Â鶹Éç


Explore the Â鶹Éç

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹Éç Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Swyno
merched
a halltu
pysgod


Gwyn Griffiths yn son am gyfrol o lenyddiaeth Gernyweg

Dydd Iau, Hydref 5, 2000

Y mae bywiogrwydd llenyddol anghyffredin ymysg ein cefndryd yng Nghernyw y dyddiau hyn.

Y gyfrol ddiweddaraf ddaeth i law yw Looking at the Mermaid - A Reader in Cornish Literature, 900 - 1900, wedi ei golygu gan Alan M. Kent a Tim Saunders. A chyfrol swmpus yw hi, 366 o dudalennau.

Cyfrol o farddoniaeth a rhyddiaith, yn y Gernyweg - gyda chyfieithiadau Saesneg gyferbyn. Hefyd ceir darnau yn ymwneud â Cheryw mewn Lladin, Eingl-Sacsoneg a Ffrangeg ynghyd â chyfieithiadau o’r rheini, hefyd. A deunydd mwy diweddar yn Saesneg.

Mae’r teitl, gyda llaw, yn dod o un o’r dramau Beiblaidd hynny sy’n rhan sylweddol o’r corff llenyddiaeth yn yr iaith Gernyweg, ac o lên Llydaw o ran hynny.

Mae dau wr doeth yn dadlau gerbron Peilat a Caiaphas - a ddylai Crist gael ei groehoelio neu beidio?

A ydy’n bosib i Grist fod yn Dduw a dyn? "Edrychwch ar y fôr-forwyn, hanner pysgodyn, hanner dyn" medd un ohonynt, "gawn ni gredu’r un peth amdano Yntau."

Mae’r fôr-forwyn yn ganolog i chwedloniaeth a llên Cernyw ar draws y canrifoedd, ac yn symbol o’i chysylltiadau hanesyddol â’r môr.

Y mae deunydd y gyfrol yn ymwneud â chymysgfa gyfoethog o bynciau - crefydd, hanes, moeseg, mytholeg, pysgota, mwyngloddio a chyngor ar bob math o bynciau, megis sut i swyno merch a sut i halltu pysgod.

Cyfrol ardderchog i’r sawl sydd am wybod beth oedd gan ein cyd-Geltiaid i’w ddweud dros fil o flynyddoedd amdanyn nhw eu hunain ac am y byd o’u cwmpas.

Mae darn sylweddol o hanes Meriasek (Meriadek yn Llydaweg) a luniwyd ar ffurf cerdd yn y Gernyweg - sy’n dangos mor agos oedd y cysylltiadau rhwng Cernyw a Llydaw.

Diddorol darllen Nebbaz Gerriau Dro Tho Carnoack gan wr o’r enw Nicholas Boson yn sgrifennu tua 1675.

"Mae ein hiaith wedi gwanychu fel mai prin y gellir disgwyl gweld ei hatgyfnerthu eto," meddai. Ni welai lawer o obaith i’r Llydaweg, chwaith. Ac am y Gymraeg. "Ni wn beth all y Cymry wneud i gadw eu hiaith; ond fe wn, wrth ei chwaer y Gernyweg, nad yw werth llawer ochr yn ochr a’r Saesneg …(!)" meddai.

Sonia am ei fam yn rhybuddio’r gweision a’r morynion a’r cymdogion rhag siarad dim ond Saesneg ag ef pan oedd yn chwech oed.

Diddorol i Gymry yw’r llythyrau gan Edward Llwyd agrifennwyd i wr o’r enw Thomas Tonkin rhwng 1700 a 1708. Llythyrau sy’n dangos ei ddiddordeb mewn hen lawysgrifau Cernyweg ac enwau lleoedd. Ceir yn y gyfrol gerdd Gernyweg gan Llwyd, hefyd.

Ceir portread difyr a bywiog o Dolly Pentreath, yr honnir mai hi oedd y person olaf a fedrai siarad Cernyweg, mewn darn "On the Expiration of the Cornish Language" gan Daines Barrington a sgrifennwyd tua 1776.

"… Dolly Pentreath spoke in an angry tone of voice for two or three minutes, and in a language which sounded very much like Welsh."

Yr oedd Barrington yn annog anfon rhywun a fedrai Gymraeg i ymweld â Dolly a dwy gymdoges iddi, dim un ohonyn nhw dros 77 a 78 oed. Buasai hynny yn fodd i gasglu hen eiriau o’r iaith, meddai. Bu Dolly farw yn 1777.

Ychydig a ddewisais. Gair bach o ganmoliaeth i Francis Boutle sy’n mentro cyhoeddi cynifer o gyfrolau yn y Gernyweg - a rhai graenus iawn ydyn nhw, hefyd. Mae’n galonogol clywed fod y nifer o lyfrau Cernyweg a dwy-ieithog Cernyweg/Saesneg a gyhoddwyd gan y cwmni yn ddiweddar yn gwerthu’n dda.

Mae adrannau Celtaidd mewn prifysgolion yn America yn cymryd diddordeb mawr ynddynt ac y mae arwyddion eisoes bod y cyhoeddiadau wedi llwyddo i berswadio rhai o’r adrannau hyn i newid cyfeiriad eu cyrsiau.

Safle’r cwmni ar y wê yw: www.francisboutle.demon.co.uk
Wythnosau Blaenorol:

Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy