麻豆社

Explore the 麻豆社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆社 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Waldo Williams - rhai atgofion
Gwyn Griffiths yn cofio munudau i'w trysori yng nghwmni Waldo Williams
Prynais Dail Pren Waldo Williams yn 1957 - yr ail argraffiad - pan oeddwn yn chweched dosbarth Ysgol Uwchradd Tregaron.

Buan y gwelais fy mod wedi darganfod rhywbeth go arbennig.

Aeth blynyddoedd heibio cyn imi geisio mynd i'r afael 芒 cherddi fel Rhwng Dau Gae. Y cerddi ysgafn aeth a'm bri gyntaf.

笔补谤辞诲茂飞谤
Roedd Blodau'r Ffair ar ei anterth bryd hynny a mynd ar barod茂au; ond un peth oedd parod茂o Cwyn y Gwynt John Morris-Jones neu Border Bach Crwys ond roedd y dyn yma'n parod茂o Ymadawiad Arthur T. Gwynn Jones!

Lai na phum mlynedd wedyn roeddwn i'n byw yng Ngwdig, lle roedd Waldo'n lletya gyda'i chwaer, Mrs Mary Francis.

Ac roedd Dilys Williams, chwaer arall, athrawes y Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Abergwaun, yn lletya gyda'r adeiladwr difyr, Beni Lewis, a'i wraig m芒s ar Bencaer.

Toc wedi imi ymsefydlu yng Ngwdig c锚s wahoddiad i fod yn aelod o Fforddolion Dyfed.

Fedrwn i yn fy myw ddeall pam y c锚s i'r anrhydedd o ymuno 芒 chriw mor ddethol o feirdd, llenorion a gweinidogion ond buan iawn y deuthum i wybod.

Fy nghyfrifoldeb personol i fyddai dod 芒 Waldo i'r cyfarfodydd, a disgwylid imi lwyddo i sicrhau ei bresenoldeb o leiaf mewn dau gyfarfod o bob tri.

Cymerais fy nyletswydd o ddifri a byddwn yn galw'n ddyddiol i'w atgoffa am wythnos cyn bob cyfarfod.

Rwy'n cofio mynd ag e i gyfarfod o'r Fforddolion yng ngogledd y sir. Roeddwn wedi gyrru fyny bob cam ac wedi cyrraedd cyn belled 芒 Threfdraeth ar y ffordd yn 么l cyn cael gair o'i ben.

Yna, dyma fe'n gofyn i mi'n sydyn:
"Sut fuasech chi'n dweud 'I haven't got a cap' yn Gymra'g?"

Cafodd siom pan atebais i, "Sdim cap gen i," gan mai'r ateb a obeithiai amdano oedd "Sdim un gap gen i."

Chwarae t锚g, Cardi oeddwn i a doedd dim disgwyl i mi fod wedi ateb yn iaith Waldo.

Eglurodd ei ddamcaniaeth fod yr un yna'n cyfateb i'r fannod amhendant a yn Saesneg - nad yw'n bod yn y Gymraeg.

Ond bod yr un yna yr un fath a'r fannod amhendant yn yr Wyddeleg. Dylanwad yr Wyddeleg ar y Ddyfedeg, synfyfyriai Waldo.

Ar aelwyd Saesneg
Roedd Waldo wedi ei eni ar aelwyd Saesneg ei hiaith yn Hwlffordd a dysgu Cymraeg gyda'i gyfoedion wedi i'w dad fynd yn brifathro ym Mynachlogddu ac wedi hynny yn Llandysilio.

Saesneg a siaradai gyda'i chwiorydd fel rheol ond nid pan fyddai rhywun arall yn eu cwmni.

Cofiaf fod yn ei gwmni e a Dilys pan gododd rhyw bwynt astrus o ramadeg Cymraeg ac fe aeth yn dipyn o ddadl.

Aeth hi'n ddadl mor dwym nes, mewn chwinciad, roedden nhw wedi troi i'r Saesneg!

Cynganeddu proffwydol
Gan W. R. Evans, Bwlchygroes a'r Barri wedi hynny, y clywais y stori hon.

Roedd Gwilym R. Tilsley wedi'i ddewis yn Archdderwydd a bu Waldo'n ceisio cynghaneddu Tilsley.

Y llinell ddaeth o'r diwedd oedd "Y Tilsleys ar y teilslawr".

Y noson honno cafodd Waldo'r newydd fod y Parchedig a Mrs Tilsley'n dod i dreulio rhai dyddiau gyda'i chwaer, Mrs Francis, a'i bod hithau'n mynd i gael teils newydd ar lawr y stafell molchi.

"W锚s rhywun wedi meddwl astudio elfen broffwydol y gynghanedd?" holodd Waldo.

Mwynhau carchar
Fel siaradwr cyhoeddus gallai fod yn ysbrydoledig neu'n affwysol anniddorol.

Fe'i cofiaf yn rhoi darlith i Fforddolion Dyfed, unwaith na fu fawr o lun ar bethau y noson honno.

Yna, wrth inni gael paned o de wedi'r ddarlith - yn un o'r munudau hynny pan dawela stafell gyfan yr un pryd - torrodd llais Waldo'r distawrwydd:
"A dweud y gwir fe wnes i fwynhau'n iawn yn y carchar."

Wedyn fe gawson ni ddarlith gwerth ein harian.

Anghytundeb personol
Mae hanes amdano'n traddodi darlith athronyddol iawn i ddosbarth nos - ac yr oedd Waldo'n ŵr tu hwnt o wybodus a dysgedig - gyda'r dosbarth am awr gyfan yn ymbalfalu'n y niwl.

A fin gorffen, cododd Waldo ei olygon a syllu'n hir tua'r to - fel y gwn芒i yn fynych.

"Wedi ailfeddwl," meddai, wedi saib hir, "dwi ddim yn meddwl bo fi'n cytuno'n llwyr 芒 beth wedes i wrthoch chi heno.

"Peth gore yw i chi anghofio'r cwbwl. Rhodda i gynnig arall arni wthnos nesa."

Am siarad
Un tro, cafodd wahoddiad i siarad mewn cyfarfod o Senedd yr Ifanc, Yr Urdd, yn Llangrannog.

Wrth ddirwyn ei chyflwyniad hi i ben dywedodd arweinydd y Senedd, Morwenna Williams o Sir Y Fflint, rywbeth i'r perwyl fod "Mr Williams am ein hannerch ..."

Mae pobl Sir Benfro'n hoff iawn o'r "am" mewn brawddeg fel'na - hynny yw, bod rhywun "yn mynd i wneud rhywbeth" nid o reidrwydd yn awyddus i wneud hynny.

Ac roedd Waldo wedi ei oglais yn fawr iawn gan yr "am".

A chawsom anerchiad cyfan, tu hwnt o ddifyr, am yr "am" hwn.

O leiaf roedd yn ddoniol i gynrychiolwyr Penfro, Caerfyrddin a Cheredigion ond rwy'n amau a oedd cynrychiolwyr y siroedd eraill yn ei ddeall i gyd.

Nid oedd yn llefarwr eglur ac roedd ei Gymraeg yn dafodieithol iawn.

Dweud stori
Serch hynny, roedd yn ddarlithydd poblogaidd yn y cyrsiau penwythnos a gynhelid i athrawon 'slawer dydd.

Mewn cwrs ym Mhantyfedwen, hen ganolfan yr Urdd yn Y Borth, roedd Waldo yn ei stafell un noson yn paratoi darlith at drannoeth pan ddaeth cnoc ar y drws.

"Mr Williams," meddai rhyw athrawes ifanc, swil, "newch chi ddod lawr i weud stori wrthon ni?"

Wedi tipyn o bwyso, fe gytunodd. Dywedodd ei stori ac aeth 'n么l at ei ddarlith.

Chwarter awr wedyn dyma gnoc arall ar y drws, athrawes arall yn ymbil arno i ddod i ddweud stori arall ond roedd angen mwy fyth o ymbil y tro hwn, ond lawr yr aeth e.

Pan ddigwyddodd yr un peth y trydydd tro, aeth Waldo ddim 'n么l i'r llofft ond sleifio'n 么l mewn i gefn y stafell.

A'r hyn welodd e oedd prifathro Eglwyswrw, y diweddar Jason Lewis, yn dod i flaen y stafell ac ail ddweud y stori mewn dynwarediad perffaith - lais ac ystum - o berfformiad Waldo.

Wedi iddo orffen cerddodd Waldo ymlaen o'r cefn a phawb yn poeni beth fyddai ei ymateb. Y cwbl ddwedodd oedd:
Dynwaredwr di-dwrw - a gefais,
Mi gofiaf am hwnnw;
I mi, hawdd nawr, medde nhw,
Siarad o Eglwyswrw.

Gallaf dystio bod y stori yna'n wir bob gair, gan i mi ei chlywed gan Waldo a Jason.

Yn ddiamau roedd yn englyn a luniwyd mewn sefyllfa digon od. Rhyfeddach fyth oedd yr un a luniodd yn ystod egwyl o ysgol h芒f Plaid Cymru yn y gogledd.

Ei ddal yn y d诺r
"Roedd gen i brynhawn rhydd a fe 锚s i ar y beic i grwydro glan y m么r," meddai Waldo. "Roeddwn i wedi troi oddi ar y brif ffordd a ffeindio traeth bach bendigedig tua Phwllheli. Doedd neb yn agos, dim t欧, dim byd, ac roedd hi'n brynhawn twym.

"Fe dynes 'nillad a mewn a fi i'r m么r - heb drywsus nofio na dim byd. Roeddwn i ond wedi bod yn y d诺r am funude pan ddaeth llond car o Saeson, agor cefen y car, a dod a llwyth o fwyd m芒s a dechre c芒l picnic. Wrth ddisgwyl iddyn nhw fynd fe lunies englyn."

Dihangaf rhag y dynged - a heb ddrons
Bydd raid i mi fyned.
Rhedaf tua'r ymwared
Yn borc noeth i Birkenhead.

Mae'r englyn wedi ei gyhoeddi yn Y Flodeugerdd o Englynion Ysafn dan y teitl Ymdrochi ym Mhwllheli.

Ar ddwy olwyn
Roedd yn feiciwr rhyfeddol yn ei ddydd ac mae'r straeon am ei anturiaethau ar ddwy olwyn yn llu.

"Sdim gwell ffordd o ddod i nabod gwlad nag ar gefen beic," meddai.

Yn 么l Islwyn Jones, Y Barri, byddai Waldo'n beicio'r holl ffordd i'r gogledd i Ysgol Haf y Blaid.

"Bydde fe'n cyrra'dd 芒'r olwg ryfedda arno ambell waith, yn wlyb - neu'n chwys - domen," meddai Islwyn.

"Rwy'n i gofio fe'n cyrra'dd un tro a chyhoeddi bod plant Dinas Mawddwy ddim yn deall Cymr'ag. Y gwir, siwr o fod, o'dd bo nhw wedi'u taro'n fud wrth weld dyn mor ryfedd yr olwg!"

Deiseb fwyd
Roedd yn darlithio mewn cwrs yng Ngholeg Harlech un haf a nifer o Saeson ymysg y myfyrwyr ac fel y bydd myfyrwyr weithiau, fe aethon nhw i gwyno am ansawdd y bwyd a chasglu deiseb.

"Roedden nhw'n pwyso arnaf i arwyddo, ond doeddwn i ddim yn teimlo y dylwn i am 'mod i'n ddarlithydd," meddai Waldo.

"Fe wedes i wrthyn nhw 'Any comments I wish to make about the food will appear in Readers Digest'ac fe g锚s i lonydd wedyn".

Golygydd
Pan oedd yn Aberystwyth cafodd ei ddewis yn olygydd Dragon, cylchgrawn y myfyrwyr.

"Roedd y gohebwyr lleol ar 'n么l i ishe i fi ddweud beth fydde polisi'r cylchgrawn dan fy ngolygyddiaeth i. Doedd gen i ddim syniad, a wedes i 'I shall do my best to keep the D Rag On.'
"Fe aethon nhw bant wedyn."

Mae stori iddo gynnig am swydd Prifathro Coleg y Brifysgol, Aberystwyth - cyn iddo raddio! Wnes i erioed ofyn iddo a oedd hyn yn wir ond tebyg ei fod!

Dioddefodd y papur wythnosol y Narberth News dipyn o'i ddireidi a chyhoeddwyd un o'i ffug adolygiadau yng nghyfrol Damian Walford Davies, Waldo Williams: Rhyddiaeth.

Dadl organaidd
Mewn eisteddfod leol yn Sir Benfro enillwyd yr unawd offerynnol agored gan W. R. Evans gyda datganiad organ geg o Bugeilio'r Gwenith Gwyn.

Gan fod nifer wedi cystadlu gyda pherfformiadau clasurol ar y ffidil, soddgrwth, ffliwt ac ati bu tipyn o ddadlau yng ngholofn lythyrau'r Narberth News.

Ymateb Waldo oedd cyfres o englynion yn y papur yn collfarnu pob un o offerynnau'r gerddorfa ta'n canmol yr organ geg.

Yng nghyfarfod ffarwelio W. R. ar ei ymadawiad 芒 Bwlchygroes i fod yn brifathro Ysgol Gymraeg Y Barri, galwyd ar Waldo i ddweud gair.

Cododd ar ei draed, chwiliodd ei bocedi, unwaith, ddwywaith ... ond ni allai ddod o hyd i'r cywydd y bwriadai ei ddarllen. Syllodd ar y to, cauodd ei lygaid a dechrau adrodd.

Pa un a oedd yn adrodd o'i gof ynteu'n cyfansoddi wrth fynd yn ei flaen, 'doedd neb yn siwr.

A 'does neb yn siwr ai dyna'r union gywydd a gyhoeddwyd yn Beirdd Penfro, ond mae hwnnw'n 144 o linellau o hyd.

Y cwbl ddwedodd e wrtho i am y cywydd hwnnw oedd fod yn rhaid wrth brofiad personol cyn medrai farddoni ar unrhyw bwnc.

"O'n i'n gwbod bod Wil (W.R.) yn whar卯wr rygbi da ond o'n i'n gwbod dim am rygbi a fedrwn i gynnwys dim am rygbi yn y cywydd. A leicsen i fod wedi gwneud."

I'r ci coch
Bob tro y byddaf yn teithio'r ffordd tua Hwlffordd ac yn pasio tafarn Parc-y-lan daw cwpled o'i gywydd ysgafn, Y Ci Coch, sef cadno, i'm cof:
A daeth dan ddistaw duthian
A herc glir i barc y lan.


Meddyliais lawer tro ai cwpled a luniodd i flaenor, neu weinidog hyd yn oed, yn crwydro oddi ar y llwybr cul oedd hon yn wreiddiol.

Yn 么l cyfaill, sy'n llawer gwell beirniad na mi, rhaid cael dyn drwg i wneud bardd da.

Ei ddadl ef yw mai un o ganlyniadau anghydffurfiaeth fu ein gwneud i gyd yn ddynion gwell ond yn salach beirdd

Rwy'n siwr nad oedd Waldo'n ddyn drwg ond roedd yn gythgam o ddireidus.

Cysylltiadau Perthnasol
Canmlwyddiant Waldo


cyfannwch

Cefnfab, Rhiwfawr, Cwm Tawe - www.cefnfab.co.uk
'Rwy'n cofio Waldo yn beirniadu'r limeric yn eisteddfod Saron, ger Rhydaman. Ar ol eu darllen allan yn gyhoeddus, dyma fe yn eu gosod ar ben y piano tra'n gofyn i'r gynulleidfa pa un oedd y gorau? A dyna oedd diwedd y gystadleuaeth am ni glywodd neb wedyn y canlyniad.



Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 麻豆社 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy