|
Dysgu Deud Celwydd yn Tsiec ac Amser Amherffaith Adolygiad Caron Edwards o Dysgu Deud Celwydd yn Tsiec/Amser Amherffaith gan Emyr Lewis. (Gwasg Carreg Gwalch)
Dysgu Deud Celwydd yn Tsiec/Amser Amherffaith (Gwasg Carreg Gwalch) yw cyfrol ddiweddaraf Emyr Lewis, bardd a roddodd inni eisoes y gyfrol Chwarae Mig ymysg gweithiau eraill.
Fel yr awgryma'r teitl, ceir dwy gyfrol mewn gwirionedd gyda'r rhan flaenaf, Dysgu Deud Celwydd yn Tsiec, yn trin, trafod a thraddodi mewn mydr hwyliog ysgafn.
Yna, mae'r tu cefn, (ac yn addas iawn, wyneb i waered) yn ymwneud 芒 dwysterau bywyd.
Blaengar iawn Ar yr olwg gyntaf, hwyrach y gall hyn ymddangos yn ddewis od ar ran y cyhoeddwyr, ond rwyf o'r farn ei fod yn addas ac yn flaengar iawn.
Wedi'r cyfan, ffin denau iawn sydd rhwng hapusrwydd a thristwch.
A dweud y gwir, yr un yw crio a chwerthin, dim ond y cywair sy'n wahanol gyda'r emosiwn gwaelodol yn parhau yr un fath.
Rydw i hefyd yn hoff o'r syniad y gall rhywun gario'r gyfrol o gwmpas a phori drwyddi dow-dow, gan ddewis cerdd naill ai i ymgolli ynddi neu i godi'r galon.
Crwbanod ll锚n Yn ei ragarweiniad i'r gerdd agoriadol, sy'n dwyn yr un enw 芒 theitl un rhan o'r gyfrol, datgan y bardd na fu "erioed fawr o deithiwr barddol" gan ymhelaethu trwy gyfeirio at feirdd teithiol fel "crwbanod ll锚n".
Efallai ei fod yn ddisgrifiad teg o rai ond, yn sicr, nid dyma'r gwir am y gerdd hon.
Mae'r mydr yn llamu gan awgrymu c芒n sionc, hwyliog ac er bod elfennau digri iawn yma, fel 芒'r hiwmor gorau i gyd, mae islais o rywbeth tywyllach yn llifo nid nepell o'r wyneb: Colloquial Czech ydy enw y gyfrol sy'n cynnig y cwrs sy'n llawn ymadroddion defnyddiol os wyt am berffeithio dy sgwrs...
Yn amlwg, mae yma wamalu am aneffeithiolrwydd llyfrau o'r fath. Am ddysgu ar gof frawddegau i ofyn am frechdan ham, neu am gyfarwyddiadau i'r lle a'r lle, sy'n f'atgoffa i o wersi Ffrangeg cynnar yn yr ysgol.
Brawddegau sy'n galluogi'r siaradwr i honni fod ganddo ef/hi afael ar yr iaith. Ond, o dreiddio'n ddyfnach, credaf fod yma gyfeirio at ffalsrwydd geirfa pob dydd, a'n defnydd ffwr' a hi ni ohoni.
Gall rhywun raffu brawddegau wrth ei gilydd, ond mae llunio ystyr yn dipyn o gamp.
Cerdd y cefais dipyn o flas arni yn y gyfrol oedd Cywydd y Lowt o Latai. Fel ag yn ei gerddi i gyd, mae'n amlwg yma mai gwaed dinesig sy'n rhedeg drwy ei wythiennau, a daw 芒 s诺n a st诺r Caerdydd yn fyw yn ei ieithwedd a'i ddelweddau; Dyn lled wan a llwyd ei wedd, miniog a diamynedd a dwfn iawn wyf, di-fwynhau, hogyn dinas gw锚n-denau. Ofnaf na fedraf, yn fyr, fod yn nyt am fyd natur.
Rhediad braf Nid yw'r gallu i gynganeddu'n golygu o anghenraid y gallu i gywydda ond mae hon yn enghraifft wych o'r hyn a gredaf y dylai cerdd fod yn ei hanfod.
Mae rhediad y cywydd yn braf a chlec cynghanedd iddo - a'r gynghanedd honno'n cyfrannu rhywbeth at y dweud.
Bron nad yw Miniog a diamynedd yn onomatopoeig yn ei wisg stacato.
Rwy'n mwynhau'r gwrthgyferbyniad tafod yn y boch gyda'r traddodiad barddol o ganu am natur a'i wychderau. Ymfalchiodd rhai o'r beirdd gorau, o T.S. Eliot i T.H. Parry Williams, yn rhagoriaeth byd natur dros erchyllterau'r ddinas, a braf yw gweld cefnogaeth i'r ddinas yn cael llais.
Trwy ddefnyddio ieithwedd fyw llwydda Emyr Lewis i roi aml haen i'r mynegiant.
Ceir enghraifft o hyn yn ei arwrgan i'r chwaraewr rygbi, Neil Jenkins; ...pan fo'r mwd yn dew yn bwdin, a'r cae'n bydew.
Dyma saer geiriau wrth ei waith. Rhywun sy'n mwynhau s诺n, teimlad a gafael geiriau gan gyffroi'r holl synhwyrau gyda'i ddisgrifiadau. ac yn gwneud hynny heb ormodiaeth.
Pyllau llonyddTra bod Dysgu Deud Celwydd yn Tsiec yn fyrlymus ei mydr, mae cerddi Amser Amherffaith yn ymdebygu fwy i byllau llonydd i syllu, synfyfyrio ac ymgolli ynddynt.
Os mai prysurdeb oriau brig dinas yw canolbwynt llawer o'r rhan gyntaf, mae'r ail ran yn manylu ar dylluanod nos y ddinas a'i strydoedd cefn liw nos.
Crynhoir hyn yng nghynildeb Nid yw Adar yn Aros: ...nes daw'n nos sydyn, a hi'n awyr wag yn llawn rhegi golau coch, ac oglau car, a gwaed; ond gwag o adar.
Cyfoethoga'r gynghanedd y disgrifiad trwy bwysleisio'r agwedd adleisiol a geir mewn gwactod.
Pe byddai'n rhaid imi ddewis un gerdd, credaf mai'r un a'm swynodd fwyaf oedd Dan Ddylanwad gyda'i dweud syml yn cyferbynnu mor effeithiol ag erchyllterau dwys yr hyn a ddisgrifir.
Mae'n drawiadol iawn 芒'r holl emosiwn yn ffrwtian dan yr wyneb. A dyma un o themau amlycaf Emyr Lewis.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|