O
feddwl lleoedd mor ddienaid, syrffedus ac oer y gall gorsafoedd trêns
fod mae’n rhyfedd cymaint o ramant sy’n perthyn i reilffyrdd.
Prin, fodd bynnag, yw’r rhai hynny sydd heb eu swyno gan hudoliaeth
trêns.
·O gofio’r hud a’r cyfaredd mae’n rhywfaint o syndod na chafodd
beirdd a llenorion Cymru eu temtio i sgwennu mwy ar y thema hon.
Ond fel mae Hywel Teifi Edwards yn ein hatgoffa yn ei gyflwyniad
i’r gyfrol swynol, Llinellau Coll, ni ddigwyddodd hynny. Fel T.
H. Parry-Williams defnyddio’r dychymyg yn drên wnaeth beirdd Cymru
yn hytrach na mydryddu ac odli ynglyn a thrêns go iawn.
·"Yn seidings ein llên y bu’r trên ar hyd yr amser," meddai, ac
"er ei fod yn bresenoldeb amlwg ym mhapurau a chylchgronau oes Victoria,
nid ysgogodd yr un campwaith gan na bardd, na nofelydd nac arlunydd."
Fuon nhw ddim yn gwbl dawedog fodd bynnag a cherddi a baledi
gan y beirdd hynny a fentrodd i gyfansoddi am drêns a phethau trenaidd
yw Llinellau Coll wedi eu casglu gan bennaf hanesydd rheiffyrdd
Cymru, Gwyn Briwnant Jones o Fachynlleth - ond sy’n awr yn byw yng
Nghaerdydd.
Bu ei gyfraniad ef i hanes rheilffyrdd yn Nghymru yn rhyfeddol.
Mae
arwyddocad arbennig i deitl y gyfrol achos erbyn heddiw nid yn unig
llinellau’r beirdd aeth ar goll ond llinellau neu leins y trêns
eu hunain hefyd. Diolch i lawfeddygaeth wallgof Dr Beeching collodd
Cymru y rhan fwyaf o’i llwybrau rheilffordd gyda chledrau a gorsafoedd
wedi dilflannu am byth.
Dim ond hen luniau sydd ar ôl erbyn hyn i’n hatgoffa o’r cyfoeth
a fu ac y mae Gwyn Briwnant Jones yn cynnwys trysorfa o’r hen luniau
hynny yn y gyfrol hon ochr yn ochr a cherddi’r beirdd yn ymateb
i ddyfodiad y trenau cynnar.
Ond er i un bardd ganu:
Rhyfeddod, rhyfeddod ar waelod Cwm Nedd,
Yw gweled cerbydau mor wyched eu gwedd
nid pawb oedd yn argyhoeddedig mai bendith oedd dyfodiad y trêns.
Pan agorwyd y rheilffordd rhwng Castell-nedd ac Aberdâr yn 1851
proffwydodd hen was ffarm o Ynysgerwyn:
Ni fydd dim llaeth gan wartheg mwyn
Daw’r twyni’n goch gan sychyn;
Y lloi yn feirw ar y waen
O ofn y train a’r injian.
Ond yn gyffredinol dathlu a gorfoledd fu yna ynglyn a dyfodiad
y trêns ac yn ardal Y Bala proffwydodd Dewi Havhesp am Ffordd
Haearn Y Bala:
Hi chwal asynnod Gwalia, - gyrru mawr
Gwyr a meirch ddiflanna,
Pan wneir hon, dynion nid a
Ar ebolion i'r Bala
Beirdd gwlad fu'n canu fwyaf ac ni fydd unrhyw feirniad llenyddol
yn rhoi llawer o werth i'r cerddi o safbwynt farddonol neu lenyddol.
Arall yw eu hapêl ac y mae Gwyn Briwnant Jones yn gwneud cymwynas
a ni trwy ddod a hwy i olau dydd mewn cyfrol mor hyfryd sy’n profi’n
gyfuniad go lwyddiannus o hiraeth, gair a llun.
Llinellau Coll gan Gwyn Briwnant Jones. Gwasg Gomer. £9.95.