|
Ar Lwyfan Cymru Adolygiad o Ar Lwyfan Cymru gan Alun Guy. Gomer. 拢8.99.
Yr hyn sy'n dod yn glir yn fuan iawn o ddarllen y gyfrol hon yw pa mor allweddol fu' ein heisteddfodau yn lleol a chenedlaethol i yrfa ein cantorion.
Dro ar 么l tro mae Alun Guy yn cyfeirio at gantorion o fri yn dod i'r amlwg mewn eisteddfodau m芒n a mawr ac yn hogi'r doniau hynny ar y llwyfannau eisteddfodol wedyn.
Chwech o gantorion Portreadau byrion o chwech o gantorion sydd yn y gyfrol - oll yn rhai y mae Alun Guy, fel cerddor a beirniad eisteddfodol o fri, yn gyfarwydd iawn 芒 hwy ac yn rhai y mae wedi dilyn eu gyrfaoedd gyda diddordeb.
Mae wedi'i sgrifennu ar gyfer y darllenydd cyffredin yn ogystal a gwybodusion yn y maes.
Y chwech yw: Sh芒n Cothi, Dai Jones, Tom Gwanas, Trebor Edwards, John Eifion Jones a Fflur Wyn.
Mae'n ddewis sy'n sicrhau amrywiaeth nid yn unig o ran oedran; gyda Fflur Wyn yr ieuengaf ac yn cychwyn dringo ysgol ei gyrfa hi ond eraill wedi hen ennill eu plwyf ac yn nes at ymddeol nag at gychwyn!
Llais telynegol Yn ogystal 芒 dweud eu hanes mae Alun Guy hefyd yn pwyso a mesur eu doniau.
"Llais telynegol, hyblyg sydd ganddi, gydag elfennau deniadol o coloratura yn perthyn iddo" meddai am Fflur Wyn.
"Er mai bychan o gorff yw Fflur, mae ei hewyllys a'i hawydd i lwyddo yn enfawr. Mae'n hyderus, ac yn derbyn canmoliaeth a beirniadaeth yn eu tro gyda'r un w锚n ddiniwed, chwareus. Nid yw'n cymryd ei hunan ormod o ddifri, chwaith - mae ganddi athroniaeth real ac ymarferol tuag at ei phroffesiwn," meddai.
Ie, proffesiwn - achos dyna fwriad Fflur, gwneud gyrfa o ganu.
Nid dyna fu dymuniad na hanes pob un yn y gyfrol.
Dai Jones yn cael ei ddisgrifio fel un o'r "tenoriaid telynegol blaenaf" wedi mynd rhagddo i ganolbwyntio ar yrfa mewn teledu.
Gorchestion Tom Gwanas, ar lwyfan Eisteddfod yn hytrach nag fel canwr proffesiynol. A bu gorchestion hefyd: ennill naw gwaith ar yr unawd bariton yn y Genedlaethol - "record anhygoel yn wir".
Ac, wrth gwrs, un o uchelbwyntiau Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002 oedd y canwr gyda'r melfed yn ei lais yn cipio'r Rhuban Glas am yr eildro trwy efelychu camp a gyflawnodd gyntaf yn 1986.
"Yn bersonol, mi wn am nifer o gantorion naturiol, da . . . erbyn heddiw mae'r llais wedi mynd, neu mae 'na gryndod a vibrato annisgybledig ynddo. Nid felly gyda Tom. Hyd y dydd heddiw, mae'r llais melfedaidd yma wedi aros yn bur a chyfoethog," meddai Alun Guy.
Dim rhyfedd iddo gael ei ddewis yn brif gantor Eisteddfod Llangollen yn 1984 ac wedyn yn '89.
Pytiau difyr Dydi Alun Guy ddim yn cyfyngu ei hun i nodiadau am yrfaoedd y cantorion hyn ond yn s么n am eu cefndir ac mae pytiau difyr am eu bywyd y tu allan i ganu hefyd.
Ond yr un peth sy'n gyffredin iddyn nhw yw eu bod un ac oll yn rhai y mae ganddo edmygedd mawr ohonyn nhw.
Maent hefyd yn rhan ddiymwad o'r gymdeithas a'r diwylliant Cymraeg traddodiadol:
"Maen nhw wedi cyrraedd . . . enwogrwydd . . .trwy ffyrdd gwahanol . . .ond mae un peth yn gyffredin i'r chwech - cynnyrch y diwylliant Cymraeg yw pob un ohonynt. Yr eisteddfodau bach gwledig, y llwyfan lleol, oedd y man cychwyn iddynt i gyd. I bump ohonynt, bu llwyfan yr eisteddfod, o'r lleol i'r Genedlaethol, yn gyfrwng pwysig i ddatblygu eu dawn a'u gyrfa," meddai.
Yr un, ychydig yn wahanol, ydi Trebor Edwards "gan iddo ennill ei blwyf trwy gystadlu mewn gornestau talent."
Ychwanega: "Maent i gyd wedi perfformio a chynrychioli diwylliant Cymru gydag urddas ac anrhydedd ar lwyfannau ar hyd a lled y byd, ond mae pob un ohonynt yn falch o'i fagwraeth ar lwyfan Cymru."
Mae'n braf dod i'w hadnabod yn well trwy gyfrol Alun Guy a diau y gallwn edrych ymlaen at un arall i'w dilyn.
Ffeithiau difyr o'r gyfrol: Enw bedydd Sh芒n Cothi yw Sh芒n Margaretta Morgan. Mabwysiadodd ei henw llwyfan pan oedd yn un o ddwy Sh芒n Morgan yn cystadlu yn Eisteddfod Aberteifi yn blentyn. Fel Sh芒n y Gof yr oedd yn cael ei hadnabod yn lleol
Yn Llundain y ganwyd Dai Jones, Llanilar, ac mae ei frawd yn dal yn yrrwr tacsi yno.
Byddai Dai Jones yn ymarfer ei lais wrth ei waith ar y fferm. Yn ymarfer gwaelod y llais cyn brecwast, canol y llais yn y prynhawn a thop y llais wrth olchi'r parlwr godro fin nos.
Rhyw ffermwr, gwerinwr yw, Di-hid o ymffrost ydyw Yw llinellau agoriadol cerdd deyrnged i Tom Gwanas.
Gwrthododd Trebor Edwards droi'n broffesiynol - oherwydd ei fod mewn cariad!
Mae gan John Eifion Jones gariad arbennig tuag at Ffrainc.
Bu Fflur Wyn yn cynorthwyo ei thad gyda thriciau consuro. gan Glyn Evans
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|