|
|
A
fu
crogi
ar gam?
Dal
i holi pwy oedd llofrudd milain Tiger Bay yn y pumdegau
Dydd Iau, Tachwedd 9, 2000 |
Olrhain
hanes achos Mahmood Hussein Mattan, y dyn olaf i’w grogi yng
ngharchar Caerdydd, mae’r gyfrol Crogi Ar Gam? gan y
cyn Uwch Arolygydd Roy Davies.
Fe’i cafwyd yn euog o lofruddio Lily Volpert, Iddewes 41 oed, oedd
yn cadw siop gwerthu popeth yn Stryd Bute, Tiger Bay, Caerdydd, yn
1952.
Yr oedd yn llofruddiaeth erchyll - torrwyd ei gwddf o’r tu blaen,
drwy y ddwy brif wythïen a’r asgwrn cefn.
Cael nifer yn euog ar gam
Mewn cyfnod pan welwyd nifer o achosion o bobl â gafwyd yn euog o
lofruddiaeth - yn enwedig yn Ne Cymru - yn cael eu rhyddhau ar apêl,
mae llyfr Roy Davies yn ddiddorol.
Fel mae’r marc cwestiwn yn nheitl y gyfrol - Crogi Ar Gam?
- yn awgrymu mae’r darllenydd yn cael y teimlad fod meddwl yr awdur
yn agored iawn â fu anghyfiawnder neu beidio.
Plismon yw’r awdur ac y mae’n cyflwyno’r stori yn fanwl, fanwl. Ceir
hyd yn oed gynllun o siop Lily Volpert ac o Stryd Bute a’r strydoedd
cyfagos.
Nid oedd unrhyw dystiolaeth uniongyrchol i brofi mai y Somaliad, Mahmood
Mattan, oedd y llofrudd ond roedd ei dystiolaeth ynglyn â ble
roedd e noson y llofruddiaeth, beth a wnaeth, pam y gwelwyd ef gyda
llond waled o arian trannoeth, yn rhidyll o gelwyddau.
Cael pardwn - yn rhy hwyr
Euog neu beidio, fe gyfrannodd Mattan yn helaeth tuag at ei dynged
ei hun gyda’i atebion carbwl a’i gelwyddau amlwg. Ac eto - fe gafodd
bardwn yn dilyn sefydlu y Criminal Cases Review Commission ym 1997
a’r achos yn cael ei gyflwyno i’r Llys Apêl.
Pardwn llawer yn rhy hwyr gan iddo gael ei grogi bron hanner canrif
cyn hynny. Hwn oedd yr achos cyntaf i’w ystyried gan y comisiwn newydd.
Yr oedd Mattan yn ddyn gwyllt, parod a’i ddyrnau a pharod i dynnu
cyllell o’i boced ar yr esgus lleia. Fe’i cafwyd yn euog o ddwyn arian
o’r blwch casglu yn y Mosque.
Yr oedd yn bendant yn lleidr a chelwyddgi.
Ond ai ef oedd llofrudd Lily Volpert?
Yr achos yn erbyn dau ddyn arall
Mae llyfr Roy Davies yn gwyntyllu’r achos yn erbyn dau ddyn arall.
Harold Cover, gwr o India’r Gorllewin,
a gafwyd yn euog o geisio llofruddio ei ferch ym 1969 ac a oedd yn
sicr a’i fys rywle yn y briwes.
Er bod ymosodiad echrydus Cover ar ei ferch ei hun yn debyg iawn i’r
un ar arweiniodd at ladd Lily Volpert, ni chafwyd enghraifft o Cover
yn ymosod ar rywun mewn gwaed oer. Nodwedd bwysig o lofruddiaeth Lily
- lladd er mwyn dwyn.
Hefyd dan amheuaeth yr oedd Somaliad arall - Tahir
Gass - gwr a ddioddefai gyfnodau o wallgofrwydd.
Ddwy flynedd wedi llofruddiaeth Lily Volpert cafwyd Gass yn euog o
ladd gwr o’r enw Granville Jenkins o Sir Fynwy. Ni chrogwyd ef am
y tybiwyd ei fod yn wallgof pan laddodd Jenkins.
Ond awgrym Roy Davies yw fod gwahaniaeth mawr rhwng y llabyddio oedd
yn nodweddu anfadwaith Gass a’r weithred y cafwyd Mattan yn euog ohoni.
Fel stori Conan Doyle
Mae manylion y stori yn syfrdanol. Mae yn darllen fel un o straeon
Arthur Conan Doyle, ac yn perthyn rywsut i gyfnod pan oedd pob
manylyn yn cael ei gynnwys yn adroddiadau’r papur newydd.
Dywedifr fod gennym heddiw fwy o obsesiwn gyda llofruddiaethau nag
erioed. Mae holl naws y stori hon yn gwneud ichi feddwl fod yr obsesiwn
hyd yn oed yn fwy yn y gorffennol.
Mae hon yn stori sy’n gafael. Ac fe ellid disgwyl stori’n cael
ei hadrodd yn dda ac yn ofalus gan awdur profiadol cyfrolau fel Llaw
Dialedd, Y Gwr Drwg a’i Obeithion a Dirgelwch
y Cwm Du
Enillodd y gwaith wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Môn - er na
ddywedir hynny yn y broliant.
Mae Crogi Ar Gam? Hanes llofruddiaeth Lily Volpert wedi
ei gyhoeddi gan Wasg Gomer, pris £4.95.
|
|
|