麻豆社

Explore the 麻豆社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆社 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Alawon John Thomas gan Cass Meurig
Daw hen alawon Cymru'n fyw mewn llyfr newydd a gyhoeddir gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.


Yn Alawon John Thomas: A fiddler's tune-book from eighteenth century Wales a olygwyd gan Cass Meurig, mae casgliad arbennig o alawon gwerin gan ffidlwr amlwg o'r ddeunawfed ganrif.

Clawr y llyfrDyma'r cyntaf i'r tonau hyn sy'n rhan o gasgliad y Llyfrgell Genedlaethol, gael eu cyhoeddi a'u gwneud yn fwy amlwg i bawb.

Tonau dawns
Mae'r tonau o lawysgrif gan y ffidlwr John Thomas yn cynnwys 526 darn cerddorol ac yn dyddio o'r flwyddyn 1752. Ni wyddom lawer am John Thomas ond ei fod yn dod o'r gogledd-ddwyrain a'i fod yn ennill peth o'i fywoliaeth drwy ganu'r ffidil.

Dywed Cass Meurig, sy'n byw yn Nghwm-y-Glo ger Caernarfon, mae llawysgrifau John Thomas yn bwrw golwg werthfawr ar draddodiad arbennig cerddoriaeth Cymru.

"Mae dwy ran o dair o'r darnau yn dod o'r traddodiad llafar gyda rhai ohonynt wedi eu hysgrifennu mewn nodiant unigryw i'r ffidil a ddyfeisiwyd, fwy na thebyg, gan John Thomas ei hun.

"Tonau dawns a oedd yn boblogaidd ar ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg a dechrau'r ddeunawfed ganrif yw'r rhan fwyaf o'r darnau tra daw eraill o draddodiad canu carolau a chanu penillion."

Dywedodd llefarydd o'r Llyfrgell Genedlaethol fod Alawon John Thomas: A fiddler's tune-book from eighteenth century Wales yn cynnwys trawsdoriad eang o donau sy'n hanu o Gymru, Lloegr, Yr Alban a thu hwnt, gyda nifer ohonynt yn ymestyn yn 么l dros sawl canrif.

Yr offeryn yn eu anterth
"Mae'r llyfr yn bwrw goleuni hefyd ar repertoire, perfformiad a bywyd person a oedd yn ennill ei fara menyn fel ffidlwr Cymreig yn cyfeilio i ddawns a ch芒n mewn cyfnod pan oedd yr offeryn ar anterth ei boblogrwydd," meddai.
Ychwanegodd fod Cass Meurig ei hun yn ffidlwr amryddawn ac adnabyddus ac hefyd yn un o'r ychydig bobl all ganu'r crwth.

"Yn wir, mae hi newydd gyhoeddi CD newydd o'r enw Crwth ar label Recordiau Fflach," meddai.

Yn addas iawn, yr oedd y cyfarfod i gyhoeddi Alawon John Thomas yn y Llyfrgell Genedlaethol yn rhan o ddathliadau Santes Dwynwen gydag un o'n harbenigwyr pennaf ar gerddoriaeth werin Gymreig, Phyllis Kinney, yno hefyd. "Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch iawn i gyhoeddi llyfr sydd mor werthfawr i'n traddodiad ni a'n hunaniaeth ni fel Gwlad y G芒n," meddai Rhidian Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus y Llyfrgell.

Cysylltiadau Perthnasol


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy