麻豆社

Explore the 麻豆社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆社 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Parti llyfrau fel Barselona
Bydd Gwasg Carreg Gwalch yn dathlu Diwrnod y Llyfr mewn dull Barselonaidd eleni gyda'r pwyslais ar werthu llyfrau yn hytrach na dim ond tynnu sylw atyn nhw.

"Ym mhrifddinas Catalwnia y dathlwyd Diwrnod y Llyfr gyntaf erioed wedi marwolaeth Franco ac wedi i'r ormes ar yr iaith Gatalwneg ddod i ben," meddai Myrddin ap Dafydd, perchennog y Wasg.

Ychwanegodd: "Aileginodd byd cyhoeddi Catalwnaidd ond gwelwyd bod angen denu pobl i fynd i'r arfer o brynu llyfrau Myrddin ap Dafydd yn eu hiaith eu hunain unwaith eto. Trowyd eu dydd cenedlaethol Ebrill 23 yn Ddiwrnod y Llyfr a sefydlwyd traddodiad o brynu a rhoi llyfrau i deulu a ffrindiau."

. Dywedodd i gynrychiolwyr o Wasg Carreg Gwalch ymweld 芒 Barcelona adeg y dathliadau hyn y llynedd a chanfod y Ramblas a'r prif sgwariau i gyd yn llawn stondinau.

"Roedd pawb yn gorffen gweithio am ddau y prynhawn, yr ysgolion yn cau a theuluoedd cyfan yn crwydro'r stondinau, ymweld 芒 siopau llyfrau, gwrando ar fandiau ar y strydoedd, prynu parseli o lyfrau ac yna mynd am bryd o fwyd. Erbyn hyn gwerthir 12% o werthiant llyfrau blynyddol Barcelona ar y diwrnod arbennig hwn," meddai.

"Roedd yr awyrgylch fel Maes Eisteddfod, 'blaw ei bod hi'n Steddfod lyfrau yn unig gydag awduron yn cael eu gweithio'n galed, yn gwneud pump a chwech o berfformiadau neu ymddangosiadau i arwyddo cop茂au yn ystod y diwrnod. Roedd amryw o deitlau newydd yn cael eu cyhoeddi yn benodol ar gyfer y diwrnod ac roedd prynu llyfrau yn cael ei weld fel hwb i ysbryd y genedl."

Eleni mae Gwasg Carreg Gwalch yn gobeithio trosglwyddo peth o'r brwdfrydedd a'r hwyl yna i Gymru trwy ddathlu Diwrnod y Llyfr yn ystod wythnos Gwyl Dewi gyda Pharti Prynu anferth yn Ysgol yr Hendre, Caernarfon ac yn siop Palas Print, Caernarfon, lle bydd 1,000 o blant yr ardal yn cael tocynnau prynu llyfrau barddoniaeth gwerth 拢1 yr un.

Clawr y llyfr Hefyd, cyhoeddir y ddeuddegfed yng nghyfres barddoniaeth y wasg: Cerddi Lloerig i Blant a bydd arlunydd yn y siop yn ystod yr wythnos yn creu murlun yn seiliedig ar y gyfres hon gyda phlant yr ardal.

"Mae hon yn bartneriaeth gyffrous," meddai Eirian James, perchennog Palas Print.

"Drwy gyd-weithio gyda'r wasg, rydym yn medru cynnig deuddeg o deitlau barddoniaeth sy'n eithriadol o boblogaidd ymysg plant am 拢1 yn rhatach er mwyn hybu prynu llyfrau.

Eirian James"Mae'n ffordd newydd iawn o ddathlu Dydd y Llyfr yng Nghymru ond dyma'r ffordd ymlaen yn sicr.

"Mae prynu llyfrau Cymraeg a llyfrau am Gymru yn codi ysbryd y genedl gyfan."


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy