|
|
Ar
drywydd gwartheg
Cymru
Cychwyn
da i gyfres
am dda byw
Dydd Iau, Awst 24, 2000 |
Adolygiad
gan Ioan Mai Evans
Croeso i’r gyfrol gyntaf mewn cyfres am dda byw Cymru gan gychwyn
gyd²¹â€™r Gwartheg.
Mae’r gwaith gan Wasg Carreg Gwalch yn gymen a chanmoladwy, ²¹â€™r ymdriniaeth
gan yr awdur yn feistrolgar fel arfer gan Twm Elias.
Mae’n olrhain hanes y fuwch o gyfnod y dofi cynhanesyddol mor bell
a Mesopotamia, a heibio wedyn i’r amaeth cynnar yn y
wlad hon a hyd at ddyddiau’r hafod ²¹â€™r hendref a ³¦³ó’l²¹³¾²¹¾±
a ³¦³ó’l²¹²Ô²µ²¹±ð²¹´Ú.
Arweinir y darllenydd ymlaen i’r canol oesoedd at y dulliau
o aredig gyd²¹â€™r ychen. Ceir golwg ar y datblygiadau yn amser Hywel
Dda a Gerallt Gymro, heb anghofio cyfraniad yr anifail
i’n chwedloniaeth a’n llên, fel yn chwedl Llyn y Fan Fach,
a stori Culhwch ac Olwen.
Camu ymlaen wedyn i’r ddeunawfed ²¹â€™r bedwaredd ganrif ar bymtheg a
dod ar draws Triban fel hwn er hybu’r ychen:
Dau ych yw Sali a Sowin
Un yn goch ²¹â€™r llall yn felyn
Pan yn aredig yn eu chwys
Hwy dorrai gwys i’r blewyn.
Caiff blynyddoedd y Chwyldro Diwydiannol ²¹â€™r adwaith ar amaethu
ei le gyda dyfodiad y Porthmyn llawn rhamant.
Ac yn drefnus ddigon aiff yr is-deitlau - y Porthmyn a Cherdded Gwartheg,
Marchnadoedd Lloegr, Disgrifiadau o Ffair Barnett, Dyfod Dyfodiad
y Rheilffordd, Effaith y ffeiriau ²¹â€™r Gyfundrefn Farchnata a ni at
y buchesi pedigri ²¹â€™r Gwartheg Duon Cymreig, nes dod
at argyfwng y nawdegau.
Rhaid cyfeirio at yr hanner cant o luniau prin sydd yn y gyfrol
a hefyd y llyfryddiaeth ar y diwedd.
Gwartheg - Llyfr dwyieithog
gan Twm Elias. Gwasg Carreg Gwalch. £3.50 - cychwyn ar gyfres
gyda chyfrol gampus gwerth dwbl ei phris.
I ddychwelyd i'r rhestr o lyfrau newydd
ac adolygiad o Nofel Gwobr Goffa Daniel Owen cliciwch yma
|
|
|