麻豆社

Explore the 麻豆社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆社 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Zen
Datgelu gormod am wasanaeth cudd
Adolygiad Dafydd Meirion o Zen gan Geraint V Jones. Gwasg Carreg Gwalch, 拢6.95.

Clawr y llyfrPlisman arfog, newyddiadurwraig brydferth, ysb茂wyr a gwleidyddion - dyna brif gymeriadau'r nofel hon.

Mae'r teitl Zen braidd yn gamarweiniol gan fod rhywun yn meddwl yn syth am rywbeth i'w wneud 芒 Bwd茂aeth neu grefyddau cyfrin y Dwyrain Pell.

Ac mae cynllun niwlog y clawr i ryw raddau'n atgyfnerthu hyn.

Ond plisman arfog, aelod o'r SO11 yw Zen neu Steven Zandon Smith i roi iddo ei enw llawn.

Cymraes o sir Gaerfyrddin
Y newyddiadurwraig yw Angharad Morgan, Cymraes o Sir Gaerfyrddin sy'n gwneud enw iddi'i hun gydag un o bapurau Stryd y Fflyd yn Llundain.
Alex neu A A Morgan yw hi yn fan'no.

Mae'n anodd adolygu llyfr o'r fath yn llawn heb ddweud beth sy'n digwydd a difetha'r stori.

Waeth i mi ddweud fod yna rywun yn ceisio saethu Zen (Steven Smith) ac hefyd yr Ysgrifennydd Cartref, Stephen Smythe. Welwch chi'r cysylltiad? Ie, fe wnes innau hefyd, ond mae'n cymryd peth amser i'r cymeriadau yn y nofel wneud.

Yn drlwyr
Mae'r awdur wedi gwneud ei waith yn drylwyr. Mae'n gwybod am bob stryd ynghanol Llundain ac am bob twll a chornel ym Mhalas Westminster ble mae Zen yn gweithio.

Mae hefyd yn gwybod am hanes Estonia a'i phrifddinas Tallinn - ac ar brydiau mae'r pentyrru gwybodaeth yn mynd yn fwrn.

Cymrwch chi baragraff cyntaf Pennod 13: "Yn ogystal 芒'r Ysgrifennydd Cartref David Blunkett, yno'n bresennol hefyd roedd Jack Straw, yr Ysgrifennydd Tramor; K, sef Eliza Mannighan-Buller, Cyfarwyddwr Cyffredinol MI5 yn Thames House; C, sef ....." ac ymlaen ac ymlaen, er bod y cymeriadau yma a'u swyddogaethau eisoes wedi'u crybwyll cyn hyn.

"Gwelodd Alex y syrffed yn tyfu ar wyneb Zen a gwnaeth b芒r o lygaid arno, iddo fod yn fwy amyneddgar."
Gallwn gydymdeimlo ag o.

Byddai'n llyfr mwy darllenadwy heb yr holl ffeithiau hyn. Er hynny, mae'r stori yn symud yn weddol sydyn. Mae'r paragraffau a'r is adrannau yn fyr (yn enwedig ar ddechrau'r llyfr) ac mae yna symud yn gyflym o sefyllfa i sefyllfa.
Mae sawl tro annisgwyl yn y stori a'r stori yn neidio o un cymeriad i'r llall.

Eithaf cyfoes
Mae'r llyfr yn eithaf cyfoes gan ei fod yn s么n am y newyddiadurwr Gillighan a Dr David Kelly a laddodd ei hun - sefyllfa a gododd ond rai misoedd cyn i'r nofel weld golau dydd.

Ond hanfod llyfr o'r fath ydy eich bod ar d芒n eisiau gwybod beth sy'n digwydd nesaf. Nid felly gyda hwn. Roedd hi'n ddigon hawdd rhoi'r llyfr i lawr bob hyn a hyn - o bosib oherwydd yr holl bentyrru ffeithiau.

Chwilio am wendidau
Ac o'r herwydd mae rhywun yn chwilio am wendidau yn y stori. Pam nad yw Zen yn cario ei gerdyn adnabod ac yntau'n blisman?
Pam fod Zen, sy'n gocni, yn siarad ag acen ogleddol ac Alex ag acen ddeheuol?
Pam nad ydy'r heddlu'n cymryd fawr o sylw fod rhywun wedi saethu at Zen?
Pam fod angen troednodyn i egluro mai'r 'Aye Lobby' yw'r cyntedd 'O Blaid' yn Nh欧'r Cyffredin?
Be ddigwydodd i Emlyn John y plisman oedd yn bwydo gwybodaeth i Alex?

Roeddwn i tua hanner ffordd drwy'r llyfr cyn i mi ddechrau cael blas arno ond hyd yn oed wedyn roedd rhai pethau'n dal yn chwithig.

Sut y syrthiodd Alex mewn cariad 芒 Zen mor sydyn? Doedd yna fawr i awgrymu ei bod yn hoff ohono cyn hynny.

Symud yn sydyn
Mae'r nofel yn symud yn sydyn tuag at y diwedd - yn rhy sydyn efallai - fel pe bai pethau yn disgyn i'w lle yn rhy hawdd.

Siomedig iawn yw'r diwedd gyda rhywun yn disgwyl rhyw gyffro, rhyw redeg neu sgrialu - ond does dim.

Ydy'r awdur yn ceisio'n rhy galed?
A wnaeth o ormod o waith cartref?

Mae yna ddywediad yn Saesneg sy'n s么n am wneud gormod o waith a dim digon o chwarae ac rwy'n credu mai dyma ddigwyddodd yn yr achos yma.

Mae'r stori ei hun - y plot - yn fwy na derbyniol. Mae'r cymeriadau'n gredadwy. Mae'r dweud stori - pan na fydd pentyrru ffeithiau - yn llithrig; ond allai yn fy myw a dweud fy mod i wedi mwynhau'r nofel.

O edrych ar fy nodiadau, gwelaf mai tynnu sylw rydw i wedi ei wneud at wendidau'r llyfr yn hytrach na'i gryfderau.

Trueni, mae'n amlwg fod yr awdur wedi gweithio'n galed - ond mae hefyd yn waith caled ar brydiau darllen y llyfr.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 麻豆社 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy