bopeth Mae'n stori llawn cyffro dau frawd ac am ddyn sydd wedi torri ei drwyn saith gwaith.
Gwelir yn y nofel pa mor anodd yw hi i oedolyn orffen 芒'r g锚m.
Roedd hi'n braf cael darllen am ddewrder y ddau grwt. Mae nhw'n dangos un peth pwysig iawn, sef nad ennill yw popeth.
Stori i blant 10 i 12 oed yw hon. Er hyn wnaeth hi ddim fy niflasu o gwbl. Bydd yn sicr o gadw diddordeb y darllenydd a gellir ei darllen yn rhwydd mewn dau eisteddiad.
Llyr Randles Diweddglo siomedig Llyfr gweddol yw Brwydr y Brodyr. Nofel wedi ei hanelu at blant tua wyth i 11.
Stori eitha byr yw hi ac ni fydd yn apelio at blant h欧n nac i rai sydd a dim diddordeb mewn rygbi.
Ar ochr arall y geiniog, mae yna agweddau da - mae digon o hiwmor ac i'r rhai ohonom sy'n chwarae rygbi mae yna bethau y medrwn uniaethu 芒 hwy a chydymdeimlo - e.e. Llyr yn anghofio ei hosan rygbi a chriw yn hwyr yn cyrraedd y gystadleuaeth.
Ond o edrych yn fanylach ar y llyfr, nid yw'n llyfr fydd yn ennill gwobrau. I mi mae ei diweddglo yn siomedig.
Rhodri Howley O nerth i nerth Mae'r llyfr yn dechrau yn effeithiol ac yn datblygu'n gyflym wrth i Ifor roi'r gorau i'r g锚m ac yn ysgwyddo'r baich o fod yn hyfforddwr yr ieuenctid.
Hoffwn i petai Myrddin ap Dafydd yn disgrifio'r cymeriadau ychydig mwy.
Bydd plant tua deg oed sy'n hoffi rygbi wrth ei bodd gyda'r nofel hon. Mae gen i deimlad bydd y gyfres yn mynd o nerth i nerth.
|
Chloe dwi'n dod o'r ysgol ma, a mae'r bechgyn wedi wneud joban dda. Da iawn chi rhodri,llyr,peter a rhys.
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|