| |
|
|
|
|
|
|
|
Dim rhagor o Lol Ni fydd cylchgrawn sydd wedi bod yn boen ac yn bleser i filoedd o Gymry dros y deugain mlynedd diwethaf ar gael yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd eleni.
Ni fydd cylchgrawn sydd wedi bod yn boen ac yn bleser i filoedd o Gymry dros y deugain mlynedd diwethaf ar gael yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd eleni.
Dywedodd Y Lolfa yr wythnos hon na fydd Lol, y cylchgrawn a gychwynnwyd gan Robat Gruffudd yn 1965, yn cael ei gyhoeddi byth eto.
Yn hytrach bydd cylchgrawn newydd wedi ei anelu at bobl ifanc yn gweld golau dydd, Dim Lol.
Yr oedd Lol yn gylchgrawn ar ei ben ei hun a thros y blynyddoedd bu'n destun poen a phleser i filoedd o Gymry.
Yn boen i'r rhai hynny oedd yn cael eu gwawdio a'u difr茂o ynddo ac y byddai'n datgelu cyfrinachau amdanyn nhw ond yn bleser pur i'r rhai hynny oedd yn mwynhau gweld mawrion y genedl dan yr ordd .
Blynyddoedd cythryblus Bu deugain mlynedd Lol yn rhai cythryblus i'w rhyfeddu ers ei gyhoeddi gyntaf yn Eisteddfod Maldwyn, 1965.
Nid oedd dim yn sanctaidd iddo na neb yn rhy uchel i'w ddarostwng. Mwy nag unwaith arweiniodd hynny at drafferthion cyfreithiol.
Yn y trydydd rhifyn ar faes Prifwyl Y Bala yn 1969 bu'n rhaid dileu'r geiriau "Bu Cynan yma" - ger llun o ferch noeth gyda'r gair "Sensor" dros ei bronnau - wedi i'r bardd a'r archdderwydd gwyno eu bod yn enllibus. O ganlyniad bu mwy o fynd ar y rhifyn hwnnw na'r un cyn hynny!
Yr achos mwyaf difrifol oedd un a gostiodd filoedd o bunnau i Eirug Wyn pan oedd ef yn olygydd.
Nodwedd bwysig o'r Loliau cynnar oedd ei feiddgarwch yn cyhoeddi lluniau o ferched lled-noeth a hynny ar adeg pan nad oeddynt yn rhan o arlwy beunyddiol y tabloids fel maent heddiw. Yn wir, o gymharu a'r hyn sydd i'w weld mewn papurau teuluolheddiw roedd merched Lol yn eithaf diniwed mewn gwirionedd.
Yn boblogaidd hefyd yr oedd cartwnau miniog a brathog Elwyn Jones a'i frawd Tegwyn yn gwawdio ffigurau cyhoeddus Cymreig a gwleidyddion.
Byddai'n cael ei ddarllen, hyd y diwedd, gan rai o bob oed a dywedir fod canfod nad oeddech "yn Lol" yn peri cymysgedd o ryddhad a siom i bwysigion y genedl!
Yr oedd ganddo ei ddihirod a'i arwyr wrth gwrs gydag Eirwyn Pontshan ac Undeb y Tancwyr ymhlith yr arwyr mwyaf ond bu gwleidyddion Cymraeg blaenllaw fel Cledwyn Hughes ac Elystan Morgan dan lach y cylchgrawn yn gyson.
Cafodd ei ddisgrifio fel y Private Eye Cymraeg ond yr oedd Lol yn unigryw ac yn gwbl Gymreig ei hiwmor a'iosgo.
Dychanol a gwleidyddol Wrth gyhoeddi ei dranc dywedodd Y Lolfa mai'r bwriad gwreiddiol gyda Lol a sefydlwyd gan Robat Gruffudd a Penri Jones oedd creu "cylchgrawn ysgafn, poblogaidd i'r ifanc, gyda chynnwys pryfoclyd a hwyliog".
"Ers hynny, newidiodd y cylchgrawn i fod yn ddychanol a gwleidyddol a chafodd sawl golygydd, yn cynnwys y diweddar Eirug Wyn a fu'n olygydd am bum mlynedd, a Darren Edwards a symudodd y cylchgrawn i gyfeiriadau gwahanol gyda chyhoeddwyr Pendinas," meddai Lefi Gruffudd o'r Lolfa mewn datganiad yr wythnos hon.
Er cymaint y siom fod Lol yn dod i ben, rydym yn hynod o falch fod cylchgrawn newydd, ffresh i gymryd ei le, a fydd, mewn sawl ffordd yn adlewyrchu dechreuadau Lol yn y chwedegau, gydag eitemau ysgafn i apelio i'r ifanc," meddai.
Bydd Dim Lol yn ymddangos ar faes yr Eisteddfod yng Nghasnewydd ond yn wahanol i'w ragflaenydd bydd yn cael ei gyhoeddi ddwywaith y flwyddyn.
Y golygydd fydd Catrin Dafydd a fu'n astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae'n hen bryd ein bod ni'n cael cylchgrawn sy'n adlewyrchu yr hyn y mae'r ifanc yn ei deimlo am Gymru a'r byd, meddai.
Cyfeiriad y cylchgrawn newydd ydi; dimlol@sgwarnog.com
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|