|
Cynnwrf Canrif Sylwadau ar Cynnwrf Canrif - Agweddau ar Ddiwylliant Gwerin gan Huw Walters. Barddas. £16.
O'i theitl gellid maddau i rywun am feddwl mai cyfrol ysgolheigaidd, sych, gyda gwaith palu mawr drwyddi yw hon.
Nid fyddai dim yn bellach oddi wrth y gwir. Mae'n gywir ei bod yn ffrwyth ysgolheictod dyfal ond mae hefyd yn ddifyr i'r lleygwr o ran cynnwys ac yn llithrig ddigon o ran arddull.
Mae gair o ganmoliaeth haeddiannol i'r awdur, Huw Walters, sy'n bennaeth Uned Llyfryddiaeth Cymru yn Adran Casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gan Hywel Teifi Edwards mewn cyflwyniad i'r llyfr.
Ysgolhaig a llenor "Yn ysgolhaig arfog, y mae'n ogystal yn llenor sy'n denu a chynnal darllenwyr gan mor olau a diwastraff yw'r arddull a ddatblygodd," meddai.
Ar ben hynny, mae'n trafod pynciau ac, yn bwysicach fyth, bobl ddiddorol.
Naw ysgrif sydd yn y gyfrol hon - ond mae rhywun yn teimlo y byddai rhai o'r pynciau a'r cymeriadau yn ddigon difyr a diddorol i haeddu eu llyfr eu hunain.
A chyda'r gyfrol yn costio £16 tybed na fyddai mwy o brynu ar nifer o lyfrau rhatach.
Brwydr dirwest Y tair erthygl a roddodd y mwynhad pennaf i mi oedd Y Gwladgarwr a'i Ohebwyr, Pontypridd a'r Cylch: Gwlad beirdd a Derwyddon a Dryllio Caerau Bacchus: Cenhadaeth Daniel Dafydd Amos yn ymwneud â brwydr dirwest - a pheidied neb a thybio fod hwnnw'n bwnc sych - yng nghymoedd y de yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg lle canolir y sylw ar weithgarwch Y Parchedig Phylip Griffiths, gweinidog eglwys annibynnol yr Allt-wen.
Ddydd ei angladd ef, "distawodd peiriannau gweithfeydd yr Allt-wen, Pontardawe, a'r pentrefi cyfagos, caewyd drysau'r masnachdai, a thynnwyd y llenni ar draws ffenestri'r siopau am y prynhawn."
Yn fwy na gweinidog yr oedd Griffiths hefyd yn ysgolfeistr, yn gyfreithiwr i'w braidd ac yn "ddiwygiwr cymdeithasol" yn ei ardal.
Bendith y Cwrw Bach Mae'r darlun o'r cyfnod a'i arferion y tu hwnt o ddifyr.
Arferion fel y Cwrw Bach, er enghraifft, oedd yn cael ei gynnal i gynorthwyo gweithwyr a gollodd eu iechyd: "Cytunai'r ardal gyfan . . . gynnal cwrw bach neu bastai . . . Âi'r trigolion ati gyda chryn frwdfrydedd i facsu cwrw a chrasu teisennau ac yna eu gwerthu mewn gwledd, gan gyfrannu'r elw wedyn i'r dioddefydd a'i deulu."
Hynt papur newydd Heb os, y bennod yn y gyfrol a ddarllenais gyda'r mwyaf o awch oedd, Y Gwladgarwr a'i Ohebwyr.
Papur newydd Cymraeg wythnosol a gyhoeddwyd yn Aberdâr rhwng 1858 ac 1884 oedd Y Gwladgarwr gyda chriw digon brith o gymeriadau yn amrywio rhwng y gwych a'r gwachul a'r ecsentrig yn cyfrannu iddo.
Diddorol y dyddiau hyn o gwyno am gynni'r wasg Gymraeg cymaint bri oedd yna ar gyhoeddiad Cymraeg o'r fath y cyfnod hwnnw - yn enwedig yn yr ardal arbennig hon yr ydym heddiw wedi anghofio pa mor fyrlymus Gymreig fu hi.
Meddai Huw Walters: "Sefydlwyd nifer o weithfeydd haearn ym Mlaenau Gwent a Morgannwg . . . ac . . . yr oedd cryn lewyrch ar Gymreictod yr ardaloedd hyn. Cymraeg oedd iaith y mwyafrif llethol o'u trigolion, a sefydlwyd nifer o gymdeithasau Cymreigyddol, gyda'r amcan o noddi llên a barddas."
Ffrae rhwng papurau Tyfodd Aberdâr ei hun "yn brif ganolfan argraffu Morgannwg "ac mae rhyfel bapur newydd a ddisgrifir rhwng Y Gwladgarwr a chyhoeddiad arall,Y Gwron, gystal ag unrhyw ffrae rhwng Sun a Mirror y dyddiau hyn gydag un papur yn hudo golygydd y llall i weithio gydag ef!
Yng nghanol y ffrae sefydlwyd papur arall, Y Gweithiwr a unwyd maes o law a'r Gwron - y cyfan yn arwyddion cryn brysurdeb, menter a drwgdeimlad.
Cecru a morthwylio Yr oedd barddoniaeth, helyntion eisteddfodol a ffraeo am farddoniaeth ac ymgecru rhwng beirdd yn rhan allweddol o ddarpariaeth Y Gwladgarwr. "Nid yw ef byth yn ddedwydd pan heb elyn i'w forthwylio," cyhuddir un o'r golygyddion. "Mae wedi gollwng dros y wlad drwy'r newyddiaduron raiadrau o rant a baldordd bregethwrol."
Ond rhoddodd hefyd y cyfle cyntaf "i un o ysgrifenwyr rhamantau amlyca'r Gymraeg", gyhoeddi ei waith - Isaac Craigfryn Hughes, glöwr o Fynwent y Crynwyr.
Gyda'r mwyaf poblogaidd o'i gyfranwyr oedd Thomas 'Llyfnwy' Morgan o'r As Fawr ym Mro Morgannwg a brentisiwyd yn deiliwr ond a sgrifennai golofn, Teithiau yr Hen Bacmon, yn cynnwys straeon a gasglai yn ystod ei deithiau'n teilwra mewn ardal yn ymestyn cyn belled a Sir Gaerfyrddin.
Diweddodd ei ddyddiau yn yr America wedi, yn gyntaf, fod yn yn cadw'r Cross Keys yn Ffynnon Daf ac yntau wedi rhoi'r gorau i ohebu fel y Pacmon. Yn America, lle'r ymunodd ei wraig a'i naw o blant ag ef yn Scranton, sgrifennai i Baner America ac i gyhoeddiadau yng Nghymru.
Pan yn ohebydd yng Nghymru, ymddiddorai'n fawr mewn helyntion eisteddfodol.
Un tro, yn dilyn adroddiad "smala" am briodas y Parchedig William Hopkin, Cymer, daeth dan lach un a alwai ei hun Y Cymro Gwyllt, Noah Morgan Jones, a oedd yn gymeriad yr un mor ddiddorol ac yr awgryma'i enw!
Ganwyd ef, yr ieuengaf o naw o blant, ym Mynachlog Nedd ond wedi symud i Anerdâr dechreuodd weithio dan ddaear yn 12 oed.
Ysgrifell yn ysgrafell "Mynych y byddai yr ysgrifell yn troi yn ysgrafell yn ei law," wrth iddo drafod pynciau diwydiannol fel perthynas meistr a gwas ac yntau "yn meddu digon o wroldeb i draethu ei farn heb ofni y canlyniadau."
Yn arwydd o'r amseroedd yr oedd yn asiant hyrwyddo allfudo i'r America a bu dros yr Iwerydd ei hun fwy nag unwaith a sefydlodd ei fusnes allfudo ei hun.
"Nid pawb a gymeradwyai'r Cymro Gwyllt, fodd bynnag. Awgrymodd Walter Haydn Davies mai arfer y Cymro oedd manteisio ar lowyr y cymoedd drwy eu cymell i yfed yn nhafarn y Cross ac wedyn eu hudo, yn eu meddwdod ac addo pob math o gysuron bydol iddynt yn America."
Cymaint ei sêl dros America y disgrifiwyd Y Gwladgarwr fel "y mwyaf Americangar o gyfnodolion Cymru" a chyhoeddwyd degau o lythyrau gan ymfudwyr ynddo a'r rheini bellach yn ddogfennau gwerthfawr i bwy bynnag sy'n astudio yr agwedd hon o hanes y cyfnod.
Mae'r ymfudo hwn yn sgwarnog y mae Huw Walters yntau yn ei dilyn gyda brwdfrydedd yn y bennod hon.
Y rhifyn olaf Daeth yr hen bapur i ben fis Hydref, 1882, a hynny er mawr lawenydd i gyhoeddiad arall yn Aberdâr a gyhoeddodd un o'r marwnadau mwyaf gorfoleddus a ddarllenwyd erioed:
"Ond er dyfned ein parch ac er uched ein syniadau am ein hen gyfaill ymadawedig," meddai Tarian y Gweithiwr, "ni thrawyd ni a syndod pan ganwyd cnul ei farwolaeth. Yr oedd yn amlwg ers wyth mlynedd fod y darfodedigaeth wedi ymaflyd yn ei ranau bywydol . . . Ffugiai fod mor iached â chricsyn pan oedd ei gyfansoddiad mor bwdr â llywodraeth y Twrc. Ond nid oedd pranciau felly i barhau yn hir a . . . wele y newydd hir ddisgwyliedig . . . ei fod wedi tynu ei anadl ddiweddaf!
"Yr oedd ein hen gyfaill ymadawedig y fath gyfrwng ysblennydd i lu o ymfflamychwyr i ddwyn allan gynhwysiad eu pothellau a'u pledrenau gwynt. Y mae ychydig Wellingtoniaid y byd llenyddol wedi eu hamddifadu o'r maes y buont yn ymladd llawer cant o frwydrau. Dystawodd sŵn eu tabyrddau a pheidiodd cleciadau eu cwmbwlets!
"Priodol y gellir dweud, 'A'r wlad a gafodd lonydd, a bu tawelwch mawr'. . . .
"Bu farw a'i gŵd yn llawn o fustl a llond cil ei foch o ddifrïaeth. Safai champions y bedwaredd ganrif ar bymtheg wrth erchwyn ei wely mor chwyddedig a llyffaint Cors Fochno. Ond Ow! Diffoddodd y ganwyll frwynen, a'r oraclau a adawyd yn y tywyllwch. Bydded tynghedfen yn dyner i'r rhai sydd yn eu galar, ac ymdrechwn ninau i lanw bwlch mawr a phwysig a achoswyd gan farwolaeth ein hen gydymaith."
Heddwch i'w lwch yn wir!
Cymharu â heddiw Ac y mae gair olaf Huw Walters, er yn fwy cytbwys, yr un mor finiog: "Y mae pori yng ngholofnau'r Gwladgarwr . . . a'r cylchgronau a'r newyddiaduron eraill a gyhoeddwyd yng nghymoedd diwydiannol y de . . . heb na chymhorthdal na nawdd gan yr un sefydliad cofier - yn brofiad ysgytwol i'r darllenydd o Gymro Cymraeg heddiw, sy'n gorfod dibynnu ar newyddiaduraeth ail-law, slic ac arwynebol gwasg Gymraeg ddisylwedd ddechrau'r unfed ganrif ar hugain."
Penodau eraill Un arall o benodau llachar y gyfrol yw honno am weithgarwch hynod beirdd a derwyddon ardal Pontypridd yn y bedwaredd ganrif ar.
Llai anghyfarwydd yw hanes Amanwy y mae Huw Walters yn trafod ei ryddiaith.
Mae pennod hefyd am un o'r ymchwilwyr i gyflwr addysg yng Nghymru a esgorodd ar adroddiad Y Llyfrau Gleisiom; Unig Anterliwt Shir Gâr; Cymry yn Awstralia a John Dyer a Theulu'r Waun Lwyd.
Gyda'r Nadolig yn agosáu - cyfrol wych i'w hystyried yn anrheg. Glyn Evans
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Â鶹Éç Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|