|
|
Arlunydd
yn erbyn bwlis - lluniau a geiriau gan Jac Jones
Hefyd
y
rhestr ddiweddaraf o lyfrau sydd ar werth
Dydd Iau, Hydref 26, 2000
|
I fynd yn syth at y rhestr o lyfrau newydd
cliciwch yma:
Awdur ar daith yn erbyn bwlis
gan Barry Thomas
Anaml y gwelwch chi artist yn teithio o gwmpas Cymru yn trafod ei
waith. Anamlach fyth y mae awdur yn pedlo beic o Langefni i Gaerdydd
er mwyn cael ysbrydoliaeth.
Ond dyna’n union a wnaeth Jac Jones ar gyfer ei lyfr diweddaraf,
Betsan a’r Bwlis.
Er bod yr arlunydd o Fôn wedi gwneud lluniau ar gyfer 380 o lyfrau
i gyd gan gynnwys llyfrau plant fel Jac y Jwc, Gwion a’r
Wrach a Y Cwilt, Cath Ty Popty, y llyfr Betsan
a’r Bwlis yw’r cyntaf lle mae wedi ysgrifennu’r stori
yn ogystal â chreu’r lluniau.
Yn awr mae’n ymweld ag ysgolion i drafod y llyfr gyda’r disgyblion.
Yn Ysgol Gynradd Rhiwlas yn ddiweddar bu’n trafod ac esbonio cynnwys
Betsan a’r Bwlis, a dangos i blant bod modd trechu
bwlis.
Hefyd, dangosodd, trwy ei luniau ef ei hun, fod gofyn i arlunydd
fedru tynnu pob math o luniau er mwyn ennill ei damaid.
Bu’r ymateb yn rhagorol. Meddai Lowri Elen Owen, naw oed: "Dwi’n
hoffi’r lluniau yn Betsan a’r Bwlis. Mae nhw’n fawr ac yn lliwgar
hefyd, ac yn edrych yn 3D. Roedd Jac Jones yn ddiddorol. Ei luniau
doniol o oedd y gorau gin i."
Am y llyfr
Mae Betsan a’r Bwlis ar gyfer plant chwech i wyth oed a’i fwriad
yw cael plant sy’n cael eu bwlio i sgwrsio am y peth.
Ceir haenau o wybodaeth ar gyfer plant ac oedolion yn y lluniau.
Yn ogystal â dangos i blant fod bwlio’n ddrwg, mae’r llyfr yn dangos
pa mor hawdd yw hi i oedolion fethu’r arwyddion.
Mae ynddo neges i bawb o bob oed.
Dyma restr yr wythnos
hon o
lyfrau newydd:
LLYFRAU CYMRAEG A DWYIEITHOG CATRIN JONES YN UNIG: Meleri Wyn James
1859029078 Gwasg Gomer £6.95 Nofel gyfoes ar ffurf dyddiadur merch
yn ei hugeiniau.
CYFRES NOFELAU I'R ARDDEGAU: BOZ A SLEIMI: Mari Williams 185902825X
Gwasg Gomer £3.95 Nofel wreiddiol ar thema bwlio, i rai yn eu harddegau.
CYFRES STRAEON PLANT BACH: EIRA WEN: Addas. Myrddin ap Dafydd 0863816487
Gwasg Carreg Gwalch £2.50 Llyfr bwrdd yn cyflwyno stori werin draddodiadol.
CYFRES STRAEON PLANT BACH: TRI MOCHYN BACH, Y: Addas. Myrddin ap
Dafydd 0863816460 Gwasg Carreg Gwalch £2.50 Llyfr bwrdd yn cyflwyno
stori werin draddodiadol.
FFEILOFFAITH 2001: 0862435390 Y Lolfa £4.95 Fersiwn ffeiloffaith
o ddyddiadur poced y Lolfa. Tudalennau rhydd a sbeiral.
LLYFRAU SAESNEG O DDIDDORDEB I GYMRU
CELTIC RITUALS - AN AUTHENTIC GUIDE TO ANCIENT CELTIC SPIRITUALITY:
Alexei Kondratiev 1902012186 New Celtic Publishing £5.00 Astudiaeth
o ddefodau'r chwe chenedl Geltaidd.
CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU / NATIONAL ASSEMBLY FOR WALES, THE
- THE ESSENTIAL GUIDE 2000: 1902724232 UWIC £7.50 Cyfeirlyfr yn
cynnwys gwybodaeth am y Cynulliad a'i aelodau.
DETECTIVE'S STORY, A: David Marsh-Smith 1903314054 David Marsh-Smith
£4.95 Hanes profiadau plismon Prydeinig yn India ar ddechrau’r ugeinfed
ganrif.
DYLAN THOMAS - COLLECTED POEMS 1934-1953: Dylan Thomas Goln. Walford
Davies, Ralph Maud 0753810662 The Phoenix Press £5.99 Casgliad o
gerddi un o feirdd gorau'r ugeinfed ganrif.
HIDDEN INNS OF WALES, THE: Gol. Barbara Vesey 1902007530 Travel
Publishing Ltd. £5.99 10 o benodau yn rhoi sylw i holl ardaloedd
Cymru.
MULTIVERSE: Don Rodgers 1854112821 Seren £6.95 Casgliad newydd o
gerddi.
OWEN AND THE MOUNTAIN: Malachy Doyle Darl. Giles Greenfield 074754770X
Bloomsbury Publishing Ltd £9.99 Stori i blant am y berthynas rhwng
bachgen a'i daid.
RELIGION, CULTURE AND SOCIETY: NOVEL, SPIRITUALITY AND MODERN CULTURE,
THE: Gol. Paul S. Fiddes 0708315992 Gwasg Prifysgol Cymru £14.99
Ysgrifau gan wyth o nofelwyr.
WELSH BOOK OF THE DEAD, THE: Douglas Houston 1854112783 Seren £6.95
Casgliad o gerddi.
Mae'r rhestr hon gan y Cyngor Llyfrau yn cael ei diweddaru bob dydd
Iau. I gael holl fanylion y llyfrau, ac i archebu trwy siop lyfrau
o'ch dewis chi, cliciwch ar
|
|
|