Â鶹Éç


Explore the Â鶹Éç

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹Éç Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y gyfrol Llawlyfr heb ei ail
i rai sy'n
hel achau

Argraffiad newydd o
Cofrestri Plwyfi Cymru


Dydd Iau, Ionawr 4, 2001

• Cofrestri Plwyfi Cymru
Pris: Clawr Caled £14.95. Clawr Meddal £9.95


Newydd ei ailgyhoeddi gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Grwp Archifyddion Sirol Cymru mae llawlyfr sy'n cael ei ystyried yn anhepgor ar gyfer y rhai sy'n hel eu hachau.

Mae Cofrestri Plwyf Cymru yn ailargraffiad hirddisgwyliedig o lyfr poblogaidd a gyhoeddwyd gyntaf yn 1986.

Y manylion diweddaraf

Ceir ynddo'r manylion diweddaraf am holl gofrestri plwyf Cymru a'r copïau ohonynt a gedwir gan y Llyfrgell Genedlaethol a'r gwasanaethau archifau sirol.

Mae'n cynnwys hefyd:
• mapiau'r siroedd,
• lluniau'r mathau mwyaf cyffredin o gofrestr,
• rhagymadrodd manwl a
• mynegai cynhwysfawr.

"Cymharol ddiweddar yw'r drefn gofrestru geni, priodi, a marw sydd gyda ni heddiw," meddai John Watts-Williams, Ceidwad Cynorthwyol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth a chyd-awdur y llyfr gyda Christopher Williams, cyn Archifydd Sirol Clwyd.

"Dim ond yn 1837 y sefydlwyd hi, ac, os ych chi am hel eich achau cyn y flwyddyn honno, yna mae'n rhaid ichi gael golwg ar y cofrestri bedyddio, priodi, a chladdu sy'n perthyn i eglwys y plwyf lle roedd eich cyndadau'n byw.

Ble 'da chi'n dechrau

"Ond ble rych chi'n dechrau? Pa gofrestri sydd ar gael heddiw yn y naill blwyf a'r llall, a ble gellwch chi gael golwg arnyn nhw? Dyna'r cwestiynau y mae'r llyfr hwn yn ceisio eu hateb," meddai.

"Erbyn 1986 roedd bron pob un o'r plwyfi wedi trosglwyddo eu cofrestri hynaf i ofal naill ai'r Llyfrgell Genedlaethol neu un o'r archifdai lleol. Ond ers yr argraffiad cyntaf mae cannoedd o gofrestri eraill wedi eu rhoi ar gadw, gan gynnwys dros ddeg ar hugain o rhai cynnar yr oedd arnom ofn yn 1986 eu bod wedi hen fynd i ebargofiant," ychwanegodd.

Diddordeb ar hyd a lled y byd

Dywedodd iddo weld cynnydd mawr hefyd yn y diddordeb mewn hanes teulu ymhlith y Cymry a rhai o dras Gymreig ledled y byd ac yn sgil hyn bu aelodau brwd y cymdeithasau hanes teulu yn adysgrifo llawer o'r hen gofrestri plwyf a'u mynegeio.

"Rym ni'n gobeithio bod argraffiad newydd Cofrestri Plwyf Cymru yn mynd i helpu cynifer ag y gall i ddilyn trywydd eu cofnodion teuluol i'r gorffennol pell."

 
Wythnosau Blaenorol:


Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy