Â鶹Éç


Explore the Â鶹Éç

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹Éç Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Potread o Lorenza
Portread o Lorenza

Artist mewn perygl o’i gladdu dan dorf o gyn-deidiau

Phil ap Iorwerth yn adolygu O Hendrefigillt i Livorno gan T Gwynfor Griffith

Yn y llyfr O Hendrefigillt i Livorno mae’r Athro T Gwynfor Griffith yn olrhain hanes yr artist Llewelyn Lloyd a aned yn Livorno ym 1879; artist y mae cryn barch iddo yn yr Eidal ond sy’n aros yn anwybyddus yng ngwlad ei dadau.

Petai ond oherwydd iddo ddwyn Llewelyn Lloyd i sylw’r Cymry mae’r llyfr hwn i’w groesawu. Mwy na hynny mae’r gyfrol yn cynnwys atgynhyrchiadau o safon uchel o 23 o ddarluniau Llewelyn Lloyd gan roi inni flas o safon ei waith. Hoffwn petai rhywfaint o waith ei gyfoeswyr yn yr Eidal wedi ei gynnwys hefyd.

Yn ei ragymadrodd mae'r awdur yn nodi iddo gael ei demtio i gasglu’r holl wybodaeth newydd yn un o’r "cyfrolau trwchus hynny lle mae’r troednodiadau’n mynnu mwy o ofod na’r testun". Yn anffodus, wrth geisio osgoi hynny, mae wedi llunio cyfrol heb yr un troednodyn ond nad yw, yn y bôn, yn ddim amgen nag un troednodyn hir i’r hyn y tybiwn i sy’n bwysig os ydym am werthfawrogi Llewelyn Lloyd fel artist.

Hynny yw, mae rhan helaethaf y gyfrol wedi ei chyfyngu i olrhain hanes teulu Llewelyn Lloyd yn ardal Helygain, Sir y Fflint. Cynhwysir achresi sy’n ein tywys yn ôl at hen-hen-daid Llewelyn, ynghyd ag achresi disgynyddion ei ewythr ac achresi teulu arall o Lwydiaid Sir y Fflint fu hefyd yn byw yn Livorno yn yr un cyfnod. Gellid hepgor yn gyfan gwbl, bron, hanes Llwydiaid Hafod, ac yn enwedig hanes y teulu wedi iddyn nhw adael Livorno a thorri felly unrhyw gysylltiad â theulu Llewelyn Lloyd.

Gosodiadau goddrychol

Fodd bynnag, mae’r awdur yn nodi "bydd yr erthyglau ar faterion technegol yn dilyn, a digon o droednodiadau ynddynt i gyfiawnhau’r gosodiadau", ac efallai y dylwn ystyried y gyfrol hon fel tamaid i aros pryd. Rwy’n ddiolchgar ei fod yn bwriadu cyfiawnhau’r gosodiadau gan fod y llyfr yn frith o osodiadau goddrychol na wnaed unrhyw ymdrech i’w cyfiawnhau.

Ar wahân i nodi bod darluniau gan Llewelyn Lloyd i’w gweld yn orielau’r Uffizi a’r Palazzo Pitti yn Firenze, a’r Galleria Nazionale d’Arte Moderna yn Rhufain [sic] a bod y Premio Llewelyn Lloyd yn wobr y mae artistiaid ifanc yr Eidal yn cystadlu’n frwd amdani (ni cheisir rhoi cig ar yr asgwrn hwn, a rhaid inni geisio dyfalu drosom ein hunain union ystyr ‘brwd’), ni cheir fawr ddim yn y gyfrol am Llewelyn Lloyd fel artist.

(Un o nodweddion arddull ysgrifennu yr Athro Griffith yw ei fod yn mynnu defnyddio’r ffurf frodorol ar enwau lleoedd yn yr Eidal, ond mae rhai yn dianc trwy’r rhwyd e.e. Rhufain/Roma a Milan/Milano. Mae anghysondeb hefyd yn ei driniaeth o enwau lleoedd Eidalaidd a rhai Prydeinig - oni ddylai defnyddio’r un egwyddor gyda Lerpwl, Llundain, Manceinion a Bryste?)

Un o brif wendidau’r gyfrol, ac un na ellir yn hawdd ei faddau gan adolygydd na gan unrhyw un sy’n bwriadu ei defnyddio fel arf astudio, yw absenoldeb unrhyw fath o fynegai.
Eglwys Fach Bagno ar Ynys Elba

Er bod yr Athro Griffith wedi pwyso’n drwm ar ddwy gyfrol Eidalaidd gan eu defnyddio fel ffynonellau ar gyfer yr atgynhyrchiadau, hyd y cofiaf nid yw’n dyfynnu yr un o’r ddau awdur, er bod un o’r cyfrolau hynny gan Ferdinando Donzelli yn "gyfrol sylweddol ar baentiadau Lloyd".

Mae’r awdur yn nodi hefyd bod Llewelyn Lloyd wedi cyhoeddi hunangofiant, Tempi andati, nad oedd yn "hunangofiant confensiynol...ond fersiwn Lloyd ei hunan o’i hanes fel arlunydd." Mae’r esgusodion dros beidio cynnwys mwy am waith Lloyd yn brin felly, ac mae’n drueni bod yr awdur wedi ei swyno i hel achau’r Llwydiaid i’r fath raddau.

Mae un o’r achresi yn dangos enwau a dyddiadau pedwar ewythr a phedair modryb i Llewelyn Lloyd, pump hen-ewythr a phump hen-fodryb, pump hen-hen-ewythr a dwy hen-hen-fodryb nes cyrraedd ei hen-hen daid a nain. Mae hyn yn ormodedd a dweud y lleiaf.

Angen tocio

Lle gynt yr anwybyddwyd Llewelyn Lloyd, mae’n awr mewn peryg o gael ei gladdu dan dorf o’i gyn-deidiau. Fel y gwyr unrhyw arddwr, rhaid tocio canghennau i sicrhau bod y rhosyn i’w weld yn glir. Dyna y dylid bod wedi ei wneud yn yr achos hwn.

Yr unig beth yr oedd angen ei wneud oedd sefydlu’r ffaith mai yn ardal Helygain, Sir y Fflint, yr oedd gwreiddiau teulu Llewelyn Lloyd, egluro sut y bu iddo gael ei eni a’i fagu yn yr Eidal a wedyn gellid bod wedi defnyddio gweddill y gyfrol i adrodd hanes ei fywyd ac i asesu ei waith yn wrthrychol. Byddai hynny wedi esgor ar lyfr mwy defnyddiol a, rhaid cyfaddef, mwy darllenadwy.

Wele enghraifft o'r problemau sy’n ein hwynebu fel darllenwyr oherwydd y pwyslais ar achau: "...mae Robert o ddiddordeb arbennig i ni. Ef oedd tad y bechgyn â ymfudodd i Livorno. Ganed Robert ym mis Mehefin 1801.

"Priododd â Maria Hughes (g. Mehefin 1810), merch John Hughes, Cilcain, yn eglwys Cilcain, 12 Rhagfyr 1834... ...yn eglwys Cilcain y bedyddiwyd eu cyntafanedig, William (ganed yn Tarth-y-dwr ym mis Mai, 1835; ymfudodd i Livorno 1858). Felly hefyd Edward (g.1836 yn Ty'n-twll; claddwyd yn Ionawr 1841)...." ac ymlaen yn yr un modd.

O fewn y cyfyngiadau y mae’r awdur wedi ei osod arno fo’i hun mae’r llyfr yn cyflawni ei waith o ddilyn gwreiddiau Cymreig a Chymraeg Llewelyn Lloyd ac o ddwyn yr artist talentog hwn i sylw ei gyd-Gymry. Petai ond am gyflawni’r olaf o’r rhain mae hwn yn llyfr i’w groesawu’n fawr, ond collwyd cyfle.

Cwch gadawedig (1911)
Mae’n drueni na chydweithiodd yr awdur gydag arbenigwr ar gelf yr Eidal i gynhyrchu cyfrol fyddai’n dadansoddi gwaith yr artist a’i osod yn ei gyd-destun. Mae’n ymddangos yn od i mi fod unrhyw gyfrol sy’n sôn am arlunio yn yr Eidal yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif yn medru osgoi trafod y mudiadau artistig oedd yn y wlad - y futuristi er enghraifft - nac am y mudiadau artistig eraill y byddai Llewelyn Lloyd yn sicr o fod yn ymwybodol ohonynt: y ciwbistiaid a De Stijl i enwi dwy enghraifft yn unig.

Siawns nad ydyw Tempi andati yn cofnodi ei ymateb i waith Picasso, Braque, Balla, Boccioni a Severini - byddai’n sicr yn gyfarwydd â gwaith y tri olaf.

Wn i ddim pwy ddylai dderbyn y bai am y gosodiad ysgubol ar glawr cefn y gyfrol mai "Stori dditectif o fath a geir yn y gyfrol hon am un o artistiaid mwyaf pwysig yr Eidal." (Fy mhwyslais i.) Byddai'n dipyn o dasg cyfiawnhau’r gosodiad ei fod yn un o artistiaid mwyaf pwysig yr ugeinfed ganrif yn yr Eidal. Yn bendant gellir ei ddisgrifio fel un o’r artistiaid mwyaf pwysig o dras Cymreig, nid bod hynny’n beth anodd ei gyflawni.

Siom

Mae’n ddrwg gennyf na allaf fod yn fwy positif ynglyn â’r gyfrol hon. Fel un sydd wedi pendroni llawer am Llewelyn Lloyd ers imi weld tri o’i ddarluniau yn y Palazzo Pitti yn Fflorens ym 1992 roeddwn wedi edrych ymlaen at ddysgu mwy amdano ef a'i waith. Yn hynny o beth fe'm siomwyd.

Ond cytunaf yn llwyr â’r awdur pan ddywed ei fod yn "resyn" nad oes yr un enghraifft o ddarluniau Llewelyn Lloyd yn ein horielau a’n hamgueddfeydd ni yng Nghymru. Af ymhellach - mae'n warth, a dylid ceisio gwneud iawn am hynny ar fyrder. Deallaf fod darluniau o waith Llewelyn Lloyd yn dod i’r farchnad o bryd i’w gilydd a bod y prisiau yn gymharol rhesymol.

Hoffwn nodi hefyd y byddwn yn dathlu 125 o flynyddoedd ers geni Llewelyn Lloyd yn y flwyddyn 2004 ac y byddai'n achlysur ardderchog i gynnal arddangosfa fenthyg o’i waith yma yng Nghymru. Siawns nad yw pedair blynedd yn hen ddigon o amser i baratoi hynny.

Cyhoeddwyd O Hendrefigillt i Livorno gan Wasg Gomer, pris £9.95.

Y lluniau yn yr erthygl:

1. Portread o Lorenza (1921)
Defnydd hyderus o liwiau cryfion yn rhoi dyfnder i'r llun, a'r portread mewn proffil yn atgoffa rhywun o waith amryw un o artistiaid y Dadeni yn yr Eidal.

2. Eglwys fach Bagno ar Ynys Elba
Cyfansoddiad anarferol sy'n fy atgoffa o waith artist arall o Gymru fu'n gweithio yn yr Eidal yn y 18fed Ganrif: Thomas Jones, Pencarreg.

3. Cwch gadawedig (1911)
Mae'r llun hyn yn dangos iddo ddechrau symud i ffwrdd o'i arddull gynnar.
Wythnosau Blaenorol:

Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy