| |
|
|
|
|
|
|
|
Trysor y Morloi Trysor y Morloi - stori a lluniau gan Jackie Morris. Addasiad Cymraeg gan Si芒n Lewis. 拢5.99
Mae plant ysgol ym Mhenfro yn edrych ymlaen at fynd am dro i weld ble yn union y digwyddodd y stori mewn llyfr Cymraeg sydd newydd ei gyhoeddi.
Bydd plant o Ysgol Gynradd Croesgoch, Tyddewi, yn ymweld 芒 Maes y Mynydd, , ar Fai 27 lleoliad Trysor y Morloi gan awdur lleol, Jackie Morris.
Cyhoeddwyd y llyfr yn y Saesneg yn gyntaf, The Seal Children, ond yn ddiweddar cyhoeddwyd addasiad Cymraeg Si芒n Lewis gan Wasg Gomer.
Mae'r stori sydd wedi ei sgrifennu'n gain yn s么n am forforwyn neu f么r-lodes yn priodi bachgen lleol ac am y bobl yn gadael y fro i geisio bywyd gwell mewn gwlad arall.
Mae'r ymweliad yn rhan o wythnos gyfan i hybu'r Gymraeg drwy'r celfyddydau yn yr ysgol lle mae plant Jackie yn ddisgyblion.
Dywedodd mai arfordir Penfro ac olion hen bentref a'i sbardunodd i fynd ati i lunio'r llyfr stori-a-llun.
"Mae cerrig a waliau'n nodi'r fan lle bu pentref unwaith. Does dim pobl yno nawr. Yr unig swn yw cri'r boda, clochdar penddu'r eithin, bwrlwm p锚r yr ehedydd a ch芒n bellennig y m么r."
Bu pobl yn byw ym Maes y Mynydd ger ei chartref tan ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf a'r s么n yw mai Crynwyr oeddan nhw ac ac yn awyddus i ymfudo i Bensylfania i ddechrau bywyd newydd ond na allent fforddio gwneud hynny.
Yn stori Jackie Morris mae pysgotwr o'r enw Huw yn syrthio mewn cariad 芒 m么r-lodes a'i phriodi.
Hanner-merch a hanner-morlo o dylwyth y m么r yw m么r-lodes a cheir llu o hanesion amdanynt ar hyd arfordir Prydain.
Wedi i ddau o blant gael eu geni iddynt mae hi'n dychwelyd i'r m么r.
Flynyddoedd yn ddiweddarach, daw ymwelydd dieithr i'r pentref i s么n am Fyd Newydd lle mae gan bobl eu tyddynnod eu hunain a lle maen nhw'n elwa ar eu llafur.
Gyda help tylwyth y f么e-lodes llwydda'r pentrefwyr i wireddu eu breuddwyd a hwylio i ffwrdd.
Nodwedd arbennig y llyfr yw ei sgrifennu cain a'r lluniau trawiadol a bydd arddangosfa o'r arlunwaith gwrieddiol yn Oriel Rhosson, Tyddewi drwy fis Mehefin 2004 ac wedyn yng Ngwyl Lyfrau Caeredin fis Awst.
Yn y gorffennol mae Jackie Morris wedi arddangos ei gwaith yn Llundain ac Awstralia.
Beth yw eich barn chi am gyhoeddi yng Nghymru? Cliciwch i anfon e-bost at Llais Ll锚n
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|