|
Rhannu'r Ty gan Eigra Lewis Roberts Un o helyntion diwydiannol enwocaf Cymru yw'r cefndir i nofel ddiweddaraf un o'n prif lenorion.
Gwasg Gomer sy'n cyhoeddi Rhannu'r Ty gan Eigra Lewis Roberts ac mae'n cael ei gyhoeddi union ganrif wedi i Streic Fawr y Penrhyn sy'n ganolog i'r stori ddod i ben.
Ochr yn ochr a'r nofel mae'r wasg yn cyhoeddi llyfr Saesneg ffeithiol am y streic gan y newyddiadurwr, Charles Sheridan Jones, What I Saw at Bethesda gyda rhagymadrodd gan yr hanesydd bro, John Elwyn Hughes.
.Streic Fawr Bethesda rhwng 1900-1903 yw'r streic fwyaf yn hanes yr undebau llafur gyda'r helynt yn dod 芒 Bethesda i sylw'r byd wrth i chwarelwyr fynd ben-ben a pherchennog y chwarel, Yr Arglwydd Penrhyn.
Er mai 'ty tangnefedd' ydi ystyr yr enw Beiblaidd, Bethesda, yr oedd popeth ond tangnefedd yn Nyffryn Ogwen adeg y Streic Fawr ac yn hynny o beth mae teitl nofel Eigra Lewis Roberts, Rhannu'r Ty? yn eithriadol o addas.
"Mae'r nofel yn edrych ar yr hyn sy'n digwydd i unigolion, teuluoedd a'r gymdeithas wrth iddynt ymateb i densiynau'r streic," meddai llefarydd o wasg Gomer.
"Yn y rhannu anochel hwn a ddaw yn sg卯l gweithredu diwydiannol, gwelir pobl ar eu gorau ac ar eu gwaethaf yn ceisio ymdopi nid yn unig 芒 brwydr allanol ond 芒'r frwydr fewnol sy'n bygwth dinistrio gobeithion, perthynas a chyfeillgarwch am byth.
"Gall ambell un ddal yn gadarn yn y gred mai rhyfel cyfiawn yn erbyn y meistri llechi yw hwn a bod Duw o'u plaid. Mae'r mwyafrif yn llawn ofnau ac amheuon."
Er mai dychmygol yw prif gymeriadau Rhannu'r Ty mae rhai cymeriadau ffeithiol fel yr Arglwydd Penrhyn, wrth gwrs, Lloyd George a Keir Hardie yn cael llais.
Meddai Bethan Mair, golygydd llyfrau Cymraeg i oedolion, Gwasg Gomer:
Nid nofel sy'n delio 芒'r du a'r gwyn, y da di-gwestiwn a'r drwg di-ildio yw hon. Ceir yma galeidosgop o lwyd, fel cerrig chwarel, a chaiff y darllenydd ei herio'n fynych wrth ystyried y syniad o'r hyn sy'n iawn.
Cyfrol a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1903 gan ohebydd y Daily News, Charles Sheridan Jones, yw What I Saw At Bethesda.
Bu gan y Daily News, le canolog ym mrwydr y chwarelwyr gan osod esiampl i gyhoeddiadau eraill trwy eu hannog i gasglu arian er mwyn cynnal teuluoedd y streicwyr ym Methesda.
Yn hytrach nag aros yn ddiduedd daeth Sheridan Jones yn ffigwr amlwg tu hwnt wrth frwydro dros hawliau cymdeithasol a gwleidyddol y streicwyr. Pan gyhoeddodd gasgliad o'i erthyglau a sylwadau am y streic fe'i disgrifiwyd fel "y llyfr gorau ar yr anghydfod."
Ganrif union wedi i'r llyfr hwnnw ymddangos gyntaf mae Gomer wedi adargraffu'r cynnwys ond gyda chyflwyniad gan John Elwyn Hughes, brodor o Ddyffryn Ogwen a'i hanesydd bro mwyaf blaenllaw.
"Gosodir y streic yn ei chyd-destun hanesyddol ganddo a rhoddir gwybodaeth am fywyd a gwaith Charles Sheridan Jones. Yn yr atodiad hefyd cynhwysir y pamffled Lord Penrhyn's Methods: the Press Gag and How it was Burst a oedd yn brwydro dros ryddid y wasg ar adeg tymhestlog tu hwnt yn y byd gwleidyddol," meddai Bethan.
Yn addas iawn bydd y ddwy gyfrol yn cael eu cyhoeddi yn Neuadd Ogwen, Bethesda nos Iau, Rhagfyr 4, 2003.
Rhannu'r Ty gan Eigra Lewis Roberts. Gwasg Gomer, 拢7.99, 312tt. ISBN 1-84323-320-7
What I Saw at Bethesda gan Charles Sheridan Jones, gyda chyflwyniad gan J. Elwyn Hughes Gwasg Gomer, 拢7.99, 68tt. ISBN 1-84323-324-X
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|