| |
|
|
|
|
|
|
|
Adeiladu mewn Cymraeg Clir Mae Canolfan Bedwyr, Prifysgol Cymru Bangor, a'r CITB wedi cydweithio i gyhoeddi llyfryn mewn Cymraeg Clir.
Y CITB yw prif gorff dyfarnu'r diwydiant adeiladu ym Mhrydain ac yn gofalu am recriwtio, hyfforddi a rhoi cymwysterau i'r rai sy'n gweithio yn y diwydiant adeiladu.
Mae'r llyfryn newydd yn disgrifio mewn Cymraeg Clir sut mae CITB yn gwneud ei waith ac yn cynnig gwasanaethau.
Meddai David Elvidge, Rheolwr CynnyrchCITB: "Mae cyhoeddi'r llyfryn yma mewn Cymraeg Clir yn dangos mor awyddus ydyn ni i greu deunyddiau ar gyfer myfyrwyr Sgiliau Adeiladu mewn iaith sy'n hawdd ei deall.
"Dyna mae Cymraeg Clir yn ei wneud. Mae Uned Cymraeg Clir Canolfan Bedwyr wedi symleiddio iaith y llyfryn yma ac rydyn ni'n falch iawn bod y Ganolfan wedi dyfarnu marc Cymraeg Clir iddo. Ein bwriad yw mynd ymlaen i greu ffurflenni a chyhoeddiadau eraill mewn Cymraeg Clir."
Canmolodd y Dr Cen Williams, Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr ac awdur llyfr Cymraeg Clir, ymdrechion y CITB:
"Mae'n dda gen i glywed bod CITB yn bwriadu creu rhagor o ddeunyddiau mewn Cymraeg Clir. Mae Uned Cymraeg Clir Canolfan Bedwyr wedi helpu i greu llawer o ddeunyddiau dysgu ar gyfer colegau Addysg Bellach mewn meysydd fel Gofal Plant, Trin Gwallt, Gweinyddu Busnes, Arlwyo a rhai unedau NVQ mewn Sgiliau Adeiladu.
"Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r Uned hefyd wedi addasu a chyfieithu sawl cwricwlwm craidd ym maes Sgiliau Sylfaenol (Llythrennedd a Rhifedd). Rydw i'n falch iawn o weld cymaint o'n pobl ifanc ni'n cael deunyddiau astudio mewn Cymraeg naturiol, syml a chlir."
Cyfeiriad e-bost Cymraeg Clir ydi; cymraeg.clir@bangor.ac.uk.
Cysylltiadau Perthnasol
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|