麻豆社


Explore the 麻豆社

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Bywyd Cymry
America mewn print

Papur newydd
Cymry America yn dathlu canrif a hanner


Dydd Iau, Ionawr 25, 2001

Mae Y Drych - yr hynaf o bell ffordd o bapurau newydd America - yn dathlu canrif a hanner o gyhoeddi di-dor y mis hwn. Di-dor, hyd y gwyddys, gan nad oes yn yr un llyfrgell yng Nghymru nac America gopi o bob rhifyn a gyhoeddwyd o鈥檙 papur.



Hyd y 40au yr oedd yn wythnosolyn ac wedi hynny yn bapur misol. Ddegawd cyn hynny newidiodd o fod yn bapur Cymraeg ei iaith i fod yn un Saesneg.

Ymddangosodd y rhifyn cyntaf ar Ionawr 2, 1851 ac yr oedd, meddai'r Athro Aled Jones o Goleg y Brifysgol Aberystwyth, yn llawn barddoniaeth - gan gynnwys cerdd felodramatig, Cwyn Y Fam Dros Ei Phlentyn Y Noson Cyn Ei Dienyddiad.

Sefydlwyd y papur yn Efrog Newydd gan John Morgan Jones, gwr a anwyd yn Llanidloes yn 1818 ac a ymfudodd i鈥檙 Unol Daleithiau yn 1832.

Rhoi mewnfudwyr ar ben ffordd

Ei nod oedd darparu newyddiadur ar gyfer mewnfudwyr uniaith Gymraeg, neu rai oedd yn medru Saesneg ond heb fedru ei darllen.

Yn 么l John Morgan Jones yr oedd gan y papur gylchrediad o 250,000 ond yn 么l yr Athro Aled Jones, yr oedd yn debycach o fod ymhlith y cannoedd. Rhaid denu hysbysebwyr!

Ond yr oedd y papur yn cael ei werthu ar draws ystod drawiadol o鈥檙 Unol Daleithiau. Gwerthwyd y rhifynnau cynnar ym Mhennsylvania, yn Nhalaith Efrog Newydd, Ohio, New Jersey a Massachusetts. O fewn wythnosau yr oedd dosbarthwyr ychwanegol yn Louisiana, Michigan, Wisconsin, Vermont a Maryland.

Croeso yn yr Hen Wlad

Roedd gan y papur ddosbarthwyr yng Nghymru, hefyd, ac yr oedd yn amlwg wrth yr hyn ymddangosai mewn papurau a chylchgronau bod iddo groeso yn yr "hen wlad".

Yr oedd, yn 么l Y Dysgedydd, yn gychwyn "cyfnod newydd yn hanes ein cenedl".

Rhwng 1851 ac 1860 canolbwyntiai鈥檙 papur ar bynciau crefyddol a diwylliannol, ac er yn anghydffurfiol ei dueddiadau, llwyddodd i osgoi鈥檙 ymgecru enwadol oedd yn nodweddiadol o鈥檙 wasg yng Nghymru.

Gwerthodd John Morgan Jones y papur i Gwmni o Foneddigion yn Efrog Newydd yn 1854. Aeth ati鈥檔 syth i sefydlu papur arall, Y Cymro Americanaidd, a chyhuddo perchnogion newydd Y Drych, ymhlith pethau, o fod yn gefnogol i gaethwasiaeth ac yn bleidiol i鈥檙 Democratiaid.

Dan gadeiryddiaeth Jones arall, William B. Jones (a ymfalch茂ai yn yr enw barddol ap P. A. Mon), prynodd cwmni鈥檙 Drych bapur arall, Y Gwyliedydd Americanaidd, a鈥檜 huno dan y teitl Y Drych a鈥檙 Gwyliedydd.

Y golygyddion newydd oedd Morgan A. Ellis a John William Jones - roedd nifer fawr o John Jonesiaid yn gysylltiedig 芒鈥檙 papur yn y dyddiau cynnar! Prynodd John William Jones y papur yn 1858.

Blynyddoedd y Rhyfel Cartref

Yn y cyfnod rhwng 1860 a 1869 - oedd yn cynnwys blynyddoedd y Rhyfel Cartref - cryfhaodd teimladau gwladgarol gweriniaethol a bu llawer o ddadlau ac edliw am gaethwasiaeth rhwng y papur a phapurau Cymraeg eraill.

Erbyn 1868 roedd y papur yn cyhoeddi ei fod ar werth ym mhob talaith a bod y cylchrediad yn 5,000. Cafwyd ymgyrchoedd gwerthiant difyr gan gynnwys un oedd yn cynnig delw o John Elias i bob un oedd wedi talu tanysgrifiad blwyddyn am 1861 cyn Rhagfyr 31, 1860!

Yr oedd y papur yn danbaid o blaid y gogledd yn y Rhyfel Cartref a chodwyd erthyglau cyfain o鈥檙 Drych a鈥檜 hail-gyhoeddi yn Yr Herald Cymraeg. Bu ffrae fawr rhwng Y Drych a Samuel Roberts (S.R. Llanbrynmair) oedd yn heddychwr ac wedi ymsefydlu ym Mrynffynon, Tennessee.

Carcharor ym Mhatagonia

Wrth i fwy o Gymry ymfudo daeth cyfleon newydd. Prynodd John Mather Jones y papur yn 1864. Ymysg yr hyn 芒 gyhoeddwyd yn y papur oedd stori gyfres, Carcharor ym Mhatagonia, nofel gyda darluniau o frodorion ffyrnig a angenfilod annifyr.

Yn 么l yr Athro Aled Jones, mae鈥檔 bosib mai pwrpas y stori oedd ceisio dychryn Cymry rhag ymfudo i Batagonia.

Yn 1869 rhoddodd John Mather Jones y gorau i olygu鈥檙 papur ond parhaodd yn berchen y papur tan ei farw yn 1874.

Penododd John C. Roberts, neu "John C. Y Drych", yn olygydd yn 1869 a pharhaodd yng nghadair y golygydd am 42 mlynedd tan ei farw yn 1911. Dywedwyd fod llwyddiant y papur "I raddau uchel yn ddyladwy i鈥檞 ddiwydrwydd, ei ffyddlondeb, ei chwaeth dda a鈥檌 ymroddiad diflino."

Llwyddo i gadw tanysgrifwyr

Prynwyd y papur gan T. J. Griffiths pan fu farw John Mather Jones. Yn 1877 prynodd Griffiths Baner America, oedd a鈥檌 bencadlys yn Scranton, hefyd Y Wasg a gyhoeddwyd yn Pittsburgh yn 1890 a Y Columbia Chicago yn 1894.

Ym mhob achos llwyddwyd i gadw rhestrau鈥檙 tanysgrifwyr, darllenwyr a鈥檙 hysbysebwyr. Mae enwau鈥檙 tri phapur ar faner deitl Y Drych hyd heddiw.

Ymhlith yr hysbysebion mae鈥檙 hysbysebion te yn amlwg - Te鈥檙 Hen Wlad, Te Y Ddraig Goch, Te Y Werin ac - yn annhebygol iawn - Eryri Tea!

Credir i wr o鈥檙 enw George T. Matthews wneud ffortiwn gyda鈥檌 Te-Y-Brenin gyda鈥檙 hysbyseb "Yfed Te鈥檙 Brenin a darllen Y Drych" - dwy o nodweddion pob Cymro da!

Yn 1893 cyhuddodd Y Drych, bob amser yn gefnogol i blaid y gweriniaethwyr, y byddai鈥檙 Democratiaid yn rhoi treth o 30 y cant ar de! Fuasai鈥檙 Cymry byth yn goddef y fath beth!

Angor i don ar ôl ton o fewnfudwyr

Rhwng diwedd y Rhyfel Mawr a鈥檙 Ail Ryfel Byd bu鈥檔 frwydr i gynnal y papur. Roedd nifer y siaradwyr Cymraeg yn yr Unol Daleithiau yn lleihau. Newidiodd o fod yn wythnosolyn i fod yn bapur misol a pheidiodd a bod yn bapur Cymraeg.

Am ganrif a hanner bu鈥檙 papur yn angor i don ar 么l ton o fewnfudwyr o Gymru i鈥檙 byd newydd. Ar un adeg yr oedd ganddo - a thebyg bod ganddo o hyd - danysgrifwyr ym mhob cornel o鈥檙 byd.

"Yn ei ddydd, yr oedd yn CNN yn yr iaith Gymraeg," meddai鈥檙 Athro Aled Jones. Ond erys un ffaith ryfeddol. Y Cymry yw鈥檙 unig grwp ethnig yn America i gynnal eu newyddiadur eu hunain yn ddi-fwlch am ganrif a hanner. Y Drych yw鈥檙 newyddiadur hwnnw.

Bydd Gwasg Gomer yn cyhoeddi cyfrol o hanes y papur o waith yr Athro Aled Jones a鈥檙 Dr Bill Jones, Adran Hanes ac Archeoleg Prifysgol Caerdydd, cyn diwedd y flwyddyn.

 
Wythnosau Blaenorol:


Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y S卯n Roc Gymraeggyda chriw C2



About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy