|
Barti a Bel yn Crwydro Cymru Mewn llyfr sydd newydd ei gyhoeddi, mae cyfle i blant ddod i adnabod lleoedd braf yng Nghymru yng nghwmni ein bardd plant cenedlaethol a dau gymeriad dychmygol, Barti a Bel.
"Wrth droi tudalennau'r llyfr lliwgar, Barti a Bel yn Crwydro Cymru gall plant ifanc ddod ar draws rhai o brif atyniadau Cymru yng nghwmni'r ddau gymeriad difyr Barti a Bel," meddai llefarydd o Wasg Gomer sy'n cyhoeddi'r llyfr.
"Bardd Plant Cymru eleni yw'r Prifardd Ceri Wyn, sy'n olygydd yng Ngwasg Gomer, a thrwy odl fe awn i leoedd difyr fel Parc Oakwood, yr Wyddfa, Castell Penrhyn a'r Llyfrgell Genedlaethol," ychwanegodd.
O gronfa Bwrdd Croeso Cymru y cafwyd y rhan fwyaf o'r lluniau yn y gyfrol, yn dangos y wlad yn ei gogoniant.
Nodwedd unigryw y llyfr yw'r dull y mae'r arlunydd, Suzanne Carpenter o Gaerleon, wedi creu cymeriadau a'u gosod ar draws y ffotograffau gan gyfuno realiti a ffantasi mewn ffordd drawiadol.
Y lleoedd yr ymwelir 芒 hwy mae, Castell Biwmares, Pwllheli, Castell Coch, Parc Margam, Bala, Llyn Efyrnwy, Niwgwl, Ceibwr, yr Wyddfa, Parc Oakwood, Moel Famau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Bannau Brycheiniog a Chastell Penrhyn.
Mae yna hefyd fap o Gymru yn dangos lle mae pob un o'r lleoedd hyn.
Cysylltiadau Perthnasol
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|