|
Methiant Prifysgolion Cymru Methiant Prifysgolion Cymru gan Richard Wyn Jones. Sefydliad Materion Cymreig. 拢5. Cyhoeddir gyda chymorth S4C a'r Eisteddfod Genedlaethol.
Cyhuddir colegau Cymru o wneud "anghymwynas aruthrol" a phobl y wlad gan ysgolhaig blaenllaw.
Dyna fyrdwn canolog darlith a draddodwyd gan Richard Wyn Jones yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghasnewydd - darlith sy'n rhoi darlun "di-addurn a di-sbin o realiti addysg uwch yng Nghymru" a defnyddio ei union eiriau ef ei hun.
Yn y ddarlith cyhuddodd y rhai sy'n cynnal addysg uwch yng Nghymru o fod wedi methu, "ar sawl ystyr sylfaenol".
Mae'r ddarlith hefyd ar gael mewn print a hynny'n rhoi cyfle i rai a ysgydwyd gan ei sylwadau ddarllen wrth eu hamdden beth yn union oedd ganddo dan big ei gap.
Yn uwch-ddarlithydd yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Cymru Aberystwyth mae Richard Wyn Jones yng nghanol tryblith prifysgolfaol Cymru. Mae o hefyd yn gyfarwyddwr Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru ac yn gyd gyfarwyddwr canolfan newydd a sefydlwyd o fewn yr adran, Cymru Mewn Ewrop Ranbarthol.
Dyn, felly, sydd mewn sefyllfa i wybod be sy'n digwydd. Yn sylwebydd digon craff ac - yn bwysicach - eofn, i gynnig arweiniad.
Proc i'r t芒n Tebyg mai Dafydd Glyn Jones, cyn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, roddodd y fath broc i'r t芒n addysgol hwn gyda'i syniadau am Brifysgol Ffederal Gymraeg i godi'r mater hwn i'r berw.
Rhwng popeth mae hanfod dyfodol ein prifysgolion yn bwnc o bwys y dyddiau hyn - yn bwnc sy'n ymylu ar fod yn ffasiynol.
Ond yn 么l Richard Wyn Jones, dim ond rhan o'r ddadl, dim ond darn o'r darlun, ydi addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Dim ond un agwedd ar fethiant llawer ehangach yw methiant prifysgolion Cymru i gymryd addysg cyfrwng Cymraeg o ddifrif: nid yw prifysgolion Cymru yn cymryd Cymru o ddifrif. Gwelir hyn ar ei amlycaf ym meysydd ymchwil a dysgu," meddai.
Ychwanega: "O fwrw golwg ar gynnyrch ymchwil prifysgolion Cymru, yr hyn sy'n taro dyn yw cyn lleied o waith ar Gymru sy'n digwydd oddi mewn i'n sefydliadau addysg. O ganlyniad, mae'n gwybodaeth yngl欧n ag agweddau ar fywyd y Gymru gyfoes yn druenus o annigonol."
Pwnc pryder arall yw'r hyn mae Richard Wyn Jones yn ei alw, "yr allfudiad addysgol" sef y duedd ymhlith myfyrwyr o Gymru i geisio addysg brifysgol y tu draw i Glawdd Offa.
"Prin mai gor-ddweud yw awgrymu bod llawer o broblemau economaidd, cymdeithasol, ac yn wir, diwylliannol ein gwlad yn gysylltiedig 芒'r ffaith fod caran anarferol o uchel o bobl ifanc Cymru yn symud i Loegr i astudio . . . Gan fod llawer ohonynt yn troi'n alltudion mwy parhaol caiff Cymru ei hamddifadu o gyfran sylweddol o'i phobl ifanc mwyaf addysgaidol, egniol a mentrus - yr union arweinwyr 'organaidd' hynny . . . allai helpu cymunedau trefol a gwledig Cymru i sefyll ar eu traed eu hunain."
Mae dadansoddiad Richard Wyn Jones yn ysgytwol, yn frawychus ac yn herfeiddiol. Yn ddigon "i doli calon dyn" a defnyddio ei eiriau ef ei hun.
"Prin fod yna unrhyw lygedyn o obaith i'w weld drwy'r cyfan," meddai.
Yr oedd yn ddarlith bwysig, yn ddarlith sy'n haeddu y cylchrediad eangach y mae ei hargraffu yn mynd i'w sicrhau - ond yn bwysicach na hynny mae'n haeddu ymateb a fydd yn troi'n weithredu. Heb hynny, mae'n edrych yn ddu iawn arnom.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|