|
|
Hwyl
efo
pechod
Cylchgrawn
yr wythnos yw tu chwith.com ac mae o'n bechadurus
Dydd Iau, Awst 3, 2000 |
gan
Glyn Evans
Yn 么l y rhai hynny sy鈥檔 gwybod y mae pechu yn llawer iawn mwy o hwyl
na - wel na pheidio 芒 phechu, mae鈥檔 debyg.
Yn sicr, rhoddodd pechod inni rifyn tra diddorol o鈥檙 cylchgrawn
tu chwith.com.
Blas ifanc sydd ar y cylchgrawn ond yn ddigon difyr ar gyfer pob oed
er i ambell gyfraniad fod efallai rywfaint yn hunandybus.
Ar gyfer rhifyn Haf 2000 penderfynwyd cyhoeddi rhifyn ar y thema Pechod
a bu鈥檔 benderfyniad llwyddiannus gan y golygydd newydd, Lowri Davies
o Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth.
Dydi bob cyfraniad ddim yn ffitio鈥檙 disgrifiad swydd yn gysact ond
fydd neb yn cwyno am hynny.
Holi am y nofel Gymraeg
Mae鈥檙 cylchgrawn yn agor trwy fentro gyda鈥檙 cwestiwn dyrys; beth yw
dyfodol y nofel Gymraeg - ffurf lenyddol y byddai rhai yn dadlau nad
oes iddi fawr o orffennol heb s么n am ddyfodol.
Gofynnwyd i ddeg o bobl - un ohonyn nhw yn ddienw - basio barn ar
drothwy cyfarfod a fydd yn cael ei gynnal yn yr Iglw ar Faes yr
Eisteddfod Genedlaethol Llanelli am 11.30, Awst 10.
Mae Bethan Gwanas yn rhoi cic haeddiannol i鈥檙 arfer
gwirion o gyfieithu nofelau Saesneg ar gyfer oedolion i鈥檙 Gymraeg.
Gwell, meddai hi a phawb arall call, fyddai defnyddio鈥檙 arian i ddatblygu
gwaith gwreiddiol Cymraeg a Chymreig.
Dywed Bethan hefyd nad oes digon o nofelau o sylwedd yn y Gymraeg
am nad oes arian ar gael i alluogi awduron i鈥檞 sgrifennu.
Rhyw mewn nofelau
Yn dal efo鈥檙 nofel y mae Ifor ap Dafydd yn cymharu yr ymdriniaeth
o ryw ym Monica gan Saunders Lewis, Ienctid
yw Mhechod gan John Rowlands a Dirmyg Cyhoeddus
gan Androw Bennett.
Yr oedd Ienctid yw Mhechod yn un o nofelau blaengar
(rywiol) fy ieuenctid i. Cyhoeddwyd Dirmyg Cyhoeddus
gyda鈥檌 disgrifiadau amrwd o ryw rai blynyddoedd yn 么l gyda鈥檙 awdur,
os cofiaf yn iawn, yn defnyddio鈥檙 gair erotig i鈥檞 disgrifio.
Eraill yn defnyddio'r term nofel fudur!
Arlunydd yn sathru cyrn
Pechod yr arlunydd John Redhead oedd sathru cyrn mamau dibriod
a gweddill trigolion Deiniolen yn Arfon gyda鈥檙 llinell "In deiniolen
every night converting young girls into single mothers with prams".
Mae o鈥檔 dweud, fodd bynnag, mai cael ei gamddeall a鈥檌 gamddehongli
a wnaeth ac i hynny wneud ei fywyd yn uffern.
Yn ei atebion i gwestiynau Gwenan Thomas mae o mewn peryg o ychwanegu
at ei adfyd trwy greu darlun gwahanol iawn o weithwyr chwareli yr
ardal o鈥檌 gymharu 芒鈥檙 un rhamantus arferol o chwarelwr diwylliedig.
Mae鈥檔 eu disgrifio yn mynychu puteindai - "roedd yna o leiaf 15
putain yn y pentref ar un adeg" meddai gan awgrymu eu bod yn bymtheg
prysur iawn hefyd.
Cynghorydd - nad yw鈥檔 cael ei enwi - sy鈥檔 cael y bai ganddo am gamarwain
y Deinioliaid.
"Dwi鈥檔 wallgo fod y Cynghorwyr lleol 鈥檓a wedi corddi pethau . . .
tydi 鈥檔gwyneb i ddim yn ffitio, a dwi鈥檔 fastad o Sais yng ngolwg nifer
o bobol leol. Mae鈥檔 rhaid i artist fynegi ei deimladau . . ." meddai.
Ond go brin y bydd dal i wneud hynny o help iddo adfer ei enw da yn
lleol ond mae Tu Chwith yn ddigon craff i sylweddoli fod ei
brotestiadau yn gopi da.
Nofelydd yn taro'n ôl
Un arall sy鈥檔 taro鈥檔 么l wedi i rywun bechu yn ei erbyn yw Owen
Martell - enillydd cystadleuaeth Nofel 2000 Gomer.
Gwilym Owen dynnodd flewyn o鈥檌 drwyn ef trwy ddisgrifio, hyd y gallaf
i ddeall, bennawd di-dreigledig y nofel fuddugol, Cadw dy Ffydd,
Brawd, fel Cymraeg Crap.
Mae Owen Martell yn cynnig y rheswm mwyaf gwreiddiol eto am unrhyw
anallu ieithyddol. Bu鈥檔 rhaid iddo pan yn fyfyriwr tlawd losgi
ei lyfr gramadeg er mwyn cadw鈥檔 gynnes.
Tebyg fod Gwilym yn defnyddio鈥檙 blew y mae鈥檔 eu tynnu o drwynau pobl
gor-sensitif i鈥檞 gadw鈥檌 hun yr un mor gynnes!
Edrych ar bechod o safbwynt Pabydd o Gymro y mae Iestyn
Daniel a bu Sion T. Jobbins yn trafod pechod gyda rheithor
eglwys Pennal, Geraint ap Iorwerth.
Y beirdd sy鈥檔 cyfrannu at y cylchgrawn yw Ifan Prys, Iwan
Llwyd a Grahame Davies - golygydd newyddion 麻豆社 Cymru鈥檙
Byd gyda llaw.
ty chwith.com. Cyfrol 13, haf 2000. Pechod. 拢3.50.
|
|
|